Ymateb Lywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes : Dylanwadu ar y broses o Foderneiddio Polisi Caffael yr UE

 

Gorffennaf 2012

 

 

Croesawaf yr adroddiad o Ymchwiliad y Pwyllgor Menter a Busnes i Ddylanwadu ar y broses o Foderneiddio Polisi Caffael yr UE. Roedd yn Ymchwiliad trylwyr a phroffesiynol i’r pwnc a rhaid canmol y Cadeirydd ac aelodau’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen am eu gwaith.

 

Yn yr ymateb hwn, rhof ateb manwl i bob un o’r tri argymhelliad ar ddeg. Rwy’n falch o’u derbyn yn ddigamsyniol.  

 

Ym mis Chwefror comisiynais John McClelland i gynnal adolygiad i ‘Sicrhau bod Polisi Caffael Cymru yn cael yr Effaith Fwyaf Posibl’. Hoffwn ddiolch i John am ei waith ardderchog ac edrychaf ymlaen at gyhoeddi ei ganfyddiadau.

 

Yr hyn sydd o ddiddordeb arbennig i mi yw’r synergedd rhwng y ddau adolygiad yma a gynhaliwyd yn annibynnol. Mae nifer o’r argymhellion yn drawsbynciol ac yn dilyn themâu tra thebyg. Byddaf yn defnyddio’r ddau i lunio’n polisi caffael sy’n dal i ddatblygu.

 

Mae’r themâu amlwg o’r ddau adroddiad yn ymdrin â sgiliau a gallu, dylanwadu, cylch gwaith a phwerau, a’r defnydd o systemau, technoleg a chydweithredu.

 

Mae fy swyddogion yng Ngwerth Cymru yn cydweithio â chydweithwyr ar draws y sector cyhoeddus i ddatblygu a gweithredu polisi ac arferion caffael arloesol, gyda chryn lwyddiant.

 

Byddaf yn cyhoeddi fy Natganiad Polisi Caffael i Gymru yn hydref 2012. Bydd hyn yn nodi fy nisgwyliadau’n glir. I ategu’r neges hon byddaf yn cynnig sesiynau briffio i uwch weithredwyr i gyfleu sut y gall lefel briodol o sgiliau caffael medrus helpu corff i gyflawni ei amcanion strategol.

 

Mae’n hollbwysig bod cyrff cyhoeddus ledled Cymru yn gweithredu ein polisïau allweddol. Rwy’n benderfynol o sicrhau cynifer o fanteision â phosibl i economi Cymru drwy ddefnyddio’n gwariant caffael o £4.3 biliwn yn fwy effeithiol byth a byddaf yn cymryd y camau gorfodi angenrheidiol i sicrhau bod hyn yn digwydd.

 

Byddaf yn disgwyl i is-adrannau noddi a pholisi Llywodraeth Cymru gydweithio â Gwerth Cymru i sicrhau bod y polisïau a gytunwyd gennym yn cael eu mabwysiadu a’u gweithredu, er budd economi a dinasyddion Cymru.

 

I fynd i’r afael â sgiliau a chapasiti caffael rwyf wedi gofyn i Werth Cymru baratoi cynllun ar fy nghyfer i gyflawni rhaglen lawn o Wiriadau Ffitrwydd Caffael ar draws cyrff cyhoeddus Cymru.

 

Mae Llywodraeth Cymru newydd gwblhau gwiriad o’r fath ac mae’n bleser gennyf gyhoeddi ein bod wedi codi o statws Efydd yn 2004 i statws Arian cryf yn 2012, a bod cynllun gweithredu wedi’i gytuno i gyrraedd statws Aur o fewn 12 mis.

 

Mae fy ymatebion manwl i argymhellion adroddiad Ymchwiliad y Pwyllgor Menter a Busnes wedi’u nodi isod:

 

Argymhelliad 1

Dylai Llywodraeth Cymru barhau i annog Llywodraeth y DU a’r Comisiwn Ewropeaidd i werthuso effaith y Gyfarwyddeb Unioni Cam ar draws Aelod-wladwriaethau a rhanbarthau’r UE a chymryd camau cyflym a phriodol ar sail y casgliadau; ac ystyried sut mae’r Gyfarwyddeb Unioni Cam yn rhyngweithio â darpariaethau’r Cyfarwyddebau Caffael Drafft.

