Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

(CLA(4)-11-11)

 

CLA48

 

Adroddiad drafft y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Teitl:  Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) (Diwygio) 2011

 

Gweithdrefn:  Negyddol 

 

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r derminoleg yn Rheoliadau’r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004 (y prif Reoliadau) er mwyn sicrhau cysondeb â deddfwriaeth arall o dan Ddeddf Gwastraff a Masnachu Allyriadau 2003 (y Ddeddf).

 

Craffu technegol

 

Gan nad yw’r Rheoliadau yn cyfeirio at yr holl bwerau a ddefnyddiwyd i wneud y prif Reoliadau, mae angen bod yn ofalus iawn i gyfeirio at y rhai cywir wrth wneud diwygiadau.  Yn yr achos yma ni chyfeirir yn y paragraff rhagarweiniol at adrannau 12(2) a 15 o’r Ddeddf, y bernir eu bod yn berthnasol i’r diwygiadau a wneir yma i reoliadau 6 a 10, yn eu tro, o’r prif Reoliadau.

 

Gwahoddir y Cynulliad i dalu sylw arbennig i’r offeryn hwn o dan Reol Sefydlog 21.2 (vi).

 

Craffu ar rinweddau

 

Ni wahoddir y Cynulliad i dalu sylw arbennig i’r offeryn hwn o dan Reol Sefydlog 21.3.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Tachwedd 2011

 

Mae’r Llywodraeth wedi ymateb fel a ganlyn:

 

Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) (Diwygio) 2011

Adran 12

Mae'r Llywodraeth yn derbyn pwynt y Pwyllgor am adran 12(2) y dylasid ei henwi yn y pwerau galluogi.  Adran 12(2) yw'r pŵer y caniateir diwygio rheoliad 6(5)(b) o'r prif reoliadau odani.  Mae diwygiadau i weddill rheoliad 6 wedi eu gwneud o dan adran 12(1) o'r Ddeddf.

 

Mae'r Llywodraeth yn cydnabod ei bod yn bosibl y bydd yr hepgoriad hwnnw yn peri i rywun amau a yw diwygiad i reoliad 6(5)(b) o'r prif reoliadau wedi ei wneud ai peidio. Er ei bod yn annhebygol, ym marn y Llywodraeth, y gellid dehongli'r term "gwastraff trefol pydradwy" fel petai'n perthyn i unrhyw beth ond y gwastraff y mae awdurdodau gwaredu gwastraff yn ymdrin ag ef o dan y cynllun lwfansau tirlenwi, bydd y Llywodraeth yn gwneud rheoliadau i ddiwygio rheoliad 6(5)(b) o'r prif reoliadau cyn pen chwe wythnos.

 

Adran 15

 

Mae'r Llywodraeth o'r farn bod y diwygiadau i reoliad 10 o'r prif reoliadau wedi eu hawdurdodi gan adran 11(1) a (2)(b) o'r Ddeddf a bod bod adran 15 o'r Ddeddf yn ymwneud â gwybodaeth o fath gwahanol y mae rheoliad 10 o'r prif reoliadau yn ymdrin â hi ar hyn o bryd.  Casgliad y Llywodraeth yw bod enwi adran 12 yn y prif reoliadau yn gamgymeriad.  Dyma isod y rhesymau sydd wedi ein harwain at y casgliad hwn.

 

Mae dwy ddarpariaeth yn y Ddeddf sy'n rhoi pŵer i wneud darpariaeth am gynnal cofrestrau; adrannau 11 a 15.

 

Mae adran 11(1) o'r Ddeddf yn rhoi pŵer i wneud darpariaeth at ddiben dwyn Pennod 1 o'r Ddeddf i effaith.  Drwy adran 11(2)(b), mae'r rheoliadau hynny yn gallu gwneud darpariaeth am gynnal cofrestrau o faterion sy'n ymwneud â lwfansau tirlenwi.

 

Mae adran 15 o'r Ddeddf yn fwy penodol ac mae'n rhoi pŵer i wneud rheoliadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod monitro gynnal cofrestr sy'n cynnwys "gwybodaeth fonitro" o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau.  Ystyr "gwybodaeth fonitro" yw gwybodaeth neu dystiolaeth:

 

-     y mae'r awdurdod monitro wedi ei chael wrth iddo gyflawni ei swyddogaethau o dan y Ddeddf; neu

-     a ddatgelir i'r awdurdod monitro gan awdurdod monitro arall sydd wedi cael yr wybodaeth neu dystiolaeth wrth iddo gyflawni ei swyddogaethau ei hun o dan y Ddeddf.

 

Mae'r Llywodraeth yn dehongli "acquire" ("cael")  a "disclose" ("datgelu") yn adran 15 i olygu bod yr wybodaeth neu'r dystiolaeth dan sylw yn wybodaeth neu'n dystiolaeth sydd, yn y lle cyntaf, ym meddiant rhywun nad yw'n awdurdod monitro ac sydd wedyn yn mynd i ddwylo'r awdurdod monitro wrth iddo gyflawni ei rôl fonitro o dan y cynllun lwfansau tirlenwi. 

