Media(4)-06-12 : Papur 2

 

Papur Tystiolaeth ar gyfer Grŵp Cyfryngau y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

 

Awdur: Ron Jones, Cadeirydd Panel Cynghori y Diwydiannau Creadigol ar gyfer yr Adran Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth. 

 

Dyddiad:       Ionawr 12, 2012.

 

Wrth ganolbwyntio’n bennaf ar y cyfryngau yng Nghymru, mae Panel sector y Diwydiannau Creadigol wedi’i gyfyngu o ran y dylanwad sydd ganddo.  Nid yw Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus wedi’i ddatganoli, ac o fewn Llywodraeth Cymru, yr Adran Treftadaeth, Adfywio a Thai sy’n gyfrifol amdano.  Prif gylch gwaith panel y diwydiannau creadigol felly yw ystyried effaith economaidd y cyfryngau yng Nghymru.   

 

Mae’n debygol y bydd hyn yn newid yn y dyfodol agos, ac, yn ymarferol, mae’n anghynaladwy i Gymru beidio â bod yn atebol am y rhan fwyaf o’n cyfryngau. 

 

Mae Ymddiriedolaeth y BBC yn ystyried mai bod yn ddarlledwr Prydeinig yw ei brif swyddogaeth.  Is-set fechan o fewn Is-adran Newyddiaduraeth y BBC yw y Gwledydd a’r Rhanbarthau.  Nid oes gan Gymru lawer o ddylanwad a phŵer ar yr uwch fwrdd rheoli. 

 

Mewn gwirionedd, dim ond pan gaiff trwyddedau eu hadnewyddu y mae ITV yn atebol i wleidyddion.  Nid yw Ofcom wedi gwneud llawer i ddiogelu gofynion DGC Cymru, ac mae amodau trwyddedu wedi’u llacio i’r fath raddau fel mai ychydig o fudd, yn economaidd neu o ran cynnwys Cymraeg y darlledu, sydd i’r gwasanaeth.   

 

Mae S4C wedi treulio ei bywyd hanner ffordd rhwng Llundain a Chaerdydd, heb fod yn wir atebol i’r un ohonynt.  Nid yw Llywodraeth Cymru wedi’i  chynnwys yn ddigonol, ac roedd yn amlwg y byddai yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn cael anawsterau wrth fonitro corff mewn iaith nad oedd yn ei deall. 

 

Mater o farn wleidyddol yw a ddylai darlledu fod yn fater sydd wedi’i ddatganoli.  Fodd bynnag, mae rheswm cryf dros ddadlau y byddai yn haws cynnal proses graffu ystyrlon ac effeithiol well ar lefel leol er mwyn gofalu am fuddiannau cyffredinol Llywodraeth Cymru, y Cynulliad, ein darlledwyr lleol a’r gynulleidfa.  O ran darlledu yn yr iaith Gymraeg, mae cymhlethdodau cyfansoddiadol sy’n gwneud y ddadl hyd yn oed yn gryfach.  

 

Mae sefyllfa S4C yn astudiaeth achos ddiddorol o ran paham nad yw’r trefniadau presennol yn gweithio i Gymru, ac mae hanesion tebyg gan ITV a’r BBC hefyd.  Roedd y Bil Cyrff Cyhoeddus yn awgrymu’r posibilrwydd o gael y Gweinidog perthnasol i addasu trefniadau ariannu S4C, ond hefyd i roi’r pŵer i’r Gweinidog ad-drefnu trefniadau sefydliadol S4C a throsglwyddo swyddogaethau S4C.  Ni fu unrhyw ymgynghori â Llywodraeth Cymru, ac ASau a’u cydweithwyr oedd yn gyfrifol am geisio gwella rhai elfennau yn y Bil. 

 

Mae’r Bil hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidog Prydain gael cydsyniad Llywodraeth Cymru cyn defnyddio ei bwerau i’r graddau y dymuna wneud hynny.  Mae Deddf Llywodraeth Cymru yn cynnwys “Hybu neu hwyluso’r defnydd o’r iaith Gymraeg” ymysg y pynciau y caiff ddeddfu yn eu cylch.  Mae darlledu yn yr iaith Gymraeg yn amlwg yn berthnasol i hybu neu hwyluso’r defnydd o’r iaith Gymraeg.  Beth bynnag yw’r materion cyfreithiol manylach, mae hyn yn pwysleisio’r angen am gytundeb cadarn rhwng Llundain a Chaerdydd ar y mater, heb ei ddatganoli, ond o ddiddordeb canolog i Lywodraeth Cymru.  Mae adroddiad Syr Jeremy Beecham “Creu'r Cysylltiadau - Cyflawni Ar Draws Ffiniau” yn trafod yr angen i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn chwarae ei rhan yn y gwasanaethau sydd heb eu datganoli.  Mae’n ymddangos bod S4C yn enghraifft ddelfrydol o hyn. 