 

Ymateb: Derbyn

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal trafodaethau rheolaidd â Llywodraeth y DU. Rwyf wedi amlinellu fy mhryderon yn glir ynghylch tensiynau posibl rhwng y Rheoliadau newydd a’r Cyfarwyddebau Unioni Cam.

 

Drwy ein his-adrannau noddi byddwn yn ysgrifennu at holl gyrff cyhoeddus Cymru i ofyn iddynt rannu eu profiadau o effaith y Cyfarwyddebau Unioni Cam, er mwyn datblygu corff o dystiolaeth i ategu ein trafodaethau.

 

Goblygiadau Ariannol – Dim. Bydd unrhyw gostau ychwanegol yn cael eu talu o gyllidebau presennol.

 

Argymhelliad 2

Dylai Llywodraeth Cymru geisio sicrwydd gan Lywodraeth y DU y bydd gweithredu rheoliadau i drosi’r Cyfarwyddebau Caffael yn gyfraith yng Nghymru yn rhoi digon o gyfle i gefnogi amcanion polisi caffael cyhoeddus Llywodraeth Cymru.

 

Ymateb: Derbyn

Rwyf eisoes wedi ysgrifennu at Swyddfa’r Cabinet ynglŷn â hyn. Nid oes awgrym ar hyn o bryd na fyddent yn trosi’r meysydd perthnasol.

 

Goblygiadau Ariannol – Dim. Dim angen camau pellach ar hyn o bryd.

 

Argymhelliad 3

Dylai Llywodraeth Cymru roi arweiniad cryf i awdurdodau lleol ac awdurdodau contractio cyhoeddus eraill Cymru ar sicrhau’r cydbwysedd priodol rhwng rheoli risg a chreadigrwydd ym maes caffael cyhoeddus, yn arbennig yn nghyswllt caffael islaw trothwyon yr UE, i sicrhau bod amcanion polisi ehangach yn cael eu gwireddu. Fel un enghraifft, dylai’r arweiniad helpu i wneud yn fawr o’r cyfleoedd i ddiogelu cyflogaeth.

Ymateb: Derbyn

Cefnogaf fwriad yr argymhelliad hwn a byddwn yn cymryd camau i’w weithredu.

 

Yn yr hydref byddaf yn lansio fy Natganiad Polisi Caffael (gweler Argymhelliad 6 isod). Bydd hyn yn nodi’n glir fy mod yn disgwyl i bob rhan o’r sector cyhoeddus yng Nghymru roi’r canllaw arfer gorau a gyhoeddir gennyf drwy Werth Cymru ar waith yn llawn.

 

Elfen allweddol o’r Datganiad Polisi Caffael fydd mabwysiadu SQuID, sy’n hybu dull o gaffael sydd wedi’i symleiddio a’i safoni ac sy’n seiliedig ar risg; a’r defnydd o gymalau cymdeithasol mewn contractau perthnasol drwy’r dull Manteision Cymunedol. 

 

Mae’r ‘Compact ar gyfer Newid’ a gytunwyd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Leol eisoes yn cynnwys ymrwymiadau ar ran holl awdurdodau lleol Cymru i hanfodion fy Mholisi Caffael. Mae’r Rhaglen Genedlaethol Rheoli Asedau a Chaffael yn monitro cyflawniad yr elfen hon o’r Compact. Mewn partneriaeth â’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau byddaf yn parhau i adolygu’r cynnydd o ran cyflawni elfennau caffael y ‘Compact ar gyfer Newid’. 

 

Cydnabyddaf fod annog creadigrwydd ac arloesedd trwy gaffael cyhoeddus yn bwysig. Daeth y thema hon i’r amlwg yn gryf yn y digwyddiad ‘Ar Agor am Fusnes’ a gynhaliais ym mis Mehefin. Mae fy swyddogion yn datblygu syniadau newydd ar gyfer ymgysylltu â busnesau a byddaf yn cyhoeddi mwy o fanylion am hyn yn yr hydref ochr yn ochr â’r Datganiad Polisi Caffael.

 

Goblygiadau Ariannol – Ddim yn hysbys ar hyn o bryd. Bydd angen eu hystyried ymhellach wrth i swyddogion ddatblygu’r gwaith hwn.

 

Argymhelliad 4

Dylai adolygiad caffael Llywodraeth Cymru gloriannu pa mor effeithiol yw’r mesurau presennol i fynd i’r afael â’r bwlch o ran sgiliau caffael, meithrin gallu a rhannu’r arferion presennol gorau, a hynny’n cynnwys edrych ar y cymwysterau proffesiynol achrededig amrywiol sydd ar gael, ac i ba raddau y gall arbenigedd a mentora allanol helpu.

