Y Pwyllgor Menter a Busnes
Enterprise and Business Committee

 

 

 

Leighton Andrews AC                                                 

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Llywodraeth Cymru

 

 

                                                                  

 

16 Hydref 2011

 

 

 

 

 

 

 

                                          
Annwyl Leighton

 

Hoffwn ddiolch i chi a’r Dirprwy Weinidog Sgiliau am ddod i gyfarfod y Pwyllgor Menter a Busnes ar 12 Hydref fel rhan o’n gwaith o graffu ar Gynigion Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2012-13.

 

Hoffai’r Pwyllgor gyflwyno nifer o sylwadau i’w hystyried gennych. Rydym hefyd yn ysgrifennu at y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth ac at y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau. Mae’r tri llythyr yn cael eu copïo i’r Pwyllgor Cyllid er mwyn llywio ei waith craffu strategol cyffredinol ar y Gyllideb Ddrafft, a byddant yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan.

 

Cyflwyno’r Gyllideb

Trafodwyd gyda chi yn y sesiwn dystiolaeth y ffaith bod y Pwyllgor wedi ei chael yn anodd gwneud unrhyw gymhariaeth ystyrlon rhwng Cyllideb Ddrafft 2012-13 a chyllidebau ar gyfer blynyddoedd blaenorol oherwydd y ffordd y cyflwynwyd y Gyllideb Ddrafft y tro hwn. Rydym yn ymwybodol bod y Llywodraeth wedi gorfod gwneud nifer o drosglwyddiadau cyllidebol o fewn adrannau a rhyngddynt o ganlyniad i ad-drefnu cyfrifoldebau portffolios, ailstrwythuro adrannau ac ail-flaenoriaethu yn sgil ymrwymiadau yn y maniffesto. Fodd bynnag, mae’r diffyg tryloywder ynghylch y newidiadau a wnaed i’r Prif Grŵp Gwariant Addysg a Sgiliau wedi ei gwneud yn anodd iawn i ni fel Pwyllgor olrhain a chraffu ar y newidiadau hynny.

 

Yn benodol, nid oedd y llinellau sylfaen y cyfeiriwyd atynt yn eich papur yn cyfateb i’r llinellau sylfaen hynny a gyhoeddwyd yn nogfennau’r gyllideb, ac roedd diffyg eglurder rhwng y cynlluniau dangosol ar adeg y gyllideb atodol, y trosglwyddiadau a wnaed a beth yw’r gyllideb yn awr. Yn ogystal, gwnaed ein gwaith yn anoddach byth gan y ffaith i ni gael gwybodaeth hanfodol ddiwrnod yn unig cyn ein sesiwn graffu.

 

Ar ôl y sesiwn graffu, cawsom ein hysbysu, o ran y trosglwyddiadau o fewn y Prif Grŵp Gwariant Addysg a Sgiliau, a’r llinell sylfaen y cyfeirir ati yn eich papur sy’n deillio o hynny, ynghylch y ffaith bod dogfen naratif Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2012-13 (tudalen 46) yn nodi y bydd y trosglwyddiadau hyn ‘yn cael eu hadlewyrchu yn y Gyllideb Atodol nesaf ac, o’r herwydd, nid ydynt wedi’u cynnwys o fewn y llinell sylfaen a gyhoeddwyd ar gyfer 2011-12.’ Felly, ymddengys nad yw’r llinellau sylfaen a ddefnyddiwyd i gyflwyno eich tystiolaeth wedi’u gweithredu eto, gan na fydd y trosglwyddiadau’n digwydd nes y cyhoeddir y Gyllideb Atodol nesaf ar gyfer 2011-12 (a ddisgwylir ym mis Chwefror 2012). 

 

Rydym yn gwerthfawrogi eich bod yn dangos eich bwriad i wneud trosglwyddiadau o’r fath, ond oherwydd nad ydynt wedi’u gwneud eto, ac na wneir hwy nes y cyhoeddir Cyllideb Atodol ddiweddarach, ystyriwn ei bod yn amhriodol fod eich tystiolaeth i gefnogi’r Gyllideb Ddrafft wedi’i chyflwyno ar sail llinell sylfaen a oedd yn cynnwys y trosglwyddiadau hyn.

 

Rydym o’r farn bod ein gallu i graffu ar gyllideb yr Adran ac i ddwyn Gweinidogion i gyfrif ar ran pobl Cymru wedi’i beryglu’n fawr o ganlyniad i’r wybodaeth a roddwyd i ni.

