Ymateb ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru i’r adroddiad ar yr Ymchwiliad i iechyd y geg ymhlith plant gan Y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc

 

 

 

 

1. Hoffwn ddiolch i’r Pwyllgor am ei adroddiad, sy’n archwilio effeithiolrwydd rhaglen Cynllun Gwên Llywodraeth Cymru o ran gwella iechyd y geg ymhlith plant yng Nghymru – ac mewn ardaloedd difreintiedig yn benodol. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn hefyd i amlinellu’r camau yr ydym yn eu rhoi ar waith i helpu i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau o ran iechyd y geg, ac i wella iechyd y geg mewn plant yn y cymunedau hynny sydd dan fwyaf o anfantais.

 

2. Mae’n bleser gennyf ddweud bod nifer o argymhellion y Pwyllgor yn ategu cyfeiriad ein polisi ar hyn o bryd, a’u bod hefyd yn cydnabod y cynnydd ardderchog a wnaed hyd yma wrth sefydlu’r rhaglen Cynllun Gwên. Mae’r rhan fwyaf o’r argymhellion naill ai eisoes ar waith neu yn yr arfaeth, a bydd y Cynllun Gwên yn un o themâu allweddol y Cynllun Cenedlaethol Iechyd y Geg sy’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd.  

 

3. Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o fynd i’r afael ag anghydraddoldeb o ran iechyd y geg, a lleihau’r bwlch rhwng plant y teuluoedd mwyaf difreintiedig a phlant y teuluoedd lleiaf difreintiedig, o ran iechyd y geg yng Nghymru. Clefyd sy’n gysylltiedig â ffordd o fyw yw pydredd dannedd, ac mae iddo achosion amryfal. Mae angen gwella hylendid y geg ac argaeledd fflworid, er mwyn gweithio tuag at wella iechyd y geg a chyflawni’n targedau ar gyfer iechyd deintyddol. Yr hyn sy’n glir yw bod angen dulliau mwy uniongyrchol a rhai mwy arloesol hefyd o ddarparu gofal ataliol, os ydym am weld datblygiadau mewn iechyd y geg ymhlith plant. Yn niffyg fflworeiddio cyflenwadau dŵr yng Nghymru, mae angen i ni ddefnyddio dulliau eraill o ddod â mwy o ddannedd i gysylltiad â fflworid. Mae’r rhaglen Cynllun Gwên yn mynd ati i gyflawni’r amcan hwnnw yng Nghymru drwy dargedu plant ifanc mewn ardaloedd sydd â’r angen mwyaf. Mae’r cynllun yn targedu ardaloedd, a rhoddir blaenoriaeth i’r ardaloedd hynny ar sail amddifadedd a data epidemiolegaidd ar iechyd y geg a ddarparwyd gan Uned Gwybodaeth Iechyd Geneuol Cymru.

 

4. Caiff y Cynllun Gwên ei roi ar waith gan y Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol, sydd â phrofiad helaeth o hyrwyddo iechyd y geg. Mae ganddynt rôl ychwanegol yn y fenter hon, un sy’n canolbwyntio ar ddarparu rhaglenni ar atchwanegu fflworid a gwella’r gofal ar gyfer plant â phydredd dannedd cronig. Mae’n bwysig tynnu sylw at y ffaith fod Cynllun Gwên yn gwneud mwy na dysgu plant sut i frwsio’u dannedd. Mae’r cynllun yn cyflwyno hefyd ymyriadau clinigol uniongyrchol sy’n atal pydredd – rhaglen i gyflenwi fflworid, i bob diben.