 

Ymateb: Derbyn

Mae hyn yng nghwmpas Adolygiad McClelland.

 

Mae ein prosiect Doniau Cymru, a ariennir gan yr ESF, yn darparu sylfaen dda. Ar hyn o bryd mae gennym 24 o hyfforddeion ar leoliadau ar draws y sector cyhoeddus yn ymdrin â phob agwedd ar weithgarwch caffael. Caiff yr hyfforddeion hyn eu datblygu dros gyfnod o dair blynedd i fod yn weithwyr caffael proffesiynol cymwysedig a phrofiadol.

 

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi talu i 57 o staff y sector cyhoeddus ddod yn aelodau o’r Sefydliad Siartredig Prynu a Chyflenwi (CIPS) ac mae 12 ohonynt wedi ennill cymwysterau MSC. Mae cymwysterau’n bwysig, ond cydnabyddaf hefyd fod caffael cyhoeddus effeithiol yn elwa ar ystod eang o arbenigedd a phrofiad.

 

Mae swyddogion Gwerth Cymru eisoes yn cydweithio’n agos â’r sectorau adeiladu a gofal cymdeithasol i gael gwell dealltwriaeth o sut i ddatblygu arbenigedd a gwybodaeth o gaffael yn y meysydd hynny mewn ffordd berthnasol a chost-effeithiol, i ategu’r wybodaeth arbenigol sydd eisoes yn bodoli.

 

Fel y nodwyd yn gynharach, rwyf wedi gofyn i’m swyddogion yng Ngwerth Cymru weithredu ar yr argymhelliad a gefais gan John McClelland i ailsefydlu rhaglen lawn o Wiriadau Ffitrwydd Caffael ledled Cymru. Bydd hyn yn rhoi darlun clir o lefel a gallu’r adnoddau caffael sydd ar gael.

 

Goblygiadau Ariannol – am 2 flynedd, o fewn cwmpas y cyllid ESF cyfredol a ddarperir ar gyfer Doniau Cymru.

 

Argymhelliad 5

Dylai’r adolygiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru i ‘Sicrhau bod Polisi Caffael Llywodraeth Cymru yn cael yr Effaith Fwyaf Posibl’ ymchwilio i sut mae codi proffil a statws arbenigedd caffael o fewn awdurdodau contractio sector cyhoeddus Cymru; integreiddio arbenigwyr caffael yn well mewn prosesau cynllunio a phenderfynu strategol corfforaethol; a gwella dealltwriaeth uwch benderfynwyr o gaffael cyhoeddus fel arf i gyflawni’u dyletswydd sector cyhoeddus i hyrwyddo lles a thargedau ar gyfer twf economaidd cynaliadwy.

 

Ymateb: Derbyn

Mae hyn yng nghwmpas Adolygiad McClelland.

 

Bydd fy Natganiad Polisi Caffael yn nodi’n glir ei bod yn ddyletswydd ar y sector cyhoeddus i sicrhau bod prosesau caffael yn cael eu cynnal mewn ffordd deg, agored a thryloyw sy’n amlhau’r manteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol i Gymru.

 

Nod y prosiect Doniau Cymru yw codi proffil y swyddogaeth gaffael i lefel strategol gydag arweinwyr ar draws sector cyhoeddus Cymru. Byddaf yn defnyddio’r prosiect hwn i sicrhau bod uwch weithredwyr yn deall y materion ac yn gwbl ymwybodol o fanteision gweithredu effeithiol.

 

Mae gan Grŵp Arwain y Gwasanaeth Cyhoeddus, dan gadeiryddiaeth y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, dair rhaglen genedlaethol, a nod un ohonynt yw sicrhau manteision caffael cydweithredol. Mae Prif Weithredwyr o bob rhan o’r sector cyhoeddus yn aelodau o’r Grŵp Arwain ac mae codi proffil caffael cyhoeddus yn flaenoriaeth yn allweddol ar lefel uwch.      

 

Goblygiadau Ariannol – Mae’r arian sy’n ofynnol o fewn cwmpas y cyllid ESF cyfredol a ddarperir ar gyfer Doniau Cymru.