 

  1. Rydym yn gwerthfawrogi y bu hon yn flwyddyn eithriadol, ond rydym yn argymell y dylid cyflwyno llinellau sylfaen sy’n cyfateb i’w gilydd mewn cyllidebau drafft yn y dyfodol fel y gallwn fonitro, olrhain a gwerthuso gwariant y Llywodraeth yn effeithiol. Byddem hefyd yn argymell y dylai llinellau sylfaen 2011-12, y cyfeirir atynt yn y dystiolaeth, gyfateb i’r hyn a gyhoeddwyd ac na ddylent adlewyrchu trosglwyddiadau sydd eto i ddigwydd. Rydym hefyd yn argymell y dylid dangos newidiadau arfaethedig ar sail flynyddol yn hytrach nag fel newidiadau o ffigurau dangosol yn y gyllideb atodol flaenorol, ac y dylid rhoi’r holl wybodaeth hon i ni o leiaf wythnos cyn y sesiwn graffu fel bod cyfle digonol i ni ddadansoddi’r ffigurau.

 

Ffioedd Dysgu Addysg Uwch

Yn y sesiwn dystiolaeth, buom yn trafod â chi yr effaith bosibl a gaiff y nifer o fyfyrwyr sy’n dod o’r tu allan i Gymru ar sefydliadau addysg uwch yng Nghymru, ac felly yr effaith a gaiff ar ariannu. Gwnaethom ofyn hefyd sut roedd Llywodraeth Cymru’n asesu nifer y myfyrwyr rhan amser a pha effaith a gaiff ffioedd dysgu uwch ar ddyheadau myfyrwyr. Roeddech yn cydnabod pa mor anodd yw amcangyfrif beth fydd y llif trawsffiniol yn y dyfodol a’r effaith y gallai ffioedd uwch ei chael yn y dyfodol, nid yn unig ar niferoedd myfyrwyr, ond o ran a fydd mwy o fyfyrwyr o Gymru yn dewis astudio yng Nghymru.

 

  1. Byddem yn eich annog i barhau i ymchwilio i’r materion hyn gyda’ch cynghorwyr ac â gwledydd eraill er mwyn cael yr amcangyfrifon gorau posibl, ac eich bod yn adolygu eich dyraniadau cyllidebol yn rheolaidd yn unol â hynny.

 

  1. Ymhellach ar y mater o astudio’n rhan amser ac yng nghyd-destun y ffaith bod rhagor o bobl yn dymuno ail-hyfforddi, ennill rhagor o sgiliau a dychwelyd i’r gwaith yn yr hinsawdd economaidd bresennol, rydym yn argymell eich bod yn canolbwyntio’r sylw fwyfwy ar ragweld y galw am gefnogaeth rhan amser i’r bobl hynny sydd eisoes wedi graddio. Byddem yn eich annog i barhau i adolygu’r mater hwn.

 

Myfyrwyr yr Undeb Ewropeaidd

  1. Byddem yn ddiolchgar i gael eich asesiad o’r goblygiadau ariannol ar gyfer Llywodraeth Cymru  o gael myfyrwyr Ewropeaidd yn astudio yng Nghymru ac mewn rhannau eraill o’r DU.

 

  1. Byddem yn ddiolchgar hefyd pe byddai modd i chi gadarnhau nad yw’r sefyllfa lle bydd myfyrwyr o’r UE yn astudio yn Lloegr ac yn cael lefelau gwahanol o gymorth ariannol i fyfyrwyr o Gymru sy’n astudio yn Lloegr, o fis Medi 2012, yn tramgwyddo ar egwyddorion yr UE.

 


Gwybodaeth ychwanegol

 

  1. Gwnaethoch gytuno i roi rhagor o wybodaeth inni am yr hyn a ganlyn:

 

 

 

Diolch i chi am gynorthwyo’r Pwyllgor yn ei waith, ac edrychwn ymlaen at gael eich ymateb i’r pwyntiau sy’n codi yn y llythyr hwn cyn gynted ag sy’n bosibl.

 

Yn gywir

 

 

 

 

 

 

Nick Ramsay AC

Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Business

 

 

 

c.c.    Jocelyn Davies AC

Cadeirydd, y Pwyllgor Cyllid