Media(4)-06-12 : Papur 3

 

Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol (CELG)

Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar ddyfodol y Cyfryngau yng Nghymru

 

Papur tystiolaeth a gyflwynwyd gan y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth

 

 

Dyddiad:                   12 Ionawr 2012

 

Amser:                       13:30 – 14:30 pm.              

 

Teitl:                           Y Cyfryngau yng Nghymru

 

 

Cyflwyniad

 

Mae gan ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru rôl hollbwysig i'w chwarae ym mywyd dinesig Cymru yn enwedig o gofio gwendid y wasg gynhenid a'r sector teledu a radio masnachol yng Nghymru. Daeth eu rôl yn bwysicach fyth yn dilyn canlyniad y refferendwm ym mis Mawrth 2011 a gadarnhaodd y dylai'r Cynulliad Cenedlaethol gael pwerau uniongyrchol i wneud deddfwriaeth sylfaenol.  Mae rhaglenni newyddion a materion cyfoes cynhwysfawr, a rhaglenni eraill ar gyfer cynulleidfaoedd Cymru, yn fater o bwys i Lywodraeth Cymru.

 

Mae’n amlwg fod y datblygiadau diweddar mewn perthynas â diwydiant y cyfryngau yng Nghymru, yn destun pryder i bob un o’r pleidiau, fel ei gilydd.

 

Mae Adroddiad Ofcom ar y Farchnad Gyfathrebu yng Nghymru yn 2010 a gyhoeddwyd ym mis Awst 2011 wedi tynnu sylw at y cwtogi difrifol sydd eisoes wedi digwydd yn y gwariant ar raglenni teledu Saesneg yng Nghymru.  Mae’r hyn y mae ITV1 Wales a BBC Wales yn ei wario ar raglenni teledu Saesneg wedi gostwng o £28 miliwn yn 2009 i £25 miliwn yn 2010 - sy'n ostyngiad o 13%. Dyma'r gostyngiad mwyaf o flwyddyn i flwyddyn ymysg pedair gwlad y DU.  Dros bum mlynedd gwelwyd gostyngiad 33%, sef o £37 miliwn yn 2005 i £25 miliwn yn 2010.  Yn ogystal â hynny wrth gwrs, gwnaed toriadau sylweddol i gyllidebau S4C a'r BBC.

 

Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn pwysleisio ein hymrwymiad i'r diwydiant darlledu yng Nghymru.

 

Gan fod y cyfrifoldeb am faterion darlledu yn Llywodraeth Cymru yn rhan o’m portffolio i, dyma sylwadau ar rai agweddau ar ddiwydiant y cyfryngau yng Nghymru.

 

 

S4C

 

Mae'r her o ddiogelu S4C wedi bod yn destun pryder i lawer ohonom yng Nghymru ac, yn wir, y tu hwnt i Gymru, yn ystod y misoedd diwethaf, ac mae hynny’n ddigon teg.

 

Fel Llywodraeth, yr ydym yn croesawu’r cytundeb a wnaed rhwng Ymddiriedolaeth y BBC ac Awdurdod S4C.  Mae'r cytundeb yn ymdrin ag arian, trefniadau llywodraethu ac atebolrwydd S4C dros y chwe blynedd nesaf.  Mae'n gwneud hynny mewn ffordd sy'n diogelu annibyniaeth golygyddol a rheolaethol S4C, ac mae hynny’n hollbwysig. Mae'r sicrwydd o arian hyd at 2017 yn gam mawr ymlaen a dylai roi sefydlogrwydd i S4C a'r sector cynhyrchu annibynnol. Fodd bynnag, mae'n bwysig cofio bod y sefyllfa ariannu sy'n wynebu S4C yn wahanol iawn i'r sefyllfa a warantwyd yn flaenorol mewn statud.

 

Byddwn yn parhau i ddadlau dros yr egwyddor na ddylai darlledu cyfrwng Cymraeg gael ei drin yn llai ffafriol nag unrhyw agwedd arall ar ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus.  Byddwn yn parhau i bwysleisio hefyd na ddylid cefnu ar yr egwyddorion y sefydlwyd S4C arnynt o dan Ddeddfau Darlledu olynol - hynny yw, na ddylid torri'r contract hwn â phobl Cymru.   Crëwyd S4C o dan statud i sicrhau sefydlogrwydd ac annibyniaeth hirdymor y sefydliad ac i osgoi unrhyw ymgecru dros yr iaith Gymraeg o flwyddyn i flwyddyn. Mae dyletswyddau’r sianel, ei chyfrifoldebau a'i threfniadau ariannu wedi’u rhagnodi yn y gyfraith am reswm da iawn. 