 

Argymhelliad 6

Dylai Llywodraeth Cymru ystyried, ar y cyd â chasgliadau’r adolygiad y mae wedi’i gomisiynu o bolisi caffael cyhoeddus, a ellid addasu model polisi cynllunio Cymru ar gyfer caffael cyhoeddus, h.y. gosod datganiad polisi neu strategaeth drosfwaol y mae gofyn i awdurdodau contractio’r sector cyhoeddus ei dilyn, ac ychwanegu at hynny drwy gyfrwng nodiadau cyngor technegol a chylchlythyron canllawiau gweithdrefnol.

 

Ymateb: Derbyn

Polisi Cynllunio Cymru, a’r Nodiadau Cyngor Technegol, sy’n darparu’r fframwaith polisi ar gyfer penderfyniadau cynllunio. Nid yw’n darparu fframwaith rheoleiddio.

 

Ar hyn o bryd mae fy swyddogion yng Ngwerth Cymru yn cyhoeddi nodiadau cyngor polisi perthnasol a dangosir yr holl gyngor ar y Canllaw Cynllunio Caffael, sydd yn adnodd mynediad agored. Bydd hyn felly yn ategu fy Natganiad Polisi Caffael a gaiff ei gyhoeddi yn hydref 2012. 

 

Goblygiadau Ariannol – Prin. Gan fod hyn yn helpu i weithredu’r Datganiad Polisi Caffael mae’r goblygiadau adnoddol uniongyrchol yn brin a gellir defnyddio cyllidebau rhaglenni cyfredol.

 

Argymhelliad 7

Dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio’r adolygiad o bolisi caffael fel cyfle i asesu a oes gan Werth Cymru y mandad, y trefniadau strwythurol a llywodraethol, a’r adnoddau angenrheidiol i yrru newid ar draws holl awdurdodau contractio sector cyhoeddus Cymru; ac i sicrhau bod mesurau gorfodi priodol yn cael eu cyflwyno i gyflymu newidiadau.

 

Ymateb: Derbyn

Mae hyn yng nghwmpas Adolygiad McClelland.

 

Mae’n hollbwysig bod cyrff cyhoeddus ledled Cymru yn gweithredu ein polisïau allweddol. Rwy’n benderfynol o sicrhau cynifer o fanteision â phosibl i economi Cymru drwy ein gweithgarwch caffael cyhoeddus a byddaf yn cymryd y camau gorfodi angenrheidiol i sicrhau bod hyn yn digwydd.

 

Goblygiadau Ariannol – Ddim yn hysbys ar hyn o bryd. Cânt eu hystyried ymhellach wrth i swyddogion ddatblygu’r gwaith hwn.

 

Argymhelliad 8

Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda’r sector llywodraeth leol i roi blaenoriaeth i safoni’r rheolau caffael contract sefydlog ar gyfer awdurdodau lleol, a cheisio mwy o gysondeb mewn rheolau caffael, yn cynnwys rheolau ariannol, mewn rhannau eraill o sector cyhoeddus Cymru.

 

Ymateb: Derbyn

Mae’r ‘Compact ar gyfer Newid’, dan arweiniad y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, yn ymdrin yn benodol â hyn. Mae’r gwaith yn cael ei arwain ar hyn o bryd gan CLlLC trwy Gymdeithas Trysoryddion Cymru. Mae Grŵp Arwain y Gwasanaeth Cyhoeddus, o dan ei raglen genedlaethol Rheoli Asedau a Chaffael, yn monitro cynnydd o ran gweithredu’r ‘Compact ar gyfer Newid’.

 

Mae GIG Cymru ar hyn o bryd yn caffael trwy gydwasanaeth, felly mae’r rheolau caffael wedi’u safoni.

 

Ar gyfer sectorau eraill, gan gynnwys Addysg Bellach ac Uwch, bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canllaw arfer da drwy’r is-adrannau noddi.

 

Goblygiadau Ariannol – Dim. Bydd unrhyw gostau ychwanegol yn cael eu talu o gyllidebau presennol.

 

Argymhelliad 9

Dylai Llywodraeth Cymru roi blaenoriaeth i sefydlu system TG integredig i gynnal SQuID a bwrw ymlaen yn gyflymach i roi rhaglen e-gaffael CyfnewidCymru ar waith ar draws Cymru.

 

Ymateb: Derbyn

Mae’r gwaith hwn ar y gweill. Mae’r Adran Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth yn tendro am ddarparwr newydd i gynnal y wefan GwerthwchiGymru, o Ebrill 2013.

