Ymateb Ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn dilyn ei Ymchwiliad i Uwch Gynghrair Cymru

 

Ionawr 2013

 

 

Mae cynyddu’r nifer o bobl sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru felly roeddwn yn falch iawn o roi tystiolaeth  i’r ymchwiliad hwn ac rwy’n croesawu adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol. Mae pêl-droed yn gêm boblogaidd yng Nghymru, sy’n cael ei chwarae a’i gwylio gan nifer fawr o bobl ac rydym wedi gweld yr effaith y mae’n gallu ei chael o ran creu teimlad o falchder cenedlaethol. Mae’n beth da i’r Pwyllgor dderbyn gymaint o agweddau barn positif ac  adeiladol gan randdeiliaid allweddol a phobl eraill sydd â diddordeb yn nyfodol Uwch Gynghrair Cymru a phêl-droed yng Nghymru’n gyffredinol. Bydd Llywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru yn parhau i weithio mewn partneriaeth gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru  ac Ymddiriedolaeth

Bêl-droed Cymru i helpu’r corff llywodraethu i weithredu ei gynllun strategol i ddatblygu ymhellach y gêm yng Nghymru.

 

Mae datblygu’r gêm ar lawr gwlad yn hanfodol os yw pêl-droed am ffynnu yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu mwy o gyfleoedd chwaraeon ar gyfer ein pobl ifanc, ni waeth be fo’u hamgylchiadau personol ac rydym yn parhau i gefnogi datblygiad pêl-droed ar lawr gwlad drwy Chwaraeon Cymru sy’n gweithio’n agos gydag Ymddiriedolaeth

Bêl-droed Cymru. Mae ein buddsoddiad wedi helpu i wella safonau hyfforddi, wedi darparu mwy o gyfleoedd i bobl ifanc gael chwarae’r gêm ac wedi helpu i roi gweithdrefnau cadarn yn eu lle er mwyn canfod ein chwaraewyr mwyaf talentog fel y gallant dderbyn gwell hyfforddiant er mwyn gwneud cynnydd.

 

Thema gref sy’n ei hamlygu ei hun yn yr adroddiad hwn yw’r defnydd o gaeau chwarae 3G a 4G ac rwy’n cydnabod manteision gosod y math yma o gyfleusterau o ran defnydd parhaol a’u hargaeledd drwy’r flwyddyn. Fodd bynnag, rwy’n gorfod pwysleisio hyd yn oed pe bai gennym gyllidebau a fyddai’n ein galluogi i gefnogi'r fath fuddsoddiad cyfalaf ar raddfa fawr ni fyddai disodli caeau glaswellt a gosod cyfleusterau fel hyn yn eu lleledled Cymru yn ateb y materion a godwyd yn yr adroddiad hwn. Mae angen i’r dechreubwynt fod yn drafodaeth fwy strategol rhwng cyrff llywodraethu’r gamp, yr awdurdod lleol a chlybiau am y mathau hyn o gyfleusterau sy’n angenrheidiol yn y tymor hir a sut y gellir eudefnyddio i’r eithaf er budd y gymuned ehangach, gan gynnwys y bobl hynny nad ydynt yn cymryd rhan mewn chwaraeon ar hyn o bryd.    

 

Rwyf wedi amlinellu fy ymateb i argymhellion unigol y bwrdd sy’n dod o dan gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru .

 

 

 

 

Mae ymatebion manwl i argymhellion yr adroddiad yn cael eu hamlinellu isod. Mae’r Pwyllgor yn argymell:

 

Argymhelliad 1. Dylai Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Llywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru ddatblygu dull cydgysylltiedig o ddatblygu pêl-droed yng Nghymru. Dylai’r Gweinidog Chwaraeon adrodd yn ôl i'r Cynulliad am gynnydd y trafodaethau

 

Ymateb: Derbyn. Bydd Llywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru yn gweithio’n agos gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru ac Ymddiriedolaeth

Bêl-droed Cymru er mwyn gweithredu cynllun strategol y corff llywodraethu ar gyfer datblygu’rgêm yng Nghymru ymhellach.

 

Nid oes unrhyw oblygiadau ariannol. Bydd unrhyw gostau ychwanegol yn cael eu tynnu o gyllidebau rhaglenni presennol.

 

 

Argymhelliad 2. Dylai Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Llywodraeth Cymru edrych sut y gall clybiau Uwch Gynghrair Cymru helpu i gyflawni amcanion polisi ehangach ac edrych ar y gefnogaeth, ariannol ac ymarferol, sydd ar gael i'r clybiau

i'w galluogi i wneud hynny.

 

Ymateb: Derbyn. Bydd Llywodraeth Cymru yn annog Cymdeithas Bêl-droed Cymru i weithio gyda chlybiau Uwch Gynghrair Cymru er mwyn archwilio pa gefnogaeth y mae ar y r clybiau ei angen er mwyn eu helpu i ddatblygu ac i ystyried sut y gallant gyfrannu at gyrraedd amcanion polisi ehangach.  

