Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

(CLA( 4)-01-12)

 

CLA68

 

Adroddiad Drafft y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Teitl: Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) (Diwygio) 2011

 

Gweithdrefn:  Negyddol

 

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2008 (O.S. 2008/3100) drwy ychwanegu pum tanwydd newydd at y rhestr o danwyddau a nodwyd yn danwyddau awdurdodedig at ddibenion Rhan III o Ddeddf Aer Glân 1993 a thrwy ddiwygio manylebau un tanwydd arall ar y rhestr honno.

 

 

Materion Technegol: craffu

 

Nodwyd y pwyntiau canlynol i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

 

(1)          Mae is-baragraff (c) o’r paragraff 36 newydd yn y testun Cymraeg yn cyfeirio at “frics glo heb eu marcio ar siâp clustogau”, tra bod y testun Saesneg yn cyfeirio at “cushion shaped briquettes” heb nodi eu bod heb eu marcio. Nid yw’n glir pa fersiwn sy’n gywir.

 

[Rheol Sefydlog 21.2 (vii)- ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn neu’r drafft] a [Rheol Sefydlog 21.2 (vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol].

 

(2)      Mae Rheoliad 3 (Arbed) y testun Saesneg yn cyfeirio at baragraff 36 o’r Atodlen Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2008 (“Rheoliadau 2008”); tra, er bod y fersiwn Gymraeg yn cyfeirio at baragraff 36, nid yw’n cyfeirio at yr Atodlen i Reoliadau 2008, ac felly mae’n aneglur yn y testun Cymraeg lle mae paragraff 36 yn ymddangos.

 

[Rheol Sefydlog 21.2(vii) - ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn neu’r drafft] a [Rheol Sefydlog 21.2 (vi)- ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.

 

Rhinweddau: craffu

 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

 

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Rhagfyr 2011

 

Dyma ymateb y Llywodraeth:

 

Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) (Diwygio) 2011

Ymateb i’r materion a godwyd gan Gynghorwyr Cyfreithiol y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Pwynt 1


Fel y dywedwyd yn yr adroddiad drafft, mae gwahaniaeth rhwng testunau Cymraeg a Saesneg y paragraff 36 newydd a roddwyd yn lle’r hen un a hynny yn is-baragraff (c). Mae’r paragraff hwn wedi ei gynnwys yn rheoliad 2(dd) o’r testun Cymraeg ac yn y rheoliad cyfatebol o’r testun Saesneg, sef rheoliad 2(f).

 

Mae’r testun Cymraeg yn anghywir wrth ddweud bod y brics glo heb eu marcio ond mae’n mynd yn ei flaen wedyn i ddisgrifio’n gywir y marcio ar y brics glo.  Mae’r testun Cymraeg yn amwys, felly, ond mae’n cynnwys geiriau sy’n dangos bod marcio ar y brics glo.  Mae’r testun Saesneg yn gywir ac yn ddiamwys ac yn adlewyrchu’n gywir y diben a’r effaith arfaethedig fel y maent wedi eu nodi yn y Memorandwm Esboniadol.  O gymryd y disgrifiad o’r marcio yn y testun Cymraeg, a’i ystyried ar y cyd â’r testun Saesneg, nid oes unrhyw amheuaeth ynghylch pa destun sy’n gywir: mae’n amlwg bod y gwall yn nhestun Cymraeg y paragraff 36(c) newydd a roddwyd yn lle’r hen un.  I gael gwared ar yr amwysedd, mae’n briodol, felly, i’r testun Cymraeg gael ei gywiro adeg ei gyhoeddi drwy ddileu’r geiriau “heb eu marcio”, a bydd hynny’n cael ei wneud.

 

Pwynt 2

 

Fel y dywedwyd yn yr adroddiad drafft, mae gwahaniaeth rhwng rheoliad 3 o’r testun Cymraeg a rheoliad 3 o’r testun Saesneg.  Serch hynny, er gwaethaf yr anghysondeb, mae effaith gyfreithiol y testun Cymraeg yn glir, ac mae’r un fath â’r testun Saesneg.  Y rheswm am hynny yw nad oes unrhyw baragraff 36 ym mhrif gorff y Rheoliadau sy’n cael eu diwygio; dim ond yn yr unig Atodlen i’r Rheoliadau hynny y mae i’w gael (a honno’n Atodlen y mae’r testun Saesneg yn cyfeirio ati yn glir).  Gan hynny, mae’n briodol i’r gwall gael ei gywiro adeg cyhoeddi’r Rheoliadau, a bydd hynny’n cael ei wneud.