Adroddiad Drafft y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
CLA157
Teitl: Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Cymru) 2012
Gweithdrefn: Negyddol
Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys o ran Cymru, yn pennu ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru ym maes iechyd planhigion. Mae’r ffioedd yn daladwy mewn perthynas ag arolygiadau penodedig a gweithrediadau eraill a gyflawnir yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC ar fesurau i amddiffyn rhag dwyn i mewn i'r Gymuned organebau sy'n niweidiol i blanhigion neu gynhyrchion planhigion, a rhag i’r organebau hynny ymledu o fewn y Gymuned.
Yn ogystal, mae’r Rheoliadau yn cydgrynhoi nifer o offerynnau blaenorol a oedd yn ymdrin ar wahân â ffioedd penodol ynglŷn ag iechyd planhigion.
Materion technegol: craffu
O dan Reol Sefydlog 21.2 gwahoddir y Cynulliad i roi sylw arbennig i’r offeryn hwn:-
Yn benodol, ynghylch Rheoliad 3 (3) ceir anghysondeb rhwng y testun Saesneg a’r testun Cymraeg. Mae yna eiriau ychwanegol yn y testun Cymraeg na chaiff eu hadlewyrchu yn y testun Saesneg.
Credwn mai’r testun Saesneg yw’r fersiwn gywir.
[Rheol Sefydlog 21.2 (vii) ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg] a [Rheol Sefydlog 21.2 (vi) ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol].
Rhinweddau: craffu
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i adrodd arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn cysylltiad â’r offeryn hwn ar hyn o bryd.
Cynghorwyr cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Mehefin 2012
Mae’r Llywodraeth wedi ymateb fel a ganlyn:
INSERT RESPONSE
Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Cymru) 2012
Mae’r Llywodraeth yn derbyn yr anghysondeb yr adroddwyd arno rhwng y testun Cymraeg a’r testun Saesneg a gafwyd yn niwygiad terfynol yr Offeryn Statudol drafft cyn iddo gael ei wneud wrth dynnu testun dianghenraid. Tynnwyd y testun perthnasol o destun Saesneg yr Offeryn Statudol, ond drwy amryfusedd cadwyd y darn yn y testun Cymraeg. O wybod nad oes unrhyw effaith gan y testun perthnasol ar ystyr yr offeryn nac ar y canlyniad y bwriedir iddo ei gael, mae’r Llywodraeth yn bwriadu diwygio’r testun Cymraeg pan gaiff ei gyhoeddi.