 

Nid oes unrhyw  oblygiadau ariannol.

 

Argymhelliad 3. Mae angen i Gymdeithas Bêl-droed Cymru roi blaenoriaeth i gyfathrebu a datblygu perthynas gyda chlybiau Uwch Gynghrair Cymru, oherwydd heb eu cydweithrediad hwy, ni fydd yn gallu cyflawni unrhyw un o'i strategaethau.

 

Ymateb: Cymdeithas Bêl-droed Cymru ddylai ymateb i’r argymhelliad hwn.

 

 

 

 

 

 

 

Argymhelliad 4. Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru er mwyn datblygu strategaeth i amlinellu ei gweledigaeth o glybiau Uwch Gynghrair Cymru fel canolfannau cymunedol, er mwyn sicrhau bod y strategaeth

yn cefnogi’r weledigaeth ehangach o gefnogi pêl-droed ar lawr gwlad ac ehangu cyfranogiad.

 

Ymateb: Derbyn mewn egwyddor. Bydd Llywodraeth Cymru yn annog Cymdeithas Bêl-droed Cymru i weithio gyda chlybiau Uwch Gynghrair Cymru er mwyn archwilio beth yn ychwanegol y gallant ei wneud i gefnogi pêl-droed ar lawr gwlad ac i gynyddu lefelau cyfranogi, gan gynnwys y potensial i glybiau fod yn ganolfannau cymunedol

       

 

Argymhelliad 5. Dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu strategaeth ar gyfer datblygu caeau 3/4G ledled Cymru.

 

Ymateb: Derbyn mewn egwyddor. Mae datblygu cyfleusterau aml-ddefnydd, hygyrch, gan gynnwys caeau 3G a 4G, yn ganolog i Strategaeth Chwaraeon Cymunedol Chwaraeon Cymru y gwnes i ei lansio ym mis Ebrill 2012. Mae’r Strategaeth yn pwysleisio'r angen i gyrff llywodraethu’r gamp, awdurdodau lleol a chlybiau gydweithio i nodi a chynllunio pa ddarpariaeth sydd ei hangen a’i defnydd posibl. Rwy’n disgwyl i ddarparu caeau 3G a 4G fod yn rhan o’r trafodaethau hyn am gynllunio cyfleusterau ar gyfer y tymor hir a gwneud y defnydd mwyaf ohonynt er budd y gymuned ehangach.  

 

Argymhelliad 6. Dylai Cymdeithas Bêl-droed Cymru ac Awdurdodau Lleol edrych ar gyfleoedd i glybiau Uwch Gynghrair Cymru, sy’n dymuno datblygu’r model canolfan gymunedol, gael cymorth ariannol i ddatblygu caeau 3/4G.

 

Ymateb: Cymdeithas Bêl-droed Cymru ddylai ymateb i’r argymhelliad hwn

 

 

Argymhelliad 7. Fel rhan o fodel Canolfan Gymunedol arfaethedig Cymdeithas Bêl-droed Cymru, dylai Cymdeithas Bêl-droed Cymru ac Awdurdodau Lleol weithio gyda’i gilydd er mwyn sicrhau bod y clybiau’n cael cymorth i gyrraedd pob rhan o’u cymunedau.

 

 

Cymdeithas Bêl-droed Cymru ddylai ymateb i’r argymhelliad hwn.    

 

 

 

Argymhelliad 8. Dylai Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Chwaraeon Cymru edrych sut y gellir defnyddio’r system academi i gefnogi pêl-droed ar lawr gwlad.

 

Ymateb: Derbyn. Mae’r system academi ar hyn o bryd yn bwydo clybiau UwchGynghrair Cymru ac mae hwn yn fater y mae’n well i Gymdeithas

Bêl-droed Cymru ac Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru ei archwilio gyda help Chwaraeon Cymru.   

 

Nid oes unrhyw oblygiadau ariannol.

 

 

Argymhelliad 9. Dylai Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Chwaraeon Cymru edrych a oes modd cynnig rhagor o gymorth ariannol i gefnogi pobl ifanc sy’n dymuno chwarae pêl-droed, ond sy’n cael anhawster i wneud hynny oherwydd y gofynion ariannol (e.e. costau prynu’r dillad, teithio ac ati).

 

Ymateb: Derbyn. Mae Llywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru wedi ymrwymo i sicrhau nad yw tlodi yn rhwystr i gymryd rhan mewn chwaraeon. Ym mis Ebrill 2012 cyhoeddodd Chwaraeon Cymru strategaeth Tlodi Planta amlinellodd y camau y maent am eu cymryd er mwyn i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd sy’n byw mewn tlodi gael cyfle yn myd chwaraeon.  Bydd Chwaraeon Cymru yn gweithio gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru ac Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru i ystyried y posibiliadau o ran mesurau ychwanegol a allai roi gwell cyfleoedd i blant difreintiedig gymryd rhan mewn chwaraeon. 

 

Nid oes unrhyw oblygiadau ariannol.