 

5. Fel yr amlygwyd yn y cyflwyniadau i’r Pwyllgor, mae’n rhy gynnar i gadarnhau a yw’r rhaglen Cynllun Gwên yn sicrhau gwell canlyniadau iechyd i blant. Mae gennym dystiolaeth fod nifer dda wedi manteisio ar y cynllun yn yr ysgolion a dargedwyd, ond bydd rhaid i ni aros am ganlyniadau arolygon epidemiolegol o blant yn y dyfodol i ddangos a yw pydredd dannedd ymhlith plant yng Nghymru wedi’i leihau. Fodd bynnag, mae’r ymyriadau ataliol a ddefnyddir fel rhan o’r cynllun yn rhai cadarn ac wedi’u hen sefydlu. Mae Cynllun Gwên yn debyg iawn i raglen Childsmile, a fu’n gweithredu mewn cymunedau sydd dan anfantais ledled yr Alban er 2005. Mae astudiaethau diweddar yn yr Alban (2009/10) yn dangos tystiolaeth fod y nifer o achosion o bydredd dannedd wedi’u lleihau ymhen amser, ac mae’r canlyniadau hyn yn fwy amlwg yn y cymunedau difreintiedig.

 

6. Un o gamau allweddol ein Rhaglen Lywodraethu, a gyhoeddwyd ym mis Medi 2011, oedd rhoi’r rhaglen Cynllun Gwên ar waith i wella iechyd y geg ymhlith plant. Cefnogwyd y cynllun gan Lywodraeth Cymru drwy roi £3.7 miliwn o gyllid y flwyddyn i’r Byrddau Iechyd Lleol.

 

7. Bydd y gwaith sydd ar y gweill i ddatblygu Cynllun Cenedlaethol Iechyd y Geg i Gymru yn fodd o osod iechyd y geg ochr yn ochr ag iechyd cyhoeddus drwy gysylltiadau ag ysmygu, yfed alcohol a maetheg plant. Rhan annatod o gyflawni’r Cynllun fydd y rhaglen Cynllun Gwên. Mae iechyd y geg yn elfen bwysig o’n hiechyd cyffredinol, a bydd y Cynllun yn pwysleisio’r angen i atal iechyd geneuol gwael, ynghyd â thrin afiechyd. Canolbwyntir yn arbennig ar y grwpiau hynny sydd â lefelau uchel o glefydau yn gyson, fel plant dan 5 oed, a’r rhai hynny a chanddynt iechyd cyffredinol sy’n eu gwneud nhw’n fwy agored i afiechyd geneuol.

 

8. Bydd y rhaglen yn parhau i ddatblygu, gan dargedu plant 0-3 oed yn gynyddol, a chryfhau’r cysylltiadau â rhaglenni eraill, fel Ysgolion Iach a Dechrau’n Deg. Gwnaed hynny er mwyn sicrhau gweithredu cyson a negeseuon cyson. Fodd bynnag, mae llwyddiant rhoi Cynllun Gwên ar waith mewn ardaloedd difreintiedig ledled Cymru eisoes yn amlwg, ac rwy’n hyderus y bydd y rhaglen yn cyflawni gwelliannau yr oedd gwir angen amdanynt mewn iechyd geneuol plant yn y cymunedau hynny sy’n fwy agored i niwed.

 

Amlinellir ymatebion manwl i argymhellion yr adroddiad isod:

 

Argymhelliad 1

Dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi adroddiadau monitro blynyddol rhaglen Cynllun Gwên yn ogystal â’r adroddiad gwerthuso terfynol.

 

Ymateb: Derbyn

Rwy’n derbyn yr argymhelliad hwn.

 

Cyhoeddir adroddiadau gwerthuso’r Uned Iechyd Deintyddol Cyhoeddus a’r adroddiadau data ar weithgarwch gan Uned Gwybodaeth Iechyd Geneuol Cymru yn Ysgol Ddeintyddiaeth Prifysgol Caerdydd ar wefan Prif Swyddog Deintyddol Cymru.

 

Goblygiadau ariannol–Dim. Caiff unrhyw gostau ychwanegol eu cymryd o gyllidebau cyfredol rhaglenni.

 

 

Argymhelliad 2

Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau fod camau’n cael eu cymryd i addysgu rhieni’n well am y Cynllun Gwên, gan sicrhau fod negeseuon cyson yn cael eu rhoi i rieni ynghylch pwysigrwydd sicrhau fod fflworid yn cael ei roi ar ddannedd plant fel rhan o frwsio gartref.

