Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

CLA(4)-01-12

 

CLA66

 

Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Teitl: Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) 2011

 

Gweithdrefn:    Negyddol

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) 1989 drwy ddiweddaru, drwy ychwanegu Jersey, y rhestr o wledydd neu diriogaethau y mae Llywodraeth y DU wedi dod i gydgytundeb gofal iechyd â hwy. Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn cyflwyno esemptiadau rhag ffioedd am driniaeth GIG (ar gyfer y cyfnod rhwng 9 Gorffennaf 2012 a 12 Medi 2012) i aelodau o Deulu’r Gemau sy’n cymryd rhan yn y Gemau Olympaidd a’r Gemau Paralympaidd yn 2012.

 

Materion Technegol: Craffu

 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

 

Rhinweddau: Craffu

 

O dan Reol Sefydlog 21.3(ii) (ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad) gwahoddir y Cynulliad i roi sylw arbennig i’r offeryn a ganlyn.

 

Efallai yr hoffai’r Aelodau nodi bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ym mis Rhagfyr 2009 wedi hysbysu’r Pwyllgor bod yr Adran Iechyd wedi rhoi’r gorau i’r cytundeb dwyochrog ym mis Mawrth 2009 rhwng y DU ac Ynysoedd y Sianel. Rhoddwyd effaith i derfynu’r cytundeb gan Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2011 – cyfeiria SLC353 ato.

 

Nid yw’n glir o’r Memorandwm Esboniadol pam bod cytundeb dwyochrog yn mynd i gael ei adfer â Jersey, ac nid yw’r Memorandwm Esboniadol chwaith yn nodi pam nad oes cytundeb dwyochrog tebyg yn mynd i gael ei adfer ag Ynysoedd eraill y Sianel. Nid yw’n glir chwaith ai Cymru’n unig sy’n adfer y cytundeb â Jersey. Byddai esboniad ynghylch pam mae Llywodraeth Cymru yn adfer y cytundeb dwyochrog â Jersey nawr i’w groesawu.

 

Y Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

19 Rhagfyr 2011

 

Mae’r Llywodraeth wedi ymateb fel a ganlyn:

 ey, ac nid yw’r Memorandwm Esboniadol chwaith yn nodi pam nad oes cytundeb dwyochrog tebyg yn mynd i gael ei adfer ag Ynysoedd eraill y Sianel. Nid yw’n glir chwaith ai Cymru’n unig sy’n adfer y cytundeb â Jersey. Byddai esboniad ynghylch pam mae Llywodraeth Cymru yn adfer y cytundeb dwyochrog â Jersey nawr i’w groesawu.

 

Y Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

19 Rhagfyr 2011

 

Mae’r Llywodraeth wedi ymateb fel a ganlyn:

 

Rheoliadau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) ( Diwygio) (Cymru) 2011

 

Mewn ymateb i adroddiad eich Pwyllgor, CLA66, rwy’r rhoi rhagor o wybodaeth isod am y pwyntiau a godwyd.

 

Cytunodd Llywodraeth y DU ar gytundeb gofal iechyd cyfatebol gydag Ynys Jersey a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2011. Diddymwyd y ‘cytundeb’ cynharach yn 2009. O dan y cytundeb blaenorol, codwyd tâl ar y DU am gost trin ymwelwyr â Jersey o’r DU a chodwyd tâl ar Jersey gan y DU am gostau trin ymwelwyr â’r DU o Jersey. Amcangyfrifodd yr Adran Iechyd bod telerau’r cytundeb hwn wedi arwain at golled net i Weinyddiaethau’r DU o sawl miliwn o bunnoedd. Ni wnaeth Jersey gydweithredu o ran cyfnewid y data angenrheidiol ynghylch nifer y cleifion a chostau’r triniaethau, ac felly penderfynwyd diddymu’r cytundeb.

 

Fe wnaeth yr Adran Iechyd negodi cytundeb newydd gyda Jersey, lle na fyddai unrhyw arian yn cael ei gyfnewid. Mae hynny’n golygu bod Jersey bellach yn yr un sefyllfa â’r gwledydd a’r tiriogaethau eraill y mae gan y DU Gytundebau Gofal Iechyd cyfatebol â hwy. Fe ymgynghorwyd â’r gweinyddiaethau datganoledig cyn ymrwymo i’r cytundeb newydd, ac fe gefnogodd pob un ohonynt y cytundeb newydd. Mae Gogledd Iwerddon a’r Alban hefyd wedi gweithredu’r cytundeb cyfatebol newydd.

 

Mae’n debygol y bydd Cymru ar ei hennill yn ariannol o ganlyniad i’r cytundeb newydd hwn gan mai nifer fechan o ymwelwyr o Jersey y bu gofyn rhoi triniaeth frys ac angenrheidiol iddynt yng Nghymru, yn hanesyddol. Nid oes gan Jersey ffigurau ynghylch faint o ymwelwyr o Gymru yr oedd gofyn rhoi triniaeth frys ac angenrheidiol iddynt wrth iddynt ymweld â Jersey.

 

Diddymwyd y cytundeb cyfatebol rhwng y DU a Guernsey yn 2009. Mae’r sefyllfa mewn perthynas â Guernsey yn fwy cymhleth gan nad yw’r gofal iechyd sy’n dod o dan y cytundebau cyfatebol, hynny yw triniaeth y mae’n ofynnol ei rhoi ar unwaith gan gynnwys damweiniau ac achosion brys, yn cael ei chynnig am ddim i breswylwyr lleol. Pe bai Guernsey yn ymrwymo i gytundeb gofal iechyd cyfatebol gyda’r DU tebyg i’r un rhwng y DU a Jersey, byddai Guernsey mewn sefyllfa anodd lle byddai ymwelwyr o’r DU yn derbyn gofal iechyd am ddim, a phreswylwyr Guernsey yn gorfod talu amdano. Ar hyn o bryd, nid yw  Guernsey yn fodlon ymrwymo i gytundeb gofal iechyd cyfatebol gyda’r DU sy’n cynnwys darpariaeth na chaiff unrhyw arian ei gyfnewid rhwng y gweinyddiaethau.

 

Er nad yw’n un o Ynysoedd y Sianel, mae’n bosibl bod gan y Pwyllgor ddiddordeb yn sefyllfa Ynys Manaw. Roedd y cytundeb gwreiddiol rhwng y DU ac Ynys Manaw i fod i ddod i ben fis Mawrth 2010, ond cafodd ei ymestyn hyd fis Medi 2010. Gweithredwyd cytundeb newydd ar 1 Hydref 2010, felly mae yna gytundeb cyfatebol parhaus wedi bod gydag Ynys Manaw.