 

Mae'n galonogol bod y bartneriaeth newydd rhwng y ddau ddarlledwr yn cynnig buddiannau pwysig i ddinasyddion Cymru. Dylid rhoi blaenoriaeth yn y lle cyntaf i sicrhau bod S4C a'r BBC yn dechrau cyflawni ar sail y bartneriaeth honno.  Fodd bynnag, oherwydd bod gan S4C rôl hollbwysig, credwn hefyd y dylid cynnal adolygiad annibynnol o ganlyniadau'r bartneriaeth hon ar ryw adeg - rhywbeth y mae'r holl bleidiau yn y Cynulliad hwn wedi cytuno arno.  Mae safbwynt Llywodraeth Cymru yn glir - dylid cynnal adolygiad eang o S4C a hwnnw wedi’i gomisiynu ar y cyd gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Amlinellir yr ymrwymiad hwn i bwyso am adolygiad yn ein Rhaglen Lywodraethu. Byddwn yn parhau i drafod amseriad yr adolygiad hwn gyda Llywodraeth y DU. Roeddem yn siomedig iawn â'r ymateb a gawsom i'r llythyr a anfonwyd gan arweinwyr y pedair plaid yn y Cynulliad y llynedd.

 

Er nad ydym ni fel Llywodraeth yn gyfrifol am ariannu S4C, rydym yn llwyr ymwybodol o oblygiadau’r penderfyniadau a wnaed yn yr ychydig fisoedd diwethaf mewn perthynas â'r sianel. 

 

BBC

 

Gallai'r gofyniad i'r BBC ddod o hyd i arbedion o hyd at 20% yn ei chyllideb dros y pedair blynedd nesaf fod yn fygythiad anghymesur, o bosibl, i wasanaethau lleol y BBC yng Nghymru. 

 

Yn naturiol, roedd y cynigion i gwtogi ar wasanaethau'r BBC yng Nghymru yn destun pryder i ni.   Yr ydym yn cydnabod fod yn rhaid i'r BBC, fel pob sefydliad arall yn y sector cyhoeddus, wneud rhai penderfyniadau anodd i sicrhau arbedion sylweddol yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf.  Wrth ystyried cwtogi ar y gwasanaethau yng Nghymru, rhaid cofio bod cwmpas y gwasanaethau hynny yn gymharol gyfyngedig yn y lle cyntaf.  Fodd bynnag, credwn y dylid gwneud ymrwymiad clir i ddiogelu ac atgyfnerthu'r gwasanaethau craidd hynny yn Gymraeg a Saesneg sydd wedi'u hanelu'n benodol at wylwyr a gwrandawyr yng Nghymru.

 

Fel Llywodraeth, rydym wedi cael sicrwydd gan reolwyr BBC Cymru bod y BBC yn cymryd camau i gadw'r holl wasanaethau newyddion dyddiol yn y ddwy iaith ac y bydd y buddsoddiad cyffredinol mewn rhaglenni materion cyfoes a gwleidyddol yng Nghymru yn cael ei ddiogelu. Mae gwasanaeth newyddion a materion cyfoes BBC Cymru yn arbennig o bwysig mewn gwlad fach sydd heb lawer o adnoddau ym maes y cyfryngau.

 

I raddau, mae cynnydd y cynyrchiadau rhwydwaith sy’n cael eu gwneud yng Nghymru wedi lleihau rhywfaint ar effaith y cwtogi a fu ar gyllideb BBC Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf.  Ond er bod Caerdydd wedi dod yn fwyfwy pwysig fel canolfan ar gyfer cynyrchiadau rhwydwaith, nid yw hyn yn gyfiawnhad o unrhyw fath dros leihau buddsoddiad y BBC mewn gwasanaethau lleol.  Fodd bynnag, credwn ei bod yn bwysig datblygu'r maes busnes hwn ymhellach a sicrhau bod y BBC yn gweithredu ar ei ymrwymiad i gynhyrchu 15% o gynyrchiadau rhwydwaith y tu allan i Lundain a De-ddwyrain Lloegr erbyn 2016 - rydym wedi dehongli bod hyn yn awgrymu y bydd 5% o gynyrchiadau'n cael eu creu yng Nghymru. 

 

Fel Llywodraeth, byddwn yn gwneud popeth posibl i helpu i sicrhau dyfodol cynaliadwy a ffyniannus i'r BBC yng Nghymru.