 

Mae Gweinidog yr Adran Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth wedi gofyn am fy marn ar nifer o’r materion sy’n gysylltiedig â Theledu a Darlledu, ac rwy’n credu bod cydnabyddiaeth bellach o’r angen taer i lunio consensws gwleidyddol yng Nghymru a San Steffan i ddiogelu ein gwasanaethau darlledu, ond ein gwasanaethau teledu yn benodol.  Mae angen i’r consensws hwn fod yn deg ac ymarferol.  Mae angen iddo gael ei dderbyn yn gyffredinol ac, yn bwysicaf oll, sicrhau nad oes gwrthdaro ar lefel wleidyddol na chymdeithasol. 

 

Mae is-sectorau’r Cyfryngau yn rhannau pwysig o economi Cymru ac mae cael cymaint o werth â phosib ohonynt i Gymru yn galw am ddull cydgysylltiedig o weithio ar draws adrannau’r llywodraeth i sicrhau gwerth gorau.  

 

Dros y 2 flynedd nesaf, gwelwn y Ddeddf Gyfathrebu, siarter newydd i’r BBC a thrafodaethau am drwyddedau, adnewyddu trwyddedau ITV a goblygiadau Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus, gwasanaethau teledu lleol newydd, adlinio cyfrifoldebau rheoleiddiol Ofcom a throsglwyddo cyllido S4C i’r BBC.  Os nad yw Cymru yn ymladd ei hachos byddwn yn colli allan.   

 

Dylai Llywodraeth Cymru lwyddo i ddod o hyd i ddull rhesymegol deallusol o fynnu i fod yn rhan o hyn.  Yn benodol, gallai gynnal arolwg o beth yw anghenion Cymru o ran y byd teledu ac anghenion cysylltiedig, ac fe ddylai’r arolwg hwn fod yn bwynt cychwyn ar gyfer ein trafodaethau gyda darlledwyr ac awdurdodau eraill y DU.  Ni fu ymgais gydlynol i asesu yr hyn y mae Cymru ei hangen ers dyfarnu trwydded ddiwethaf ITV.  Roedd arolwg Ofcom UK o wasanaethau lleol tua 2 flynedd yn ôl yn annigonol. 

 

Fel gwlad, mae angen inni nodi’r elfennau hynny o deledu sydd eu hangen am resymau diwylliannol, ieithyddol, cymdeithasol neu ddemocrataidd penodol Gymreig.  Dylid dechrau a chytuno ar arolygon o’r fath wedi ymgynghoriad cyhoeddus llawn, a chynnwys pob un o’r rhanddeiliaid allweddol.  Yn ddelfrydol, byddai’r rhain yn cynnwys yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, Ymddiriedolaeth y BBC, S4C, Llywodraeth Cymru a’i NDPBau sydd â chyfrifoldebau perthnasol yn ogystal â’r Cynulliad ac Aelodau Seneddol Cymru.   

 

Buasai canlyniadau arolwg o’r fath yn llywio ein polisïau ar gyfer darlledu gwasanaeth cyhoeddus ac yn sylfaen i sicrhau hefyd y bydd y darlledu hwn wedi’i strwythuro i roi cymaint o fudd economaidd â phosib. 

Dylem geisio llunio Memorandwm Dealltwriaeth gyda darlledwyr, gan gynnwys atebolrwydd i Gymru sy’n bwysicach na’u cyfrifoldebau Prydeinig a statudol.  Cytundeb priodol gyda’r BBC yw’r un pwysicaf. 

 

Mae datganoli yn golygu bod y BBC bellach yn un o’r sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus pwysicaf yng Nghymru.  Yn economaidd, yn newyddiadurol ac yn ddiwylliannol, y BBC yw’r bwystfil mwyaf, ac wrth iddo newid pwyslais, dyma ble y gall Gymru elwa fwyaf.  Mae’r BBC yn chwarae rhan sylweddol wrth ddarparu’r cynnwys teledu, radio, ar-lein a dysgu na all marchnadoedd confensiynol eu cynnig, gan ddatblygu doniau creadigol a bod yn sylfaen i economi greadigol y genedl.  Mae penderfyniad llywodraeth Prydain i ariannu S4C fel gwasanaeth Prydeinig sy’n cael blaenoriaeth, a’i ariannu o’r drwydded deledu wedi gwneud y swyddogaeth hon hyd yn oed yn bwysicach.  

 

Fy marn i yw y dylai Llywodraeth Cymru gael Darlledwyr Gwasanaeth Cyhoeddus i wneud ymrwymiad penodol i ddiffinio eu cyfrifoldebau a’u hymrwymiadau i Gymru, ac mae angen inni sicrhau bod y rhain yn cael eu datblygu trwy drafodaeth agored a chyhoeddus o’r materion dan sylw.  

 

Mae angen i Lywodraeth Cymru lunio cytundeb partneriaeth unigryw gyda’r BBC fydd yn galluogi’r ddau sefydliad i gydweithio i: 

 

 

Mae elfen o frys i bob un o’r materion sy’n gysylltiedig â darlledu a dyna pam mae Gweinidog yr Adran Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth wedi cytuno i greu is-banel newydd o’r panel diwydiannau creadigol i ganolbwyntio’n benodol ar faterion darlledu.