Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

(CLA(4)-12-11)

 

CLA53

 

Adroddiad drafft y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Teitl:  Gorchymyn Mesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010 (Diwygio) 2011

 

Gweithdrefn:  Gadarnhaol 

 

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Rhan 1 o Atodlen 2 i Fesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010 (‘y Mesur’) drwy amnewid y tablau ynghylch yr elfennau ym mharagraffau 5 a 6.  Gwneir hyn i gynyddu uchafswm yr ardollau y caniateir eu gosod ar gyfer yr elfennau cynhyrchu a chigydda/ allforio o’r ardoll cig coch.

 

Materion technegol: craffu

 

Gwahoddir y Cynulliad i dalu sylw arbennig i’r offeryn hwn o dan Reol Sefydlog 21.2.

 

1.       Gwneir y Gorchymyn hwn drwy ddefnyddio pwerau a roddwyd i Weinidogion Cymru gan adran 5(4) o’r Mesur, na wnaed gorchymyn cychwyn eto ar ei gyfer.  Er y disgwylir y bydd gorchymyn o’r fath yn cael ei wneud cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn, nid yw’r pŵer ar gael wrth i’r adroddiad hwn gael ei baratoi.  [Rheol Sefydlog 21.2(i) - bod amheuaeth a yw intra vires]

 

Rhinweddau: craffu

 

Ni wahoddir y Cynulliad i dalu sylw arbennig i’r offeryn hwn o dan Reol Sefydlog 21.3.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Tachwedd 2011