 

ITV Cymru

 

Ar hyn o bryd mae patrwm hirdymor gwasanaethau ITV yng Nghymru ymhell o fod yn eglur.  Credwn fod angen llais annibynnol cryf ar Gymru ym maes darlledu i wrthbwyso darpariaeth BBC Cymru. Mae angen i ni gynnal lluosogrwydd mewn darlledu yng Nghymru a chredwn fod gan ITV Cymru rôl hollbwysig i'w chwarae o hyd. Byddwn yn parhau i ymgyrchu dros gynnal lluosogrwydd presennol darlledu gwasanaeth cyhoeddus.  Byddwn hefyd yn pwyso ar Lywodraeth y DU y dylai darpariaeth bresennol ITV, sef ychydig llai na phedair awr o newyddion bob wythnos, yn ogystal ag awr a hanner o ddeunydd arall, gan gynnwys gwasanaeth materion cyfoes a gwleidyddol, fod yn amod gofynnol ar gyfer adnewyddu trwydded ITV.

 

Fel Llywodraeth, rydym wedi mynegi pryderon arbennig am yr angen i sicrhau lluosogrwydd a gwasanaeth newyddion cryf a hefyd rhaglenni cyffredinol sydd wedi'u hanelu at wylwyr yng Nghymru er mwyn sicrhau bod materion democrataidd i Gymru ar gael i bobl Cymru ar sianel 3. Ni ddylid ystyried gwasanaeth newyddion sianel 3 fel gwasanaeth 'newyddion rhanbarthol', ond fel gwasanaeth newyddion cenedlaethol a democrataidd sy’n hanfodol i bobl Cymru.

 

 

Teledu Lleol

Mae'r ffaith bod trefi a dinasoedd yng Nghymru wedi'u clustnodi fel lleoliadau posibl ar gyfer y gwasanaeth teledu lleol newydd yn galonogol iawn. Rydym yn cydnabod bod rhwystrau technegol sylweddol ynghlwm â chyflwyno gwasanaethau o'r fath ar draws rhannau eraill o'r wlad yn y dyfodol agos.  Rydym, fodd bynnag, yn bryderus bod hyn yn golygu bod y Llywodraeth, mewn gwirionedd, yn barod i noddi datblygiad newydd pwysig o bosibl ym maes y cyfryngau mewn modd a fyddai'n golygu na fydd y gwasanaeth ar gael yn gyfartal ar draws y DU nac ar draws gwledydd a rhanbarthau'r DU.  O safbwynt Llywodraeth Cymru, mae'r ffaith na fydd cyfran helaeth o Gymru yn gallu manteisio ar y gwasanaeth newydd posibl yn destun pryder.

 

Mae'r hinsawdd ddarlledu yng Nghymru yn wahanol iawn i'r hinsawdd yn Lloegr, lle nad oes unrhyw hanes o deledu lleol.   Yn aml, bernir mai'r diffiniad o wasanaethau lleol yng Nghymru yw'r hyn a ddarperir yn genedlaethol. Yn unol â'r cefndir hwn, blaenoriaeth gyntaf Llywodraeth Cymru yw cynnal ac o bosibl cryfhau ein gwasanaethau teledu lleol. 

 

Er gwaethaf ein hamheuon ynghylch y syniad o wasanaethau teledu lleol, byddai gennym ddiddordeb mewn gweld sut y gallai gefnogi ein diwydiannau creadigol. Gallai'r broses o ddatblygu'r gwasanaethau hyn greu cyfleoedd hyfforddi ar gyfer pobl ifanc sydd â diddordeb mewn gweithio yn niwydiant y cyfryngau a gallai felly fod yn ffordd ddefnyddiol o gynyddu'r capasiti sgiliau yng Nghymru.  Rydym yn cydnabod y gallai'r gwasanaethau newydd hyn ychwanegu dimensiwn newydd at luosogrwydd.  Felly, hoffem ystyried y rôl bosibl y gallai teledu lleol ei chwarae yng nghyd-destun Cymru.

 

Papurau newydd

 

Nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gyfrifoldeb uniongyrchol mewn perthynas â'r diwydiant papurau newydd yng Nghymru. Fodd bynnag, mae gennym bryderon mawr am y sefyllfa sy'n datblygu, gan ei bod yn cael cymaint o effaith ar ein gwaith ac ar gymunedau lleol ledled Cymru. Rydym yn cydnabod ei bod yn bwysig cael sector cyfryngau iach fel rhan hanfodol o gymdeithas ddemocrataidd fodern.  Rydym yn wynebu problem ddifrifol o ran papurau newydd a newyddiaduraeth yng Nghymru, yn arbennig, efallai, newyddiaduraeth cyfrwng Saesneg, ond nid yw sefyllfa newyddiaduraeth yn Gymraeg yn rhy lewyrchus chwaith. Mae dod o hyd i atebion i'r problemau hyn hyd yn oed yn fwy anodd. Mae sicrhau lluosogrwydd o ran gwasanaethau yn hollbwysig o ran darlledu gwasanaeth cyhoeddus ac mae'r un ddadl yn berthnasol i'r diwydiant papurau newydd. Mae hyn yn hollbwysig er mwyn sicrhau democratiaeth deg a diwallu anghenion darllenwyr.