 

Mae creu SQuID electronig yn rhan o’r cynllun datblygu ar gyfer y wefan GwerthwchiGymru. Mae datblygu ac ariannu GwerthwchiGymru yn cael sylw gan swyddogion ar ran y Gweinidog Busnes, Menter a Thechnoleg. Mae fy swyddogion yng Ngwerth Cymru yn darparu’r gofynion technegol ar gyfer y SQuID.

 

Goblygiadau Ariannol – Mae yna oblygiadau ariannol i ddatblygu SQuIDelectronig. Nid ydynt yn gwbl hysbys eto a chânt eu datblygu wrth i ofynion manwl gael eu llunio.

 

Argymhelliad 10

Dylai Llywodraeth Cymru amlinellu pa gamau y mae’n eu cymryd i sicrhau bod data dibynadwy ar gael i asesu faint o’r cwmnïau sy’n ennill contractau caffael cyhoeddus yng Nghymru sy’n fusnesau o Gymru a all ddod â manteision tymor hir i’r economi leol a’r farchnad swyddi, yn hytrach na chwmnïau y mae eu prif ganolfan y tu allan i Gymru, a chodi ymwybyddiaeth o’r mater hwn gydag awdurdodau contractio.

 

Ymateb: Derbyn

Cefnogaf yr argymhelliad hwn.

 

Mae’n bwysig i ni wybod faint o’n gwariant caffael sy’n fanteisiol i economi a dinasyddion Cymru ac mae fy swyddogion yng Ngwerth Cymru wedi cynnal dadansoddiad cynhwysfawr o wariant caffael blynyddol dair gwaith er 2003.

 

Mae’r dadansoddi hwn wedi dangos bod y gyfran o’r gwariant a aiff i gyflenwyr â chod post anfonebu yng Nghymru wedi cynyddu o 35% i 52% yn 2010-11, ac mae hynny wrth gwrs yn galonogol. Rydym yn bwriadu c ynnal dadansoddiadau yn y ffordd fwyaf cost-effeithiol ac ystyrlon i sicrhau’r wybodaeth hon yn y dyfodol.

 

Goblygiadau Ariannol – Mae yna oblygiadau ariannol i gasglu a dadansoddi data a byddwn yn parhau i ymchwilio i’r opsiynau.

 

Argymhelliad 11

Dylai Llywodraeth Cymru gynnwys yn ei hadolygiad o bolisi caffael cyhoeddus adolygiad o’r mesurau y mae’n eu cymryd i annog deialog cryf rhwng awdurdodau contractio cyhoeddus a busnesau yng Nghymru i wella dealltwriaeth o’r naill ochr a’r llall o sut y gellir defnyddio caffael cyhoeddus yn gyfrwng i hybu economi Cymru.

 

Ymateb: Derbyn

Mae Adolygiad McClelland yn rhoi sylw i hyn. Cydnabyddaf fod gwella’r deialog rhwng caffaelwyr cyhoeddus a busnesau yng Nghymru yn bwysig.  

 

Fel y nodais yn fy ymateb i Argymhelliad 3, roedd hyn yn thema allweddol yn y digwyddiad ‘Ar Agor am Fusnes’ a gynhaliwyd yn ddiweddar yng Nghaerdydd. Rydym wedi trefnu i gynnal digwyddiad ‘Ar Agor am Fusnes’ yng ngogledd Cymru ym mis Medi.

 

Bydd y gwasanaeth cynghori ‘Siop Un Stop’ newydd i gyflenwyr, sydd i’w lansio gan yr Adran Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth yn Ionawr 2013, yn cryfhau’r deialog ac yn darparu ffynonellau o wybodaeth ar gyfer busnesau sydd am gystadlu am fusnes sector cyhoeddus. Bydd y wefan GwerthwchiGymru newydd sydd i’w lansio yn Ebrill 2013 yn helpu i hyrwyddo cyfleoedd caffael cyhoeddus ymhellach.

 

Goblygiadau Ariannol – Caiff y rhain eu hystyried ymhellach wrth i swyddogion ddatblygu’r gwaith hwn.

 

Argymhelliad 12

Dylai Llywodraeth Cymru gynnal gwerthusiad trylwyr o ganlyniadau ymarferiadau caffael cydweithredol yng Nghymru; dylai gymharu’r canlyniadau â modelau cydweithredol a ddefnyddir mewn rhannau eraill o’r DU; a dylai gyfleu a chymhwyso’r gwersi a ddysgwyd o fewn y sector cyhoeddus yng Nghymru.

 

Ymateb: Derbyn

I gryfhau cydweithredu cydnabyddaf y gallwn i gyd ddysgu o’n gilydd.