 

Ymateb: Derbyn

Rwy’n derbyn yr argymhelliad hwn.

 

Pan fydd rhieni’n cael y ffurflen gydsynio sy’n caniatáu i’w plentyn gymryd rhan yn y rhaglen, maent hefyd yn derbyn gwybodaeth am y Cynllun Gwên. Fel rhan o werthuso’r cynllun, pan ofynnwyd i rieni am yr wybodaeth a ddarparwyd, y teimlad cyffredinol oedd bod digon o wybodaeth wedi’i rhoi a hynny heb lwytho’r rhiant. Ym mis Mawrth 2011, roedd 94% o rieni wedi caniatáu i’w plant gymryd rhan yn y Cynllun Gwên. Yn ystod yr un cyfnod roedd bron 10,000 o rieni wedi mynd i naill ai sesiwn grŵp neu sesiwn un i un, yn ôl eu trefn, ar hyrwyddo iechyd y geg.

 

Mae’n bwysig fod brwsio dannedd yn yr ysgol a’r feithrinfa yn arwain hefyd at frwsio yn y cartref. Rwy’n derbyn bod angen gwneud mwy o waith gyda rhieni mewn cyfarfodydd yn yr ysgol, er mwyn tynnu mwy o sylw at yr wybodaeth sydd ar gael am y pecynnau i’r cartref ac at y negeseuon ehangach am iechyd y geg sydd angen eu dilyn yn y cartref. Bydd y Cynllun Cenedlaethol Iechyd y Geg yn canolbwyntio hefyd ar annog a galluogi unigolion i gymryd mwy o gyfrifoldeb am eu hiechyd geneuol eu hunain ac iechyd geneuol eu teuluoedd.

 

Mae’n bwysig safoni’r broses o anfon allan y pecynnau di-dâl ar draws ysgolion, er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn eu derbyn ar adegau priodol. Erbyn mis Mawrth 2011, roedd 137,898 o becynnau cartref wedi’u dosbarthu ledled Cymru. Ar gyfartaledd, dosbarthwyd dau becyn i bob plentyn oedd yn cymryd rhan yn yr elfen ‘brwsio dannedd dan oruchwyliaeth’ o dan y Cynllun Gwên. Mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod y pecynnau hyn yn cael effaith gadarnhaol ar frwsio gartref. 

 

Goblygiadau ariannol–Dim. Caiff unrhyw gostau ychwanegol eu cymryd o gyllidebau cyfredol rhaglenni.

 

Argymhelliad 3

Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau fod data am y nifer o achosion o roi anaesthetig cyffredinol i blant a phobl ifanc ar gyfer gwaith deintyddol yng Nghymru yn cael ei gasglu a bod hynny’n cael ei adrodd fel rhan o fonitro Cynllun Gwên.

 

Ymateb: Derbyn

Rwy’n derbyn yr argymhelliad hwn.

 

Gallai hyn fod yn ddangosydd defnyddiol o lwyddiant Cynllun Gwên, ond mae’n bwysig casglu’r data hyn ar gyfer Cymru gyfan, gan ddefnyddio dull cadarn a safonol. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymgymryd ag ymarfer i ddadansoddi’r data sydd ar gael ar y nifer o achosion o roi anaesthetig cyffredinol yng Nghymru.

 

Goblygiadau ariannol– Dim. Caiff unrhyw gostau ychwanegol eu cymryd o gyllidebau rhaglenni cyfredol.

 

Argymhelliad 4

Dylai Llywodraeth Cymru nodi sut mae’n bwriadu sicrhau fod elfen 0-3 oed Cynllun Gwên yn cael ei gweithredu’n effeithiol, ac yn benodol sut mae’n bwriadu cynnwys asiantaethau allweddol fel Gwasanaethau Ymwelwyr Iechyd y GIG, yn y gwaith o hyrwyddo’r cynllun, o ystyried nad oes adnoddau ychwanegol ar gyfer hyn.

 

Ymateb: Derbyn

Rwy’n derbyn yr argymhelliad hwn.