 

Deuwn at y casgliad hwn oherwydd natur rôl yr awdurdod monitro o dan y Ddeddf ac felly'r cyd-destun y mae awdurdod monitro yn debygol o gael yr wybodaeth a'r dystiolaeth ynddo, neu gael yr wybodaeth a'r dystiolaeth wedi eu datgelu iddo. 

 

At ei gilydd, rôl awdurdod monitro yw monitro gweithrediad cynllun lwfansau tirlenwi yn gyffredinol, monitro pa faint o wastraff trefol pydradwy a anfonir i safleoedd tirlenwi yn enwedig ac archwilio perfformiad yr awdurdodau gwaredu gwastraff o ran sut y maent yn cydymffurfio â'u dyletswyddau o dan y Ddeddf. 

 

I alluogi awdurdod monitro i gyflawni ei rôl, mae'r Ddeddf yn caniatáu rheoliadau i'w gwneud yn ofynnol i awdurdodau gwaredu gwastraff i ddarparu gwybodaeth benodol yn rheolaidd i'r awdurdod monitro (anfon dychweliadau).  Mae'r Ddeddf hefyd yn caniatáu rheoliadau i ganiatáu i'r awdurdod monitro ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau gwaredu gwastraff i gyflwyno cofnodion i'w harchwilio ac i ddarparu gwybodaeth a thystiolaeth sy'n ymwneud ag anfon gwastraff trefol pydradwy i safleoedd tirlenwi.

Ar ben hynny, mae'r Ddeddf yn caniatáu rheoliadau i ganiatáu i'r awdurdod monitro gael gafael ar gofnodion gweithredyddion safleoedd tirlenwi, drwy ddefnyddio grym os oes rhaid. 

 

Mae'r Llywodraeth yn barnu mai yn cyd-destun hwn y bydd yr awdurdod monitro yn "cael" gwybodaeth neu dystiolaeth ac felly fe fydd gwybodaeth a "ddatgelir" i awdurdod monitro yn wybodaeth o'r un fath a geir mewn cyd-destun tebyg gan awdurdod monitro arall.

 

Nid yw rheoliad 10 o'r prif reoliadau yn ymwneud â'r math hwn o wybodaeth.  Yn hytrach, mae'n ymwneud â'r canlynol:

 

(a)  gwybodaeth a ddaw i fodolaeth o ganlyniad i benderfyniadau a wneir ac a gyhoeddir o dan y Ddeddf gan Weinidogion Cymru; hynny yw, y lwfansau a ddyrennir i bob awdurdod gwaredu gwastraff o dan adran 4 o'r Ddeddf ac unrhyw newidiadau i'r dyraniadau hynny a wneir o dan adran 5 o'r Ddeddf; a 

 

(b)  gwybodaeth y mae'r awdurdod monitro ei hun ei chreu; hynny yw:

 

(i)   maint y gwastraff trefol pydradwy a anfonir i safleoedd tirlenwi gan bob awdurdod  gwaredu gwastraff; a 

 

(ii)  y gwahaniaeth rhwng y maint hwnnw a'r maint y mae'r awdurdod gwaredu gwastraff yn dal lwfansau tirlenwi ar ei gyfer.

 

Ceir yr wybodaeth yn (i) drwy gymhwyso ffactor statudol o 61% i'r maint o wastraff trefol a gasglwyd a anfonir i safle tirlenwi gan awdurdod gwaredu gwastraff.  Fe geir peth o'r wybodaeth y mae ei hangen i wneud y cyfrifiad hwn yng nghofnodion awdurdod gwaredu gwastraff a gwybodaeth benodol a anfonir yn rheolaidd (dychweliadau) i'r awdurdod monitro a bydd yr awdurdod monitro yn "cael"  y cofnodion hynny a'r wybodaeth honno wrth iddo gyflawni ei swyddogaethau o dan y Ddeddf.  Nid yw'r Llywodraeth o'r farn y bydd y awdurdod monitro yn "cael" y cyfrifiad sy'n deillio o'r broses honno nac y bydd y cyfrifiad hwnnw yn cael ei "ddatgelu" iddo drwy'r broses honno.

 

Fe geir yr wybodaeth yn (ii) drwy dynnu'r maint yn (i) oddi wrth nifer y lwfansau a ddelir gan yr awdurdod ac a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 4 ac/ neu 5 o'r Ddeddf.  Unwaith eto, nid yw'r Llywodraeth o'r farn bod y cyfrifiad  sy'n deillio o'r broses honno yn wybodaeth y mae'r awdurdod monitro yn "cael" nac yn wybodaeth neu'n dystiolaeth a "ddatgelir" iddo.

 

Am y rhesymau hyn mae'r Llywodraeth o'r farn bod y ddarpariaeth a wnaed yn rheoliad 10 o'r prif reoliadau wedi ei hawdurdodi gan adran 11(1) a (2)(b) o'r Ddeddf.