 

Bydd Gwerth Cymru yn mesur yn ofalus effaith y portffolio o brosiectau cydweithredol y mae’n eu rheoli ledled Cymru. Bydd tua 85% o gyrff sector cyhoeddus cymwys yn defnyddio’r cytundebau hyn. Maent wedi arbed dros £125m yn y pum mlynedd ers lansio’r Strategaeth Gyrchu Cymru gyfan ‘Prynu’n Gallach – Rhannu Llwyddiant’ yn 2006.

 

Mae datblygu’r achos busnes ar gyfer Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol i Gymru yn gam nesaf pwysig.

 

Bydd y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn caffael eitemau gwario ‘cyffredin ac ailadroddus’ unwaith i Gymru. Mae Grŵp Arwain y Gwasanaeth Cyhoeddus wedi cadarnhau ei fod yn ffafrio model gweithredu canolog a bydd ymgynghoriad ar yr achos busnes llawn a’r modelau ariannu posibl yn cael ei gynnal rhwng Medi a Rhagfyr eleni.

 

Bydd fy swyddogion yn cysylltu’n rheolaidd â chydweithwyr ar draws y gweinyddiaethau datganoledig, Llywodraeth y DU, a rhannau eraill o’r sector cyhoeddus, i feincnodi lefel y gwasanaeth a ddarperir a chostau eu cyfryngau caffael cydweithredol. Mae’r wybodaeth hon yn cael sylw manwl yn y gwaith o ddatblygu achos busnes y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol.

 

Goblygiadau Ariannol – Dim. Byddai unrhyw adnoddau ychwanegol i werthuso canlyniadau yn dod o gyllidebau rhaglenni cyfredol. Bydd goblygiadau ariannol sefydlu Gwasanaeth Caffael Cenedlaetholi Gymru yn cael eu hamlinellu yn ymgynghoriad yr achos busnes.

 

Argymhelliad 13

Dylai Llywodraeth Cymru roi blaenoriaeth i fesurau i gynyddu ymwybyddiaeth o’i pholisi Manteision Cymunedol ymysg awdurdodau contractio sector cyhoeddus Cymru, yn ogystal ag awdurdodau contractio a chon

sydd allweddol o wariant nad ydynt wedi cael eu datganoli yng Nghymru, yn cynnwys trafnidiaeth a seilwaith.

 

Ymateb: Derbyn

Cydnabyddwn na all cyflenwyr llai gyflawni pob contract. Dyna pam y mae ein polisi Manteision Cymunedol yn un o ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu – i sicrhau bod ein buddsoddiadau’n dwyn ffrwyth i gymunedau lleol. Mae canlyniadau pwysig eisoes wedi deillio ohono a chydnabyddir yn Adolygiad McClelland ei fod yn bolisi ‘arloesol’.

 

Hyd yma mae’r dull wedi’i gymhwyso i gontractau sy’n werth mwy na £3.4bn, a rhwng £5m a £300m yn unigol.

 

Mae’r saith prosiect cyntaf i gael eu cyflawni, sy’n werth £186m, wedi gwario bron 87% o’r arian yng Nghymru - £66 miliwn yn uniongyrchol ar gyflogau i ddinasyddion Cymru, - a £96 miliwn, neu 52%, gyda busnesau yng Nghymru, yr oedd 83% ohonynt yn BBaChau. Cafodd rhyw 170 o bobl ddifreintiedig 8,600 wythnos o brofiad gwaith, a 77 o brentisiaid 8,500 wythnos o hyfforddiant.

 

Mae nifer o gamau eisoes ar y gweill i annog mwy i fabwysiadu ein polisi Manteision Cymunedol, gan gynnwys ymrwymiad y Compact Llywodraeth Leol i bob Awdurdod Lleol gynnwys y dull ym mhob contract perthnasol sy’n werth dros £2m.

 

Mae Grŵp Gorchwyl Manteision Cymunedol wedi’i sefydlu i sicrhau bod y camau hyn yn cael eu blaenoriaethu.

 

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymrwymo i hyn yn rhan allweddol o’r Cynllun Gweithredu Trechu Tlodi, a lansiwyd gan y Prif Weinidog ar 25 Mehefin.

 

Goblygiadau Ariannol – Prin. Bydd unrhyw gostau ychwanegol o ganlyniad i ddatblygu’r polisi Manteision Cymunedol ymhellach yn cael eu talu o gyllidebau presennol.