 

Mae’r ffaith i Cynllun Gwên gael ei roi ar waith ar wahanol adegau yn golygu bod y rhaglen wedi’i datblygu ymhellach mewn rhai o ardaloedd y Byrddau Iechyd Lleol nag mewn eraill. Mae cynnydd cyson yn cael ei wneud i feithrin cysylltiad â phlant 0-3 oed. Mae hyn yn cynnwys:

 

·         Mae Cynllun Gwên yn rhan o brif ffrwd Gwasanaethau Ymwelwyr Iechyd y GIG, sy’n cynnig cyngor a chymorth i rieni, gan weithio ar y cyd ag asiantaethau allweddol.

·         Mae cyflwyno negeseuon cyson yn hanfodol i raglenni iechyd cyhoeddus. Mae gan wasanaethau Nyrsio Ysgolion gysylltiad rheolaidd â thimau Cynllun Gwên, er mwyn iddynt dderbyn y newyddion diweddaraf a rhannu gwybodaeth. Er nad yw nyrsys ysgolion yn ymwneud â gweithredu Cynllun Gwên yn uniongyrchol, maent yn cefnogi’r fenter drwy barhau i ymdrin ag iechyd y geg ac iechyd deintyddol fel rhan o’r gwaith ehangach y maent yn ymwneud ag ef ym maes iechyd cyhoeddus.

 

Yn ogystal, bydd datblygu sgiliau amrywiol gweithlu’r Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol yn helpu i gyflymu’r gwaith o feithrin diddordeb y grŵp oedran hwn. Er hynny, bydd angen inni sicrhau nad ydym yn colli’r hyblygrwydd yn y cynllun sy’n ein galluogi i adlewyrchu amgylchiadau a threfniadau lleol.

 

Rwyf hefyd yn awyddus i weld holl raglenni lleol Cynllun Gwên yn cael eu goruchwylio gan grwpiau llywio lleol sydd ag aelodaeth eang ac amrywiol, er mwyn sicrhau nad yw’r cynllun yn cael ei weithredu ar wahân i fentrau hybu iechyd eraill.

 

Goblygiadau ariannol– Dim. Caiff unrhyw gostau ychwanegol eu cymryd o gyllidebau cyfredol rhaglenni.

 

Argymhelliad 5

Dylai Llywodraeth Cymru nodi sut mae’n bwriadu gwella iechyd y geg ymysg holl blant Cymru, yn cynnwys y rhai nad ydynt yn cael eu targedu ar hyn o bryd gan y Cynllun Gwên, a pha rôl y bydd y Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol yn ei chwarae yn hyn.

 

Ymateb: Derbyn

Rwy’n derbyn yr argymhelliad hwn.

 

Bydd Cynllun Cenedlaethol Iechyd y Geg yn anelu at wella iechyd y geg i bawb yng Nghymru. Fodd bynnag, canolbwyntir ar blant yn benodol.

 

Clefyd sy’n gysylltiedig â ffordd o fyw, ac iddo achosion amryfal, yw pydredd dannedd. Oherwydd hynny, mae pydredd dannedd yn fwy cyffredin ac yn fwy difrifol ymhlith plant o gymunedau sydd dan anfantais. Mae dethol ysgolion, yn bennaf o ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf, yn sicrhau bod y Cynllun Gwên yn targedu’r plant hynny sydd â’r angen mwyaf, a chanlyniad hynny yw rhaglen effeithiol wedi’i thargedu.

 

Nid oes ar bob grŵp o blant angen yr hyn sydd gan y Cynllun Gwên i’w gynnig. Mae tuedd i blant o ardaloedd mwy cefnog gael iechyd geneuol da. Mae hyblygrwydd y rhaglen yn caniatáu i dîm Cynllun Gwên fynd i’r afael â’r pocedi o amddifadedd a allai fodoli y tu allan i ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf, gan gynnwys ardaloedd gwledig. Mae plant sydd ag anghenion arbennig eisoes yn cael eu trin gan y Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol.

