Media(4)-05-11 : Papur 1

 

Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar ddyfodol y Cyfryngau yng Nghymru

 

Papur tystiolaeth yn cael ei gyflwyno gan y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

 

Dyddiad:       7 Rhagfyr 2011

 

Amser:           11.00 -11.30 am                  

 

Teitl:               Rôl y Cyfryngau yn y Diwydiannau Creadigol a Chyfraniad y Sector Cyfryngau i’r Economi yng Nghymru

 

Cyflwyniad

 

Rwyf wedi cael gwahoddiad i drafod fy marn ynglŷn â rôl y cyfryngau yn y diwydiannau creadigol a chyfraniad y sector cyfryngau i economi Cymru gyda chi.

 

1.   Y Diwydiannau Creadigol yng Nghymru

 

Mae’r sector diwydiannau creadigol wedi cael ei nodi fel sector blaenoriaeth gan yr Adran Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth. Mae Llywodraeth Cymru’n diffinio’r sector fel “y diwydiannau hynny sy’n canolbwyntio ar greadigrwydd, sgiliau a dawn unigolion ac sydd â’r potensial i greu cyfoeth a swyddi drwy gynhyrchu a manteisio ar eiddo deallusol.” 

 

Mae’r sector yn cynnwys nifer o is-sectorau, sy’n gweithio mewn cysylltiad agos â’i gilydd ac sy’n bwysig nid yn unig i economi Cymru ond hefyd i’w bywyd cymdeithasol a diwylliannol. 

 

Mae fy adran i’n rhoi blaenoriaeth i’r diwydiannau creadigol oherwydd eu maint yng Nghymru ar hyn o bryd, eu rôl bwysig yn yr economi ddigidol, eu twf diweddar a’r potensial ar gyfer twf yn y dyfodol, yn arbennig yn niwydiannau’r cyfryngau digidol.

 

Yn Chwefror 2011, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddadansoddiad ystadegol o ddata economaidd yn ymwneud â phob un o’r sectorau y rhoddwyd blaenoriaeth iddynt yn Rhaglen Adnewyddu’r Economi. Roedd y dadansoddiad hwn yn dangos bod y diwydiannau creadigol yn cyflogi dros 30,000 o bobl a’u bod wedi cynhyrchu trosiant blynyddol o dros £1.8 biliwn yn 2009. Gwelwyd cynnydd o 23% mewn trosiant yn sector diwydiannau creadigol Cymru rhwng 2005 a 2009, gan ei wneud yn un o’r sectorau sy’n tyfu gyflymaf yng Nghymru.

 

 

2.   Rôl a Chyfraniad y Sector Cyfryngau yng Nghymru

 

Mae’r sector “cyfryngau” yn torri ar draws nifer o is-sectorau diwydiannau creadigol - Teledu a Radio, Cyhoeddi, Ffilm a’r Cyfryngau Digidol yn fwyaf arbennig. Mae wedi gwneud cyfraniad pwysig i’n heconomi ac mae wedi ehangu’r sylfaen sgiliau ar gyfer y diwydiannau creadigol.

 

Yn ôl ystadegau Rhaglen Adnewyddu’r Economi ar gyfer 2009, mae’r is-sectorau hyn gyda’i gilydd yn cynnwys tua 730 o fusnesau yng Nghymru, gan gynnwys cwmnïau darlledu. Maent yn cynhyrchu trosiant o dros £500m y flwyddyn ac yn cyflogi tua 6,000 o bobl. O ystyried gweithwyr llawrydd a microfusnesau bach neu fusnesau yn eu dyddiau cynnar nad ydynt wedi cael eu cofnodi gan fethodoleg Rhaglen Adnewyddu’r Economi, mae’n debyg bod pwysigrwydd economaidd y sector yn fwy fyth.

 

Rwy’n ymwybodol o’r heriau sy’n wynebu’r sector cyfryngau yng Nghymru a’r effaith y mae’r rhain yn ei gael ar draws y sector, o fusnesau preifat fel papurau newydd a chwmnïau cynhyrchu teledu, i’r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus mawr. Yn ogystal â’r toriadau yng nghyllid BBC Cymru ac S4C, sydd wedi cael llawer o sylw yn ddiweddar, a’r nifer sylweddol o swyddi sydd wedi cael eu colli yno yn anffodus, rwy’n bryderus ynglŷn â’r effaith y mae’r toriadau hyn yn ei gael yn barod ar y sector cynhyrchu annibynnol yng Nghymru. Rwy’n ymwybodol hefyd o’r heriau aruthrol sy’n wynebu’r diwydiannau cyhoeddi ac o effeithiau’r rhain ar fusnesau ac ar y gweithlu yng nghyfryngau print Cymru.

 

 

3.   Y Blaenoriaethau o Bersbectif Cymreig

 

Yr her i’m hadran i yw helpu i gefnogi a diogelu busnesau a swyddi yn y cyfryngau traddodiadol ac, ar yr un pryd, helpu busnesau newydd a busnesau sy’n bodoli’n barod i addasu ac ymateb i’r cyfleoedd masnachol sy’n cael eu cynnig gan fodelau busnes newydd ar gyfer y cyfryngau, technolegau newydd a marchnadoedd newydd. 

