Adroddiad Drafft y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

CLA150

 

Teitl: Canllawiau Statudol i Awdurdodau Rheoli Perygl – Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010

 

1.       “Diben y canllawiau yw rhoi cyngor i alluogi Awdurdodau Rheoli Perygl i gydweithio’n adeiladol i reoli’r perygl o lifogydd ac erydu arfordirol. Fe’u lluniwyd hefyd i sicrhau bod ceisiadau am wybodaeth, pan gânt eu cyflwyno, yn cael eu cyflwyno mewn ffordd briodol.”

 

2.       Ar 18 Mai 2012, gosodwyd y Canllawiau Statudol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ynghyd â Nodyn Esboniadol byr.  Gall canllawiau statudol fod yn is-ddeddfwriaeth (neu beidio).  Yn arferol, y prawf yw, a yw’r canllawiau’n ddeddfwriaethol eu natur. Mae’n ofynnol bod y personau (gan gynnwys cyrff cyhoeddus) y cyfeiriwyd y canllawiau atynt, yn rhoi ystyriaeth ddyladwy i ganllawiau o’r fath. Yn ymarferol, golyga hyn y dylai fod ganddynt reswm da iawn dros beidio â dilyn y canllawiau hynny. Rhaid bod modd defnyddio’r rheswm hwnnw i gyfiawnhau’r camau a fabwysiadwyd mewn unrhyw achosion adolygiad barnwrol.

 

3.       Mae’r Canllawiau dan sylw yn ymwneud yn bennaf â threfniadau ymarferol, ac maent yn cynnwys gwybodaeth, fel manylion cyswllt yr awdurdodau perthnasol.  Mae’n bosibl dadlau, felly, nad ydynt yn ddeddfwriaethol eu natur.  Fodd bynnag, mae’r weithdrefn sy’n berthnasol iddynt yn ddeddfwriaethol iawn ei natur.

 

Pŵer galluogi

 

4.       Y pŵer galluogi yw adran 8 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (“y Ddeddf”), is-adran (1) o’r adran sy’n darparu –


“The Welsh Ministers must develop, maintain and apply a strategy for flood and coastal erosion risk management in Wales (a “national flood and coastal erosion risk management strategy”).”


Yn y cyd-destun hwnnw, mae is-adran (6) o’r adran honno’n darparu’r canlynol –


“The Welsh Ministers may, in particular, issue guidance about how Welsh risk management authorities are to comply with the duties under sections 13(1) and 14.”

 

5.       Mae Adran 13(1) yn nodi bod yn rhaid i awdurdodau perthnasol gydweithredu ag awdurdodau perthnasol eraill wrth arfer eu swyddogaethau rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol.

Mae Adran 14 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd ac Awdurdodau Llifogydd Lleol Arweiniol ofyn am wybodaeth gan berson ynglŷn â’u swyddogaethau rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol.

 

Mae’r canllawiau yn berthnasol i’r ddyletswydd i gydweithredu â cheisiadau am wybodaeth.

 

Y weithdrefn

 

6.       Yr hyn sy’n gwneud y canllawiau hyn yn anghyffredin yw’r weithdrefn sy’n berthnasol iddynt. Mae’r weithdrefn honno wedi’i nodi yn adran 8(7) fel a ganlyn –

 

“The Welsh Ministers must lay any guidance in draft before the National Assembly for Wales; and it may not be issued if during the period of 40 days beginning with the date of laying (ignoring any periods for which the National Assembly is dissolved or is in recess for more than 4 days) the National Assembly resolves that it should not be issued (in that form).”

 

7.       Nid yw canllawiau statudol yn ddarostyngedig i weithdrefn y Cynulliad fel arfer, ond yn yr achos hwn mae amrywiad ar y weithdrefn negyddol.  Fel gydag achosion gweithdrefn negyddol, gall y canllawiau gael eu gwneud a dod i rym, oni bai fod y Cynulliad yn penderfynu yn groes i hyn o fewn cyfnod penodol.  Fodd bynnag, yn achos offerynnau statudol a wneir o dan y weithdrefn negyddol, gwneir yr offerynnau cyn eu gosod fel arfer. Yn yr achos hwn, gosodir y canllawiau ar ffurf ddrafft, ac ni chânt eu gwneud tan ddiwedd y cyfnod penodedig. Felly, mae’r weithdrefn yn rhoi cwmpas ehangach ar gyfer craffu na gweithdrefn negyddol safonol.

 

Craffu

 

8.       Os ystyrir y canllawiau, felly, fel is-ddeddfwriaeth na wnaed drwy offeryn statudol, caiff y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.7(i).  Hyd yn oed os na chaiff ei ystyried yn y modd hwn, caiff y Pwyllgor gyflwyno adroddiad arno o hyd, fel mater deddfwriaethol cyffredinol o dan Reol Sefydlog 21.7(v). Byddai’n fater o’r fath yn rhinwedd y ffaith y caiff gweithdrefnau tebyg eu cynnig yn y Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) (“y Bil”) sydd gerbron y Cynulliad ar hyn o bryd. Mae Adran 33 o’r Bil yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau ar wella ysgolion, ond yn ddarostyngedig i weithdrefn graffu a nodir yn adran 34 o’r Bil. Yn yr un modd, mae adran 39 o’r Bil yn nodi gweithdrefn i Weinidogion Cymru gyhoeddi Cod Statudol ar drefniadaeth ysgolion. Felly mae’r achos presennol yn rhoi cyfle i’r Pwyllgor fynegi barn ynghylch a yw’r weithdrefn hon yn briodol, ac a yw, drwy rinwedd y weithdrefn honno, i’w hystyried fel is-ddeddfwriaeth at ddibenion y Cynulliad a’i Reolau Sefydlog.

 

Materion Technegol: Craffu

 

9.       Er mwyn ei gofnodi, ni nodwyd unrhyw bwyntiau technegol a fyddai wedi bod yn destun adroddiad o dan Reol Sefydlog 21.2 pe bai hwn yn offeryn statudol.

 

Rhinweddau: Craffu

 

10.     Yn yr un modd, ni nodwyd unrhyw bwyntiau rhinweddau a fyddai wedi bod yn destun adroddiad o dan Reol Sefydlog 21.3 pe bai hwn wedi bod yn offeryn statudol.

 

Tynnir sylw’r Cynulliad i’r mater hwn o dan Reol Sefydlog 21.7, oherwydd ei fod yn codi materion deddfwriaethol a gweithdrefnol sy’n debygol o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.

 

Y Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.

 

Mai 2012