Adroddiad drafft y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Teitl: The Eels (England and Wales) (Amendment) Regulations 2011 (Saesneg yn unig)
Gweithdrefn: Negyddol
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliadau 6 a 7 o The Eels (England and Wales) Regulations 2009 (‘y prif Reoliadau’) (Saesneg yn unig), sy’n rhoi ar waith Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1100/2007 sy’n llunio mesurau ar gyfer adfer niferoedd y llysywen Ewropeaidd.
Mae’r gwelliannau’n cywiro gwallau yn y prif Reoliadau a nodwyd gan y Cydbwyllgor ar Offerynnau Statudol wrth graffu ar y Rheoliadau hynny. Ar y pryd, nid oedd offerynnau statudol a oedd yn destun gweithdrefn yn San Steffan yn cael eu craffu arnynt gan bwyllgor cyfatebol yn y Cynulliad Cenedlaethol.
Materion technegol: craffu
Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
(1) Yn Saesneg yn unig y cafodd y Rheoliadau hyn eu gwneud, gan eu bod yn rheoliadau cyfun ar gyfer Cymru a Lloegr sy’n destun y weithdrefn negyddol yn San Steffan.
[Rheol Sefydlog 21.2(ix) – nid yw’r rheoliadau wedi’u gwneud yn Gymraeg ac yn Saesneg]
Rhinweddau: craffu
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol
Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
Y Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Rhagfyr 2011