 

Mae sgrinio yn un o ddyletswyddau statudol sefydledig y Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol. O dan y trefniant hwn, gall deintyddion y Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol ymweld ag ysgolion a chynnal archwiliad cyffredinol iawn o’r plant i ganfod yr angen am driniaeth. Wedyn, caiff nodyn ei anfon adref gyda’r plentyn yn cynghori’r rhieni y dylai’r plentyn naill ai weld Ymarferydd Deintyddol Cyffredinol neu gael cynnig triniaeth drwy’r Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol.

 

Goblygiadau ariannol– Dim. Caiff unrhyw gostau ychwanegol eu cymryd o gyllidebau cyfredol rhaglenni.

 

Argymhelliad 6

Dylai Llywodraeth Cymru ystyried y dystiolaeth o blaid ymgorffori Cynllun Gwên yng nghwricwlwm yr ysgolion i sicrhau ei fod yn cael ei integreiddio’n well gyda chynlluniau megis Ysgolion Iach.

 

Ymateb: Gwrthod 

Rwy’n gwrthod yr argymhelliad hwn.

 

Rhaglen ataliol yw Cynllun Gwên yn gyntaf, a rhaglen addysgol yn ail. Prif egwyddor hanfodol Cynllun Gwên yw ‘dod â mwy o ddannedd plant i gysylltiad â fflworid’. Dyna’r mesur ar sail tystiolaeth a fydd yn lleihau pydredd dannedd yng Nghymru. Mae’n ganolog i lwyddiant hir dymor y rhaglen fod yr elfennau ataliol a’r ymyriadau clinigol yn chwarae rhan flaenllaw yn Cynllun Gwên, hynny yw brwsio dannedd, gosod farnais ataliol a selio tyllau yn y geg, yn enwedig o ystyried diffyg fflworeiddio’r dŵr yng Nghymru.

 

Mae cynnwys Cynllun Gwên yng nghwricwlwm yr ysgolion yn debygol o wanhau manteision clinigol y brif raglen ataliol. Yn ychwanegol, byddai gwneud hynny naill ai’n cynyddu’r costau’n sylweddol neu’n golygu bod yr adnoddau yn gorfod ymestyn ymhellach. Os nad yw’r peth yn mynd i fod yn glinigol effeithiol, nid yw’n gallu bod yn gost effeithiol i bob diben

 

Rwy’n cytuno bod rhaid i’r Cynllun Gwên barhau i integreiddio mewn modd strategol â rhaglenni eraill sy’n hyrwyddo iechyd yn genedlaethol ac yn lleol. Mae’r ffactorau risg ar gyfer pydredd dannedd, fel deiet gwael, effaith amddifadedd cymdeithasol ac economaidd, a methu ymgysylltu â’r gwasanaethau clinigol, yn gyffredin i glefydau cronig eraill sy’n seiliedig ar ffordd o fyw. Felly, mae’n bwysig cael agwedd gyfannol at addysg iechyd, a sicrhau bod addysg iechyd deintyddol yn cael ei hintegreiddio â negeseuon iechyd eraill.

 

Mae’r gwaith o roi’r Cynllun Gwên ar waith o ddydd i ddydd yn dibynnu ar gydweithio’n agos ag ysgolion ac â’r Sefydliad Addysgol. Mae cael cefnogaeth ar y lefel uchaf ar gyfer hyn yn bwysig. Un o elfennau pwysig y rhaglen yw ei bod yn integreiddio ag ymyriadau lleol a chenedlaethol ehangach, fel Cynlluniau Ysgolion Iach – Rhwydwaith Cymru a Dechrau’n Deg. Mae cryn dipyn o waith eisoes wedi’i wneud o ran deiet, maetheg a ffitrwydd mewn ysgolion, ac mae Cynllun Gwên yn cyd-fynd yn dda â’r rhain.

 

Fel rhan o werthuso’r cynllun, dywedodd 91% o benaethiaid fod y cynllun yn cyd-fynd yn dda neu’n dda iawn â’u mentrau iechyd ehangach. Nid oes unrhyw dystiolaeth anorchfygol sy’n awgrymu y byddai ymgorffori Cynllun Gwên yng nghwricwlwm yr ysgolion yn arwain at well integreiddio â mentrau lleol a chenedlaethol ehangach.

