Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol 

(CLA(4)-13-11)

 

CLA59

 

Adroddiad drafft y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol 

 

Teitl: Rheoliadau Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2011

 

Gweithdrefn:  Cadarnhaol

 

Mae'r Rheoliadau hyn a wnaed o dan Fesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2010:-

·         yn gymwys i Fyrddau Iechyd Lleol ac Awdurdodau Lleol, ac yn rhannol i Ymddiriedolaeth GIG Felindre ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru;

·         yn ei gwneud yn ofynnol i Fyrddau Iechyd Lleol yng Nghymru ac Awdurdodau Lleol sy'n dod o fewn eu hardaloedd i weithio gyda'i gilydd i baratoi a chyhoeddi strategaeth sy'n dangos sut y byddant yn gweithio gyda'i gilydd i helpu a chynnwys gofalwyr yn y trefniadau sy’n cael eu gwneud ar gyfer y rhai y maent yn gofalu amdanynt; ac

·         yn gwneud darpariaeth ar gyfer ymgynghori wrth baratoi strategaethau, cynnwys strategaethau, darparu gwybodaeth a chyngor priodol, ymgynghori â gofalwyr neu bersonau y gofelir amdanynt, cyflwyno strategaethau drafft i Weinidogion Cymru, a pharatoi strategaethau ar y cyd.

 

Materion technegol: craffu

 

Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

 

(1)          Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud gan ddefnyddio pwerau a  roddwyd i Weinidogion Cymru gan adrannau 2(1), 3(2), 4, 5(1),5(2), 6(4) a 10(2) o’r Mesur lle nad oes gorchymyn cychwyn wedi ei wneud eto. Er bod disgwyl i orchymyn o’r fath gael ei wneud cyn dadl y Cyfarfod Llawn, nid yw’r pŵer ar gael wrth baratoi’r adroddiad hwn.  

 

[Rheol Sefydlog 21.2(i) – ei bod yn ymddangos bod amheuaeth a yw intra vires]

 

Rhinweddau: craffu

 

Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

 

(1) Y Rheoliadau hyn yw’r rhai cyntaf i’w gwneud o dan Fesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2010.

 

[Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad].

 

(2)  Mae Rheoliad 9(7) yn datgan bod yn rhaid cyhoeddi strategaeth y Gofalwyr yn y Gymraeg a’r Saesneg “oni bai nad yw'n rhesymol ymarferol i wneud hynny.”

 

Ar sail y darpariaethau manwl yn y Rheoliadau ynghylch paratoi’r strategaethau, a bod bwriad i strategaethau o’r fath gwmpasu cyfnod o dair blynedd, nid yw’n ymddangos bod unrhyw amgylchiadau lle na fyddai’n rhesymol ymarferol i’w cyhoeddi’n ddwyieithog.

 

Ar ben hynny, mae’r cymhwyster yn Rheoliadau 9(7) yn mynd yn groes i’r egwyddor a nodir yn adran 156(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru  2006 sy’n datgan:-

“(1)     The English and Welsh texts of—

(a)     any Assembly Measure or Act of the Assembly which is in both English and Welsh when it is enacted, or

(b)     any subordinate legislation which is in both English and Welsh when it is made,

are to be treated for all purposes as being of equal standing”.

Yr egwyddor yw bod y testunau ond yn gyfartal os cânt eu deddfu  neu eu gwneud yn ddwyieithog. Er bod y rheoliadau presennol yn ymwneud â strategaethau yn hytrach na deddfwriaeth, oni bai bod y drafft a gyflwynir i’w gymeradwyo (o dan reoliad9(3)) neu welliant (o dan rheoliad 9(6)) a gyflwynir yn ddwyieithog, bydd y drafft a gymeradwyir yn ffurfio’r strategaeth, a bydd unrhyw gyfieithiad yn union hynny.

[Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.]

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Tachwedd 2011

 

 

 

 

Mae’r Llywodraeth wedi ymateb fel a ganlyn:

 

Rheoliadau Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru)  2011

 

Craffu ar sail rhagoriaethau

 

Ni chynigir ymateb i'r sylw mai'r Rheoliadau hyn yw'r rhai cyntaf i'w gwneud o dan  Fesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2010.

 

O ran mater yr iaith, mae adroddiad drafft y Pwyllgor yn tanlinellu bod yn rhaid i awdurdodau gyhoeddi Strategaethau yn Saesneg ac yn y Gymraeg “oni bai nad yw'n rhesymol ymarferol i wneud hynny”.

 

Mae'r adroddiad yn nodi nad yw hyn yn gyson â'r gofyniad bod deddfwriaeth yn cael ei gwneud yn ddwyieithog, y mae adran 156 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn gymwys iddi. Yn achos deddfwriaeth, mae methiant i sicrhau bod deddfiad yng Nghymru yn cael ei basio yn y Gymraeg a'r Saesneg yn golygu pe bai'r deddfiad yn cael ei gyfieithu'n ddiweddarach i ail iaith, ni fyddai gan y testun yn yr ail iaith statws cyfartal â'r testun yn yr iaith y pasiwyd y deddfiad ynddi.

 

Gan nad yw'r strategaethau sydd i'w llunio gan “awdurdodau dynodedig” yn ddeddfwriaeth, a heb fod yn un o'r deddfiadau a grybwyllir yn adran 156, ni fyddent, beth bynnag, yn achub mantais o effaith yr adran honno.

 

Adran 156 yw'r ddarpariaeth sy'n rhoi effaith i'r egwyddor, pan fydd deddfwriaeth yn cael ei phasio yn y Gymraeg a'r Saesneg, yna mae'r ddau destun yn gyfartal eu statws. Nid yw'n gosod egwyddor bod yn rhaid i ddeddfwriaeth sy'n gwneud cyhoeddi dogfennau gan awdurdodau cyhoeddus yn ofynnol gynnwys gofyniad eu bod yn cael eu llunio yn y Gymraeg a'r Saesneg drwy broses sy'n gwarantu statws cyfartal i'r ddwy iaith.

 

Mae pob un o'r awdurdodau cyhoeddus yr effeithir arnynt gan y Rheoliadau hyn yn ddarostyngedig i ddyletswydd o gael Cynllun Iaith Gymraeg o dan adran 5 o Deddf yr Iaith Gymraeg 1993. Bydd angen iddynt roi sylw i ofynion eu cynlluniau hwy eu hunain.

 

Mae'r adroddiad drafft yn nodi, oherwydd natur y strategaeth, nad yw'n ymddangos bod unrhyw amgylchiadau na fyddai'n rhesymol ymarferol i gyhoeddi'r strategaeth yn ddwyieithog ynddynt. Cytunir bod amgylchiadau pan na fyddai'n rhesymol ymarferol i gyhoeddi'r strategaeth yn ddwyieithog yn debygol o fod yn brin iawn.