Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 9 Hydref 2013 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:05 - 11:23 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
David Rees (Cadeirydd) Leighton Andrews Rebecca Evans William Graham Elin Jones Darren Millar Lynne Neagle Gwyn R Price Lindsay Whittle Kirsty Williams |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Baroness Finlay of Llandaff Veronica Snow, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys Mark Drakeford, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Gwenda Thomas, Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Kevin Flynn, Cyfarwyddwr Cyflenwi a Brif Weithredwr GIG Cymru, Llywodraeth Cymru Albert Heaney, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru Dr Grant Robinson, Arweinydd Clinigol ar gyfer Gofal heb ei Drefnu
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Llinos Madeley (Clerc) Helen Finlayson (Ail Clerc) Sarah Sargent (Dirprwy Glerc) Sarah Hatherley (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
2 Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru): Cyfnod 2 - trefn y drafodaeth
2.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y drefn ystyried ar gyfer ei waith o graffu ar y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yng Nghyfnod 2.
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
3.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.
4 Gofal heb ei drefnu - sesiwn friffio ar waith y grwp cynghori gweinidogol
4.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod gwaith y grŵp cynghori gweinidogol ar ofal heb ei drefnu â'r Farwnes Finlay o Landaf a Veronica Snow o Fwrdd Iechyd Addysgu Powys.
5 Gofal heb ei drefnu - bod yn barod ar gyfer gaeaf 2013/14
5.1 Atebodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, a'u swyddogion, gwestiynau'r Pwyllgor.
5.2 Cytunodd y Gweinidog i:
5.3 Nododd y Dirprwy Weinidog y byddai'n darparu manylion i'r Pwyllgor ynghylch y prosiectau gofal integredig sy'n mynd rhagddynt yng Nghymru.
5.4 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog i:
· nodi y bydd yn dychwelyd at y pwnc hwn yn ystod gwanwyn/haf 2014 er mwyn:
(i) adolygu'r cynnydd yn ystod gaeaf 2013/14;
(ii) ystyried canfyddiadau’r ymchwiliad y bydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ymgymryd ag ef yn fuan ynghylch gofal heb ei drefnu a rôl gofal sylfaenol lleol; ac
(iii) ystyried a oes angen cynnal ymchwiliad ehangach ynghylch gofal heb ei drefnu yn sgîl pwyntiau (i) a (ii).
· gofyn am ragor o wybodaeth ynghylch y modd yr ystyrir sicrhau bod capasiti yn y system iechyd a gofal cymdeithasol, ac nid ysbytai yn unig, mewn cyfnodau o alw mawr dros gyfnod y gaeaf; a
· gofyn am ragor o wybodaeth am y sail resymegol a fydd yn cael ei mabwysiadu i ddosbarthu'r £150 miliwn ychwanegol a ddyrannwyd i'r portffolio iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ar gyfer blwyddyn ariannol 2013-14.
6 Papurau i’w nodi
6.1 Llythyr gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru
6a.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru.
7 Blaenraglen waith:
7.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod ei flaenraglen waith ar gyfer y cyfnod ar ôl y Nadolig.
7.2 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad byr yn fuan yn 2014 ynghylch caethiwed i feddyginiaethau a geir ar bresgripsiwn a dros y cownter. Bydd y pwyllgor yn trafod papur cwmpasu ar gyfer yr ymchwiliad mewn cyfarfod yn y dyfodol.
7.3 Cytunodd y Pwyllgor i wahodd y Prif Swyddog Deintyddol i gyfarfod yn y dyfodol er mwyn:
· rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect peilot deintyddol; ac
· archwilio cwmpas ymchwiliad posibl yn y dyfodol i fynediad at ddeintyddiaeth y GIG.