 

Goblygiadau ariannol– Dim.

 

Argymhelliad 7

Dylai Llywodraeth Cymru wneud newidiadau i gontract deintyddol y GIG fel bod modd integreiddio gwaith ataliol a thriniaeth yn well ar draws practisiau deintyddol, a sicrhau ei fod yn annog deintyddion i wneud gwaith ataliol gyda phlant.

 

Ymateb: Derbyn mewn egwyddor          

Rwy’n derbyn yr argymhelliad hwn mewn egwyddor.

 

Rydym yn peilota ffyrdd newydd o weithio i gyflenwi gwasanaethau deintyddol y GIG ar hyn o bryd. Mae cynllun peilot ar waith sy’n anelu at Ofal Deintyddol Ataliol ar gyfer Plant a Phobl Ifanc, ac yn un sy’n ymwneud â newidiadau yn y modd y caiff deintyddion eu talu i drin plant. Mae system talu yn ôl y pen wedi’i chyflwyno ar gyfer y grŵp oedran 0-18 oed. Yn sail iddi ceir taliad ychwanegol ar gyfer trin mwy o blant – taliad sydd wedi’i bwysoli ar sail amddifadedd lleol.

 

Y nod yw annog gofal ataliol ar gyfer deintiad cynradd a chymysg, ategu ein rhaglen iechyd y geg, Cynllun Gwên, a rhoi prawf ar gyflwyno dangosyddion ansawdd a mynediad. Mae’r cynllun peilot yn caniatáu atgyfeirio plant yn briodol o’r Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol i’r Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol, ac i’r gwrthwyneb.

 

Caiff y cynllun peilot ei gynnal hyd at fis Mawrth 2013 dan drefniadau monitro a gwerthuso annibynnol a fydd yn helpu i hysbysu Llywodraeth Cymru am sefyllfa’r contract deintyddol yn y dyfodol.

 

Goblygiadau ariannol– Nid oes unrhyw oblygiadau ariannol ar hyn o bryd. Yr awgrym cynnar ar sail data monitro’r cynlluniau peilot yw bod tuedd gyffredinol at leihad yn y refeniw a geir o godi tâl ar gleifion. Gallai’r duedd hon achosi risgiau ariannol ychwanegol i’r Byrddau Iechyd Lleol ac i Lywodraeth Cymru.

 

Argymhelliad 8

Dylai fod yn ofynnol i Fyrddau Iechyd Lleol gyhoeddi gwybodaeth am eu gwariant blynyddol ar raglen Cynllun Gwên, yn cynnwys unrhyw fuddsoddiad ychwanegol y maent wedi’i ddarparu i’r Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol i gynnal y gwaith hwn. Dylai fod yn bosibl i bob Bwrdd Iechyd Lleol weld faint o arian sy’n cael ei wario ar wella iechyd y geg ymysg plant a’r nifer sy’n manteisio ar y cynllun yn eu hardaloedd, er mwyn asesu cysondeb ar draws Cymru a gwerth am arian.

 

Ymateb: Derbyn   

Rwy’n derbyn yr argymhelliad hwn.

 

Mae’r Byrddau Iechyd Lleol eisoes yn cofnodi eu gwariant ar Cynllun Gwên yn eu ffurflenni gwariant misol ac yn eu cyfrifon blynyddol i Lywodraeth Cymru. Mae’r cyllid wedi’i ddyrannu’n benodol ar gyfer rhoi Cynllun Gwên ar waith, a rhaid ei wario’n uniongyrchol ar ddatblygu a chyflenwi’r rhaglen yn hytrach nag ar  wasanaethau deintyddol eraill. Caiff y gwariant ei fonitro’n allanol, ac mae’n amodol ar werthuso annibynnol gan Uned Gwybodaeth Iechyd Geneuol Cymru

(WOHIU) ym Mhrifysgol Caerdydd, fel rhan o’r gwaith ehangach o werthuso’r rhaglen.

