Manylion y penderfyniad
Tourism Inquiry - Consideration of Draft Report
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Cynhaliodd Pwyllgor Menter a Busnes Cynulliad Cenedlaethol Cymru ymchwiliad i
dwristiaeth.
Cylch gorchwyl:
- Asesu'r cynnydd a wnaed gan
Lywodraeth Cymru tuag at sicrhau ymrwymiadau ei Rhaglen Lywodraethu sy'n
ymwneud â thwristiaeth, yn ogystal ag addasrwydd y nodau hyn;
- Asesu uchelgais a gallu nod
Llywodraeth Cymru i gynyddu enillion twristiaeth 10% erbyn 2020, yn
ogystal â'r cynnydd a wnaed tuag at y nod hwn;
- Asesu addasrwydd ac
effeithiolrwydd y strwythurau a'r gefnogaeth sydd gan Lywodraeth Cymru ar
waith ar gyfer y diwydiant twristiaeth yng Nghymru, a’i
chynlluniau ar gyfer y dyfodol o ran Cymorth rhanbarthol.
Ymhlith y
materion a drafodwyd gan y Pwyllgor fel rhan o'r cylch gorchwyl hwn mae'r
canlynol:
- Eglurder a chryfder
"brand" twristiaeth Cymru;
- Effeithiolrwydd ymdrechion
Llywodraeth Cymru i gynyddu gwerth y farchnad dwristiaeth ddomestig;
- Effeithiolrwydd ymdrechion
Llywodraeth Cymru i gynyddu gwerth y farchnad dwristiaeth ryngwladol;
- Perfformiad Croeso Cymru o
gymharu ag asiantaethau datblygu twristiaeth yng ngweddill y DU;
- Llwyddiant gweithgareddau
marchnata Croeso Cymru;
- Gwaith Visit Britain mewn
perthynas â Chymru, ac i ba raddau y mae Visit Britain a Croeso Cymru yn
cydweithredu;
- Digonolrwydd ac effeithiolrwydd
adnoddau Llywodraeth Cymru sydd wedi'u targedu at hyrwyddo twristiaeth a
chefnogi busnesau twristiaeth Cymru, ac a yw'n cynrychioli gwerth da am
arian;
- Sut mae Llywodraeth Cymru yn monitro
ac yn gwerthuso effeithiolrwydd ei chefnogaeth twristiaeth a'i
gweithgareddau marchnata;
- Y defnydd a wneir o gyfleoedd
ar gyfer cyllid a chymorth arall gan yr UE.
- Llwyddiant ymdrechion
Llywodraeth Cymru i wella ansawdd cynnig twristiaeth Cymru;
- I ba raddau y mae marchnata a
datblygu twristiaeth yng Nghymru yn manteisio i’r eithaf ar asedau
diwylliannol, hanesyddol a naturiol Cymru;
- Effaith digwyddiadau o bwys ar
economi twristiaeth Cymru, a llwyddiant ymdrechion Llywodraeth Cymru i
fanteisio ar hyn.
Tystiolaeth gan y Cyhoedd
Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad
cyhoeddus i gasglu tystiolaeth am y
testun yma.
Penderfyniadau:
Cytunwyd y
Pwyllgor fersiwn derfynol yr afroddiad.
Dyddiad cyhoeddi: 10/11/2014
Dyddiad y penderfyniad: 06/11/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 06/11/2014 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad
Dogfennau Cefnogol:
- Cyfyngedig Gweld rhesymau dros gyfyngu