Adroddiad Drafft y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Teitl: Gorchymyn Adroddiadau Archwilio ac Asesu (Cymru) (Diwygio) 2011
Gweithdrefn: Negyddol
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Adroddiadau Archwilio ac Asesu (Cymru) 2010 drwy ddarparu, mewn cysylltiad â'r blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2011, mai 31 Ionawr yn y flwyddyn ariannol y cynhaliwyd yr archwiliad ynddi neu y mae'r asesiad yn ymwneud â hi fydd y dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid anfon yr adroddiad.
Materion Technegol: craffu
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i fod yn destun adroddiad o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Rhinweddau: craffu
Gwahoddir y Cynulliad i roi sylw arbennig i’r offeryn hwn o dan Reol Sefydlog 21.3(ii), sef ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.
Gwnaed y Gorchymyn Adroddiadau Archwilio ac Asesu (Cymru) 2010 yn Saesneg yn unig, er ei fod yn Orchymyn byr, a chyhoeddwyd adroddiad beirniadol ar y Gorchymyn gan y cyn Bwyllgor Materion Cyfansoddiadol am y rheswm hwnnw. Atodir copi o’r adroddiad hwnnw i’r ddogfen hon.
Gwnaed y Gorchymyn presennol yn ddwyieithog. Serch hynny, gan fod y Gorchymyn wedi’i ddrafftio fel Gorchymyn diwygio, mae’r diwygiad a wnaed i Orchymyn 2010 yn Saesneg yn unig, ac mae’r gyfraith o sylwedd yn parhau i fod yn Saesneg yn unig. Pe bai’r Gorchymyn presennol wedi dirymu a disodli Gorchymyn 2010, byddai hynny wedi arwain at eitem o ddeddfwriaeth ddwyieithog yn cymryd lle datganiad o’r gyfraith yn Saesneg.
Mae’r enghraifft hon yn tynnu sylw at bwysigrwydd sicrhau bod dwyieithrwydd yn hytrach na chyfieithu yn elfen greiddiol o’r broses ddeddfu. Mae’n dangos yr angen hefyd i ystyried adroddiadau a gyhoeddwyd eisoes gan y Pwyllgor hwn a’i rhagflaenwyr wrth ddrafftio deddfwriaeth ar yr un pwnc.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Tachwedd 2011
ATODIAD
Gweithdrefn: Negyddol
Mae Adran 19 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 yn ei gwneud yn ofynnol i Archwilydd Cyffredinol Cymru gyhoeddi adroddiad archwilio ac asesu mewn cysylltiad â phob awdurdod gwella Cymreig. Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio adran 19(3)(a) o’r Mesur mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol a gychwynodd ar 1 Ebrill 2010, drwy ymestyn y terfyn amser y mae’n rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol gadw ato o ran anfon copi o’r adroddiadau at Weinidogion Cymru ac at yr awdurdod gwella Cymreig perthnasol. Newidier y dyddiad ar gyfer anfon ei adroddiad o 30 Tachwedd 2010 i 31 Ionawr 2011.
Materion Technegol: craffu
O dan Reol Sefydlog 15.2, bydd y Cynulliad yn cael ei wahodd i roi sylw arbennig i'r offeryn a ganlyn:
1. Gwnaed y Gorchymyn yn yr iaith Saesneg yn unig. Mae’r Memorandwm Esboniadol yn cynnwys y datganiad a ganlyn: “The Minister for Social Justice and Local Government has further determined in this particular circumstance that it is not reasonable or practicable for the order to be made in English and Welsh.”
Fodd bynnag, mae’r Gorchymyn, gan gynnwys y Memorandwm Esboniadol, yn 392 o eiriau o hyd, sef hanner maint y llythyr atodol sydd wedi’i gyfieithu ac sy’n egluro’r rhesymau dros dorri’r rheol 21 diwrnod. Yn ogystal â hyn, ar wahân i’r derminoleg safonol a ddefnyddir ar gyfer Offerynnau Statudol, yr un yw’r derminoleg a ddefnyddir yn y Gorchymyn a’r derminoleg a ddefnyddir yn y llythyr. O dan yr amgylchiadau hynny, nid yw’n glir pam yr ystyriwyd ei bod yn afresymol neu’n anymarferol i wneud Gorchymyn dwyieithog.
[Rheol Sefydlog 15.2(ix)]
Rhagoriaethau: Craffu
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau adrodd o dan Reol Sefydlog 15.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor
Materion Cyfansoddiadol
Tachwedd 2010
Ymatebodd y Llywodraeth fel a ganlyn:
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru o’r farn nad oedd cyfieithu Gorchymyn Adroddiadau Archwilio ac Asesu (Cymru) 2010 yn rhesymol nac yn ymarferol yn yr achos hwn o gofio’r cyfyngiadau amser a wynebwyd wrth wneud y Gorchymyn. Mae’r sylwadau ynghylch y llythyr atodol wedi eu nodi. Fodd bynnag, yr oedd gofyn cael cyfieithiad cyfreithiol a gwirio’r Gorchymyn. Nid oedd yn bosibl cyflawni hyn o fewn y cyfnod a roddwyd.