 

Rwy wedi cyhoeddi’n ddiweddar fy mhenderfyniad i barhau i glustnodi cyllideb y contract deintyddol tan fis Mawrth 2015, ac mae hynny’n cynnwys yr adnoddau ar gyfer Cynllun Gwên. Mae hyn yn cyfleu neges gryf i’r Byrddau Iechyd Lleol ac i’r proffesiwn am ddiogelu’r ddarpariaeth ddeintyddol, ac mae’n cefnogi ein hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i ddatblygu Cynllun Gwên.

 

Goblygiadau ariannol– Dim. Caiff unrhyw gostau ychwanegol eu cymryd o gyllidebau cyfredol rhaglenni.

 

Argymhelliad 9

Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau fod Cynllun Gwên yn ganolog i’w Chynllun Cenedlaethol Iechyd y Geg i Gymru; dylai nodi ymrwymiad tymor hir Llywodraeth Cymru i’r rhaglen a sut y bydd yn cyd-fynd â rhaglenni a chynlluniau eraill y Llywodraeth, yn ogystal â darparu darlun llawnach o sut y mae pobl yn defnyddio’r gwasanaethau deintyddol presennol i blant ar draws Cymru a sut y bydd hyn yn newid yn y dyfodol. Yn arbennig, mae angen i rôl y Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol fod yn gliriach, yn cynnwys beth yw’r trefniadau i gyrchu at y Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol a pha gamau fydd yn cael eu cymryd i fynd i’r afael â’r anghysondeb yn narpariaeth gwasanaethau’r Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol ar draws Cymru.

 

Ymateb: Derbyn

Rwy’n derbyn yr argymhelliad hwn.

 

Caiff y Cynllun Gwên, gwasanaethau deintyddol plant a’r Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol eu cynnwys yng Nghynllun Cenedlaethol Iechyd y Geg.

 

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi cyfarwyddyd clir ar rôl y Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol, gan gynnwys y llinell sylfaen a datblygiad Cynllun Gwên:

 

·         Cylchlythyr Iechyd Cymru (2008)008 – Designed to Smile – A National Child Oral Health Improvement Programme Promoting Better Oral Health and Delivering a Fluoride Supplementation Programme. Mae’r Cylchlythyr yn cynnwys targedau ar gyfer gwella iechyd y geg.

 

·         EH/ML/014/08 – Dental Services for Vulnerable People and the Role of the Community Dental Service

 

·         EH/ML/032/09 – Ehangu Cynllun Gwên – Rhaglen Wella Genedlaethol ar Iechyd y Geg.

 

Ar yr un pryd â chyhoeddi y byddwn yn parhau i glustnodi’r gyllideb ddeintyddol yn, atgoffais y Byrddau Iechyd Lleol am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i’r Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol a’r cyfarwyddyd a oedd eisoes wedi’i gyhoeddi (Mae LG/ML/001/12 – ‘Clustnodi dyraniadau deintyddol Byrddau Iechyd Lleol  a rôl y Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol’ yn cyfeirio at hyn).

 

Goblygiadau ariannol– Dim. Caiff unrhyw gostau ychwanegol eu cymryd o gyllidebau cyfredol rhaglenni.

 

Argymhelliad 10

Dylai Llywodraeth Cymru barhau i adolygu’r dystiolaeth o blaid fflworeiddio cyflenwadau dŵr yng Nghymru.

 

Ymateb: Derbyn       

Rwy’n derbyn yr argymhelliad hwn.

 

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod tystiolaeth wyddonol yn dangos bod manteision iechyd sylweddol i fflworeiddio dŵr, ond nid oes ganddi gynlluniau ar hyn o bryd i fflworeiddio cyflenwadau dŵr yng Nghymru. Fodd bynnag, bydd yn cadw golwg ar y dystiolaeth o blaid fflworeiddio cyflenwadau dŵr yng Nghymru.

        

Goblygiadau ariannol– Dim. Caiff unrhyw gostau ychwanegol eu cymryd o gyllidebau cyfredol rhaglenni.