Adroddiad drafft y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

CLA106

 

Teitl: The Environmental Permitting (England and Wales) (Amendment) Regulations 2012 (Saesneg yn unig)

 

Mae’r offeryn yn diwygio’r Rheoliadau, the Environmental Permitting (England and Wales) Regulations 2010 (“Rheoliadau 2010”). Mae’r diwygiadau yn gwneud yr hyn a ganlyn:

 

•        lleihau gofynion rheoliadol ar gyfer y rhai sy’n gweithio gweithfeydd treulio anaerobig penodol neu offer symudol ac ar gyfer y rhai sy’n llosgi tanwydd sy’n deillio o wastraff nad yw bellach yn wastraff;

•        ei gwneud yn haws i drosglwyddo trwyddedau mewn sefyllfaoedd penodol;

•        darparu ar gyfer ymddiried trwydded amgylcheddol mewn cynrychiolydd personol gweithredwr a fu farw;

•        gwneud newidiadau cymharol fach i weithrediadau gwastraff penodol sydd wedi’u heithrio;

•        gwneud mân newidiadau sy’n gysylltiedig â gweithgareddau sylweddau ymbelydrol;

•        gwneud mân newidiadau i’r Rheoliadau, the Environmental Damage (Prevention and Remediation) Regulations 2009 (Saesneg yn unig), a’r Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009 i egluro safbwynt gorfodi Asiantaeth yr Amgylchedd; a

•        gwneud diwygiadau canlyniadol i Reoliadau 2010 ac i ddeddfwriaeth arall.

 

GweithdrefnNegyddol

 

Materion technegol: craffu

 

O dan Reol Sefydlog 21.2, bydd y Cynulliad yn cael ei wahodd i roi sylw arbennig i'r offeryn a ganlyn:-

 

1.       Ni chafodd y Rheoliadau hyn eu gwneud yn ddwyieithog, heblaw am Reoliad 19, sy’n gwneud mân newidiadau yn y ddwy iaith i Reoliadau Cymru yn unig.

 

[21.2(ix) – nad yw wedi’i wneud neu i’w wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg].

 

Rhinweddau: craffu

 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn ar hyn o bryd.

 

David Melding AC

Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

12 Mawrth 2012

 

Mae’r Llywodraeth wedi ymateb fel a ganlyn:

 

Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2012

 

"Mae’r Rheoliadau cyfansawdd hyn yn diwygio rhai o’r darpariaethau yn Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010 O.S. 2010/675 er mwyn:

·         lleihau’r gofynion rheoleiddiol i’r rheini sy’n gweithredu gosodiadau neu beiriannau symudol penodol ar gyfer treulio anaerobig ac i’r rheini sy’n llosgi tanwydd sy’n dod o wastraff sydd wedi peidio â bod yn wastraff;

·         ei gwneud yn haws i drosglwyddo trwyddedau mewn sefyllfaoedd penodol;

·         darparu ar gyfer breinio trwydded amgylcheddol yng nghynrychiolydd personol gweithredydd ymadawedig;

·         gwneud mân newidiadau i weithrediadau gwastraff penodol;

·         gwneud mân ddiwygiadau sy’n ymwneud â gweithgareddau sylweddau ymbelydrol;

·         gwneud mân ddiwygiadau i Reoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) 2009 a Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) i wneud sefyllfa orfodi Asiantaeth yr Amgylchedd yn eglur; a

·         gwneud diwygiadau canlyniadol i Reoliadau 2010 ac i ddeddfiadau eraill

 

Mae’r drefn Drwyddedu Amgylcheddol yn symleiddio rhannau gweithdrefnol clwstwr o ddeddfwriaeth dechnegol iawn a chymhleth iawn. Mae wedi galluogi symleiddio’r system drwyddedu y gweithredir ynddi ac y mae diwydiant a rheoleiddwyr yn ei harfer, heb gyfaddawdu safonau amgylcheddol neu iechyd dynol mewn unrhyw fodd. Mae hyn wedi symleiddio’r cymhlethdod yr oedd diwydiant a rheoleiddwyr yng Nghymru a Lloegr yn ei wynebu o’r blaen ac yr oedd taer angen amdano.

Mae sicrhau’r newidiadau hyn drwy offerynnau cyfansawdd sy’n cael eu gwneud ynghyd â’r Ysgrifennydd Gwladol yn gyson â’r nod o symleiddio y cyfeirir ato uchod. Mae’r offeryn cyfansawdd hefyd yn lleiafu’r anghyfleustra ar dryswch posibl i’r rheini y mae’r Rheoliadau’n effeithio arnynt, yn arbennig gan fod Asiantaeth yr Amgylchedd (sy’n rheoleiddiwr) yn gorff trawsffiniol.

 

Mae’r Rheoliadau cyfansawdd hyn yn gymwys i Gymru a Lloegr ac yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a chan Senedd y Deyrnas Unedig. Yn unol â hynny, nid ystyrir ei bod yn rhesymol ymarferol i’r offeryn hwn gael ei osod ar ffurf ddrafft, na’i wneud, yn ddwyieithog."