 

Fel Llywodraeth, roeddem yn bryderus ac yn siomedig iawn bod Trinity Mirror wedi penderfynu'n ddiweddar i gwtogi rhagor ar y swyddi yn Media Wales. Mae hyn yn ychwanegol at nifer sylweddol y swyddi a gollwyd ar draws cyhoeddiadau Media Wales dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf yn ne Cymru. Ynghyd â'r swyddi golygyddol a gollwyd, mae'r newyddion y bydd swyddfeydd yn cau yn amlwg wedi bod yn ergyd i'r cymunedau dan sylw. Rydym yn poeni na fydd y penderfyniad hwn yn gwneud dim i gryfhau presenoldeb y cyfryngau sydd eisoes yn dirywio yng Nghymru. Mae’r Prif Weinidog wedi ysgrifennu'n ddiweddar at Sly Bailey, Prif Weithredwr Trinity Mirror, i ofyn am arwydd clir bod y cwmni'n ystyried bod ei weithrediadau yng Nghymru yn rhan graidd o'i fusnes, er mwyn rhoi sicrwydd i'r staff niferus sy'n gweithio'n ddiflino i adrodd am faterion Cymreig.

 

Cymorth Llywodraeth Cymru i gyhoeddiadau newyddion a materion cyfoes

 

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i roi arian (£200,000 yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol), drwy Gyngor Llyfrau Cymru, i Golwg 360 – y gwasanaeth newyddion dyddiol Cymraeg ar-lein. Mae hyn yn ychwanegol at y £171,000 y mae Llywodraeth Cymru yn ei wario ar hyn o bryd, drwy Gyngor Llyfrau Cymru, ar gyhoeddiadau newyddion a materion cyfoes cyfrwng Cymraeg.

 

Mae'r buddsoddiad yn Golwg 360 wedi arwain at greu swyddi a hyfforddiant yn Golwg Newydd (y cwmni sy'n berchen ar Golwg 360) a'i chwaer gwmni Golwg Cyf., sy'n berchen ar y cylchgrawn print.  Crëwyd cyfanswm o saith swydd yn Golwg 360, ac o’r rheini roedd pedair ohonynt yn swyddi newyddiadurol. Mae Golwg ei hun wedi creu 1.7 o swyddi newydd.  Darparwyd yr hyfforddiant newyddiadurol yn fewnol yn bennaf gan fanteisio ar y profiad y mae Golwg wedi'i feithrin dros sawl blwyddyn.  Yn ardaloedd Llanbedr Pont Steffan a Chaernarfon y mae mwyafrif y swyddi a grëwyd. Mae'r diwydiant papurau newydd wedi newid yn sylweddol yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf gyda mwy o bwyslais ar bapurau newydd ar y rhyngrwyd. Hyd yn oed yn ystod y tair blynedd ers i Golwg Cyf ennill y tendr, mae papurau newydd ar-lein wedi datblygu i fod yn boblogaidd iawn. Rydym yn parhau i gredu mai'r ateb ar-lein a ddeilliodd o broses dendro'r Cyngor Llyfrau sy'n cynnig y gobaith gorau o ateb cynaliadwy.

Mae Cyngor Llyfrau Cymru hefyd yn cefnogi cylchgronau Saesneg. Mae un ohonynt yn ymwneud â materion cyfoes/diwylliant yn unig ac yn cael £73,700 o arian grant.

 

Radio Cymunedol

 

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ariannu Cronfa Radio Cymunedol (£100k y flwyddyn) a sefydlwyd i gydnabod a chefnogi'r cyfraniad y mae gorsafoedd radio cymunedol yn ei wneud i'w cymunedau. Crëwyd y gronfa i helpu i redeg gorsafoedd radio cymunedol sydd wedi cael trwydded ddarlledu bum mlynedd gan Ofcom (Swyddfa Gyfathrebiadau y DU). Mae'r Gronfa yn destun adolygiad ar hyn o bryd a fydd yn dylanwadu ar unrhyw gymorth yn y dyfodol.

