CLA155

 

Adroddiad Drafft y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Teitl: Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012

 

Gweithdrefn: Cadarnhaol

 

Caiff y gorchymyn drafft hwn ei wneud o dan bwerau sydd wedi’u cynnwys yn adrannau 13 ac 15 o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011. Mae’n sefydlu corff statudol newydd, Corff Adnoddau Naturiol Cymru, ac yn darparu ar gyfer ei ffurf, ei ddiben, ei aelodaeth, ei weithdrefn, ei lywodraethu ariannol a’i swyddogaethau cychwynnol.

 

Materion technegol: craffu

 

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn drafft hwn.

 

Mae erthygl 13(5) yn cynnwys gofyniad mewn rhai amgylchiadau i’r Corff wneud taliad i Weinidogion Cymru. Mae’r geiriau ‘to them’ wedi’u cynnwys yn y testun Saesneg, ond nid yw ‘iddynt’ wedi’i gynnwys yn y testun Cymraeg. Mae’r bwriad yn glir, felly byddai’n briodol cynnwys y gair coll pan gaiff y Gorchymyn ei gyhoeddi er mwyn gwneud y ddarpariaeth yn haws i’w deall.

 

[Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn yn ddiffygiol.]

 

Rhinweddau: craffu

 

Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3(ii) mewn perthynas â'r offeryn drafft hwn – ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.

 

Hwn yw’r gorchymyn cyntaf i’r Cynulliad Cenedlaethol ei ystyried o dan Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011 (“Deddf 2011”).

 

Mae’r Gorchymyn yn sefydlu un corff newydd ar gyfer rheoli adnoddau naturiol Cymru. Teitl gweithredol y corff newydd yw Corff Adnoddau Naturiol Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn nodi yn y Memorandwm Esboniadol bod y gorchymyn yn sefydlu’r corff mewn modd sy’n sicrhau, cyn iddo drosglwyddo’r holl swyddogaethau priodol iddo, y gall ymgymryd â’r holl waith paratoi angenrheidiol er mwyn sicrhau y bydd y corff newydd yn gwbl weithredol o’r diwrnod cyntaf y bydd yn gyfrifol am yr holl gyfrifoldebau amgylcheddol a gaiff eu trosglwyddo iddo. Bydd y gwaith paratoi yn cynnwys sefydlu strwythurau mewnol y Corff a pharatoi ar gyfer trosglwyddo swyddogaethau, staff, eiddo a hawliau a rhwymedigaethau eraill mewn deddfwriaeth arall iddo.

 

Mae’r Gorchymyn yn ddarostyngedig i fath o weithdrefn gadarnhaol yn unol ag adran 19 o Ddeddf 2011. Yn ogystal â gofyniad arferol y weithdrefn gadarnhaol – hynny yw, ni all y gorchymyn gael ei wneud oni bai bod y Cynulliad yn ei gymeradwyo – mae Deddf 2011 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Gorchymyn gael ei osod ar ffurf drafft am 40 diwrnod, nad ydynt yn ddiwrnodau yn ystod y toriad. Ar unrhyw adeg o fewn y 30 diwrnod ers i’r Gorchymyn gael ei osod (daw hyn i ben ar 5 Gorffennaf 2012), gall y Cynulliad benderfynu, neu gall pwyllgor a fydd yn craffu ar y Gorchymyn argymell bod y Gorchymyn drafft yn cael ei osod am 20 diwrnod ychwanegol, nad ydynt yn ddiwrnodau yn ystod y toriad (hynny yw, cyfanswm o 60 diwrnod), cyn y gellir ei wneud. Gall unrhyw argymhelliad gan bwyllgor gael ei ddisodli gan gynnig yn y Cynulliad. Os yw’r Cynulliad yn ei gymeradwyo, neu os bydd cynnig gan bwyllgor yn sefyll, yna rhaid i’r Gorchymyn gael ei osod am 20 diwrnod ychwanegol er mwyn caniatáu gwaith craffu neu ymgynghori pellach. Bydd yn rhaid i Weinidogion Cymru ystyried unrhyw gyflwyniadau, unrhyw benderfyniadau gan y Cynulliad ac unrhyw argymhellion gan bwyllgor y Cynulliad a fu’n craffu ar y Gorchymyn. Os caiff unrhyw newidiadau sylweddol eu gwneud i’r Gorchymyn drafft o ganlyniad, rhaid ailosod  y Gorchymyn drafft diwygiedig gerbron y Cynulliad, gyda chrynodeb o’r newidiadau. Yna, byddai’r Gorchymyn drafft diwygiedig yn ddarostyngedig i weithdrefn gadarnhaol arferol y Cynulliad.

 

Cyfeiriodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Gorchymyn drafft i’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i’w ystyried ar 11 Mehefin 2012.

 

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Mehefin 2012

 

Mae’r Llywodraeth wedi ymateb fel a ganlyn:

 

Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012

 

Mae’r Llywodraeth yn derbyn y pwynt adrodd technegol ac yn bwriadu diwygio’r gwall pan gaiff y Gorchymyn ei chyhoeddi