 

I’r perwyl hwn, mae tîm penodol ar gyfer y diwydiannau creadigol a phanel sector dan gadeiryddiaeth Ron Jones, Cadeirydd Gweithredol Tinopolis CCC, wedi cael eu sefydlu, i roi cyngor ynglŷn â’r polisïau a’r strategaethau y dylai’r adran roi blaenoriaeth iddynt wrth ddatblygu a gweithredu cymorth i’r sector. 

 

Mae’r panel wedi argymell rhai blaenoriaethau strategol clir a fydd yn arwain gwaith fy adran ar draws holl is-sectorau’r diwydiannau creadigol, gan gynnwys y cyfryngau. Gobeithir y bydd y blaenoriaethau hyn yn helpu i roi cyfeiriad strategol i ddarpariaeth Llywodraeth Cymru ochr yn ochr â’r gwaith o weithredu’r argymhellion a wnaethpwyd yn adroddiad yr Athro Ian Hargreaves, “Calon Cymru Ddigidol: Adolygiad o’r Diwydiannau Creadigol ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru”. Y blaenoriaethau hyn yw:

 

  1. Canolbwyntio adnoddau ar y busnesau creadigol hynny yng Nghymru sy’n gwerthu neu’n trwyddedu cynnyrch a gwasanaethau i farchnadoedd y tu allan i Gymru.

 

  1. Sicrhau bod hyfforddiant ac addysg sy’n berthnasol i’r diwydiannau creadigol yn cael eu cysylltu ag anghenion busnesau a’r economi ddigidol.

 

  1. Defnyddio dylanwad y Llywodraeth i gael cymaint ag sy’n bosibl o gefnogaeth o Ewrop a’r DU i’r sector creadigol yng Nghymru, gan sicrhau bod prosiectau sy’n cael arian o safon uchel ac yn gydnaws â’r blaenoriaethau strategol.

 

  1. Cyflymu twf busnesau cyfryngau digidol yng Nghymru.

 

  1. Cynyddu’r effaith y mae caffael sector cyhoeddus yn ei gael ar y diwydiannau creadigol yng Nghymru.

 

  1. Sicrhau bod Darlledwyr Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru’n trefnu eu materion er mwyn darparu’r manteision economaidd mwyaf y gellir eu cyflawni’n ymarferol i Gymru.

 

  1. Monitro gweithgarwch economaidd yn y sector yng Nghymru er mwyn galluogi polisi i addasu mewn amgylchedd sy’n newid yn gyflym.

 

Drwy’r cyngor sy’n cael ei gynnig gan banel y sector a’r tîm creadigol mae fy adran bellach wedi sefydlu’r mecanweithiau priodol i roi cefnogaeth briodol i’r sector. 

 

 

4.   Beth mae Llywodraeth Cymru’n ei Wneud?

 

Mae gweithgareddau presennol fy adran i gefnogi’r sector cyfryngau’n cynnwys:

 

  1. Rhoi cymorth ariannol i gwmnïau cynhyrchu o Gymru i gynhyrchu rhaglenni ar gyfer comisiynau rhwydwaith a chydgynyrchiadau rhyngwladol.

 

  1. Treialu Cronfa Datblygu Digidol newydd sbon sydd â’r nod penodol o gynorthwyo busnesau yn y cyfryngau, a’r sector creadigol ehangach, i wneud y gorau o’u syniadau creadigol drwy lwyfannau digidol ac mewn marchnadoedd rhyngwladol.

 

  1. Ceisio ysgogi cymaint ag sy’n bosibl o werth economaidd gan y darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus, drwy weithio gyda hwy er mwyn cynyddu eu comisiynu rhwydwaith gan gwmnïau o Gymru a’u cyfraniad economaidd ehangach i Gymru, a thrwy wneud gwaith ymchwil a dadansoddi a fydd yn sail i bolisïau a strategaethau a fydd yn cael eu datblygu yn y dyfodol gan y Llywodraeth, y BBC, S4C a darlledwyr eraill.

 

  1. Cwblhau dadansoddiad llawn o drefniadau caffael gwasanaethau cyfryngau yn y sector cyhoeddus drwy Gymru gyfan ac edrych sut y gallwn helpu cwmnïau sy’n ymwneud â’r cyfryngau yng Nghymru i gael cyfran fwy o’r contractau sy’n cael eu cynnig.

 

  1. Ymgynghori â chwmnïau blaenllaw yn y diwydiannau cyfryngau digidol yng Nghymru, er mwyn nodi’r ffactorau sy’n dylanwadu ar dwf a datblygu mecanweithiau priodol i gefnogi’r diwydiannau hyn.

 

  1. Comisiynu rhagor o ymchwil i fapio’r diwydiannau creadigol yng Nghymru, gan gynnwys dadansoddiad manylach o weithgaredd llawrydd a microfusnesau nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n llawn yn ystadegau presennol Rhaglen Adnewyddu’r Economi.

 

  1. Dal i geisio adeiladu Gwasanaeth Lleoliadau Cymru (Comisiwn Sgrîn Cymru) fel gwasanaeth cryf, yn canolbwyntio ar agweddau economaidd, a all gefnogi cynyrchiadau teledu a ffilm sy’n mewnfuddsoddi, ac a fydd hefyd yn helpu busnesau lleol a gweithwyr llawrydd i gael cyfleoedd newydd.