 

DAB

Mae darparu gwasanaethau radio cynaliadwy a llwyddiannus yn Gymraeg a Saesneg yn her. Ond mae’r her honno yn anoddach oherwydd bod angen cwblhau rhwydwaith darlledu i sicrhau bod y gwasanaethau hynny ar gael ym mhob rhan o Gymru.  Mae'n bwysig, er enghraifft, bod cynnwys a chwmpas y gwasanaeth DAB yng Nghymru cystal â'r ddarpariaeth AM/FM bresennol, a'i fod ar gael mewn ardaloedd lle mae’r gorsafoedd cenedlaethol (Radio Cymru a Radio Wales) ond ar gael drwy'r sbectrwm AM.  Bydd angen i'r gwasanaeth DAB newydd ddarparu gwasanaeth gwell i ddarbwyllo gwrandawyr ledled y DU am fanteision y gwasanaeth hwnnw. Ni fyddai Llywodraeth Cymru o blaid newid i radio digidol yng Nghymru hyd nes y gellir gwarantu bod y gwasanaeth DAB yn cwmpasu o leiaf 97% o'r wlad.  Rydym wedi pwysleisio hyn wrth Lywodraeth y DU dro ar ôl tro.

 

Roedd yn galonogol clywed cyhoeddiad gan BBC Cymru yn ddiweddar y bydd mwy o bobl yn ne-ddwyrain Cymru yn medru cael BBC Radio Wales ar FM ar ôl i'r gwasanaeth yn yr ardal gael ei newid i drosglwyddydd radio gwahanol. Fodd bynnag, mae'n naturiol bod y problemau presennol o ran derbyn signal radio FM yn ein gwneud yn bryderus am oblygiadau’r bwriad i newid i radio digidol.

 

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i godi'r materion hyn â Llywodraeth y DU drwy ein cynrychiolwyr ar Grŵp Polisi Radio Digidol Llywodraeth y DU a Grŵp Rhanddeiliaid Radio Digidol Llywodraeth y DU.

 

Rôl Llywodraeth Cymru

 

Felly, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fod o blaid cynnal gwasanaethau llawn yn Gymraeg a Saesneg. Fel cenedl sydd â'n hiaith ein hunain, ein diwylliant ein hunain a'n sefydliadau gwleidyddol ein hunain, mae cyfryngau cryf yn hollbwysig i ddarparu gwasanaeth cynhwysfawr sy'n rhoi gwybodaeth i bobl Cymru, yn eu haddysgu ac yn eu hysbrydoli. 

 

Gallaf eich sicrhau ein bod, yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf, wedi mynegi ein pryderon yn rheolaidd wrth Lywodraeth y DU, Ymddiriedolaeth y BBC ac Ofcom ynghylch nifer o faterion yn ymwneud â'r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus. Nid yw’n dderbyniol i ddyfodol darlledu yng Nghymru gael ei lywio’n llwyr gan y toriadau y mae Llywodraeth y DU yn eu gorfodi.

 

Bu datganoli S4C a darlledu yn gyffredinol yn bwnc llosg yn ddiweddar. Nid yw Llywodraeth y DU wedi cynnig datganoli S4C. Ni fyddai'n gwneud synnwyr i ni, fel Llywodraeth, fod yn gyfrifol am S4C heb gael sicrwydd bod Llywodraeth y DU yn trosglwyddo'r arian priodol hefyd. Fodd bynnag, mae'r hinsawdd ddarlledu yn newid yn gyflym ac nid oes sicrwydd y bydd y strwythurau sydd ar waith nawr yn parhau yn y dyfodol.

 

Byddwn hefyd yn dymuno trafod â Llywodraeth y DU sut y gallwn feithrin cysylltiadau cryfach rhwng S4C - ac, yn wir, ddarlledwyr eraill yng Nghymru - a'r Cynulliad Cenedlaethol, a hynny nid am ein bod yn credu y dylid datganoli cyfrifoldeb dros ddarlledu ond am ein bod yn credu bod gweithgareddau'r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn rhy bwysig i beidio â chael eu trafod yn y Cynulliad.  Mae ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i bwyso ar y darlledwyr a'r rheoleiddiwr i lunio adroddiad blynyddol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, gydag Ofcom, BBC/S4C, ITV a Channel 4 yn llunio adroddiad blynyddol i bwyllgor Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithio'n agos gyda'r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ar nifer o'r materion allweddol hyn a bydd yn parhau i gyfrannu mewn ffordd adeiladol i sicrhau bod y Ddeddf Gyfathrebu newydd yn diwallu anghenion Cymru.