CLA60

 

Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Teitl: Gorchymyn Caniatâd Cynllunio (Tynnu'n ôl Orchymyn Datblygu neu Orchymyn Datblygu Lleol) (Iawndal) (Cymru) 2012

 

Gweithdrefn: Cadarnhaol

 

Mae’r Gorchymyn drafft hwn yn diwygio adran 108 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (“y Ddeddf”) fel y mae’n gymwys i Gymru. Bwriad Llywodraeth Cymru yw cychwyn adrannau 61A i 61D o’r Ddeddf (a fewnosodwyd gan adrannau 40 a 41 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004) er mwyn galluogi awdurdodau cynllunio lleol i gyflwyno gorchmynion datblygu lleol, ar ôl ymgynghori, fel y nodir mewn gorchymyn datblygu lleol. Mae adran 107 o’r Ddeddf yn darparu bod iawndal yn daladwy pan fydd caniatâd cynllunio a roddwyd gan awdurdod cynllunio lleol yn cael ei ddirymu neu ei addasu ar ôl hynny. Mae adran 108 o’r Ddeddf yn estyn yr hawl i gael iawndal i amgylchiadau pan fydd caniatâd cynllunio a roddwyd drwy orchymyn datblygu yn cael ei dynnu'n ôl. Mae’r Gorchymyn drafft hwn yn estyn yr hawl i gael iawndal i amgylchiadau penodol pan fydd caniatâd cynllunio a roddwyd drwy orchymyn datblygu lleol yn cael ei dynnu’n ôl ac mae’n cyfyngu mewn amgylchiadau eraill yr hawl i iawndal os bydd caniatâd cynllunio a roddwyd drwy orchymyn datblygu neu orchymyn datblygu lleol yn cael ei dynnu’n ôl. Mae diwygiad pellach yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru bennu materion penodol mewn perthynas â’r hawl i gael iawndal.

 

Materion technegol: craffu

 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

 

Rhinweddau: craffu

 

Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3(ii) mewn perthynas â'r offeryn drafft hwn – ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.

 

Mae’r Gorchymyn drafft hwn yn ffurfio rhan o gyfres o offerynnau. Mae paragraff 3.3 o’r memorandwn esboniadol yn nodi:-

 

Further instruments subject to negative procedure will be made in due course and laid before the National Assembly for Wales giving full effect to provisions relating to local development orders and in exercise of powers conferred by section 108 of the 1990 Act, as amended by this instrument.

 

Er bod yr offeryn hwn yn darparu ar gyfer trefniadau iawndal pan fydd caniatâd cynllunio a roddwyd drwy orchymyn datblygu lleol yn cael ei dynnu'n ôl yn unig, mae gorchmynion datblygu lleol yn ychwanegiad newydd i’r system rheoli datblygu newydd. Mae gorchymyn datblygu lleol yn orchymyn a wneir gan awdurdod cynllunio lleol a ddefnyddir i roi hawliau datblygu a ganiateir (ee lleihau’r angen i gael caniatâd cynllunio) – yn ychwanegol at y rhai a roddir yn genedlaethol gan Lywodraeth Cymru – i fathau penodol o ddatblygiadau (sydd wedi’u nodi yn y gorchymyn) o fewn ardaloedd penodol (sydd hefyd wedi’u nodi yn y gorchymyn).

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethiol

 

Tachwedd 2011