Y Pwyllgor Menter a Busnes
Enterprise and Business Committee
|
|
Edwina Hart AC Y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth Llywodraeth Cymru
|
|
20 Hydref 2011 |
|
Annwyl Edwina
Hoffem ddiolch i chi a’ch swyddogion am ddod i gyfarfod y Pwyllgor Menter a Busnes ar 12 Hydref fel rhan o’n gwaith craffu ar Gynigion Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2012-13.
Hoffai’r Pwyllgor gyflwyno nifer o sylwadau i’w hystyried gennych. Rydym hefyd yn ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau ac at y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau. Mae’r tri llythyr yn cael eu copïo i’r Pwyllgor Cyllid er mwyn llywio ei waith craffu strategol cyffredinol ar y Gyllideb Ddrafft, a chyhoeddir hwy ar ein gwefan.
Cyflwyno’r Gyllideb Ddrafft
Ein cyfrifoldeb ni yw craffu ar wariant a pholisïau Llywodraeth Cymru a dwyn i gyfrif y Gweinidogion ar ran pobl Cymru. Rydym yn croesawu’r ffaith bod y tablau cyllidebol yn eich papur naill ai’n dangos newidiadau o un flwyddyn i’r llall, neu’n galluogi iddynt gael eu cyfrif, a bod y mwyafrif o’r dadansoddiadau yn eich papur hefyd yn canolbwyntio ar newidiadau o un flwyddyn i’r llall.
Fodd bynnag, os ydym am fod yn effeithiol yn ein rôl, byddwn angen rhagor o eglurder a mwy o fanylion o ran y wybodaeth a gyflwynir i ni. Gwnaed ein tasg o graffu’n anoddach hefyd gan na chawsom eich papur tan 7 Hydref, y dydd Gwener cyn y sesiwn graffu.
Rydych wedi cytuno i anfon nodyn atom ar y trosglwyddiadau cyllidebol sydd wedi digwydd hyd yma o fewn gwahanol feysydd eich portffolio. Er gwybodaeth, gwnaethpwyd cais gennym hefyd, trwy’r Clerc, ar 28 Medi, am ddadansoddiad o’r dyraniadau o fewn eich cyllideb ar gyfer y meysydd polisi a ganlyn: hyrwyddo mewnfuddsoddi; pob un o’ch naw sector allweddol; y cynllun arian busnes ad-daladwy; Ardaloedd Menter; a chymorth ar gyfer microfentrau.
Alinio’r Gyllideb Ddrafft a Darparu Polisïau
Mae’n ymddangos bod pob Cyllideb Ddrafft Adrannol arall Llywodraeth Cymru wedi’u hail-alinio i gyflawni’r ymrwymiadau yn y Rhaglen Lywodraethu newydd. Roeddem yn deall yn ôl eich ymateb i’n cwestiynau yn hyn o beth eich bod yn parhau i fod ar ganol y broses o wneud yn derfynol gynlluniau gwariant eich portffolio, gan eich bod yn parhau i adolygu meysydd polisi allweddol.
Rydym yn gwerthfawrogi y bydd angen rhyw gymaint o hyblygrwydd i addasu gwario eich Adran i’r newidiadau yn eich blaenoriaethau, a hefyd i’r newidiadau yn yr hinsawdd economaidd pan fyddant yn codi.
Fodd bynnag, mae hefyd angen gwariant craidd sy’n galluogi ni fel Pwyllgor i fonitro gwariant dros flynyddoedd dilynol ac gwerthuso gweithgareddau eich Adran yn ôl y targedau a’r canlyniadau a bennwyd. Rydych wedi dweud bod y targedau hynny yn parhau i gael eu ffurfio.
Mesur Perfformiad
Roeddem yn pryderu am gynnydd o ran gosod targedau perfformiad ar gyfer gweithgareddau eich Adran. Rydym yn sylweddoli bod angen i Lywodraeth Cymru ddatblygu dull mwy soffistigedig a hirdymor o fesur a gwerthuso perfformiad, ac eich bod ar ganol datblygu’r gwaith hwn ar hyn o bryd. Hefyd rhoesoch wybod i ni eich bod yn sefydlu llinellau sylfaen a thargedau ar gyfer mesur canlyniadau.
Cynllun Arian Busnes Ad-daladwy
Deallwn fod Llywodraeth Cymru wedi newid ei chymorth i fusnesau o grantiau i fenthyciadau, ond fel y trafodwyd yn y sesiwn dystiolaeth, nid oedd modd i ni adnabod lle mae’r ffrwd refeniw o’r cymorth hwnnw i’w weld yn y Gyllideb Ddrafft.
Mewnfuddsoddi
Dywedwyd wrthym eich bod yn anelu at gael dull gweithredu mwy cydlynol o ran mewnfuddsoddi a’i bod yn bosibl y bydd angen ymestyn adnoddau ymhellach yn y maes hwn. Esboniwyd gennych eich bod am weld gwelliant yn safle Cymru yn y DU, mwy o broffesiynoldeb, a mwy o ddefnydd o “Tîm Cymru”. Hefyd cyfeiriodd swyddogion at welliannau a oedd yn angenrheidiol yn ansawdd cynnig Cymru a nifer y swyddi sy’n dod i mewn i Gymru.
Seilwaith
Dywedwyd wrthym eich bod yn hyderus y bydd arian digonol ar gael ar gyfer darparu prosiect Band Eang y Genhedlaeth Nesaf (neu “Fynediad yr 21ain Ganrif”), er, rydym yn sylweddoli nad oedd modd i chi roi llawer o fanylion i ni ar y dyraniad cyllidebol ar gyfer hyn oherwydd y cyd-drafodaethau sy’n digwydd ar y contract ar hyn o bryd.
Cynaliadwyedd
Pan wnaethom ofyn i chi a oedd gwerthusiad cynaliadwyedd wedi’i wneud wrth baratoi Cyllideb Ddrafft eich adran, dywedwyd wrthym gennych eich bod wedi cymryd golwg eang ar faterion cynaliadwyedd. Felly roeddem yn falch o glywed eich bod am wneud rhagor o waith yn hyn o beth rhwng nawr a phan fyddwch yn paratoi’r gyllideb derfynol.
Datganiad y Prif Weinidog ar Ysgogiad Economaidd
Ar y prynhawn yn dilyn y sesiwn graffu ar y gyllideb, gwnaeth y Prif Weinidog ddatganiad ar ddull gweithredu Llywodraeth Cymru o ran ysgogiad economaidd.
Gwybodaeth ychwanegol
Diolch i chi am gynorthwyo’r Pwyllgor yn ei waith, ac edrychwn ymlaen at gael eich ymateb i’r pwyntiau sy’n codi yn y llythyr hwn, cyn gynted ag sy’n bosibl.
Yn gywir,
Nick Ramsay AC
Cadeirydd, y Pwyllgor Menter a Busnes
c.c. Jocelyn Davies AC, Cadeirydd, y Pwyllgor Cyllid