Manylion y penderfyniad

Debate on the Communities, Equality and Local Government Committee's report on Disability Related Harassment in Wales

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Wedi’i gwblhau

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Roedd cylch gorchwyl yr ymchwiliad fel a ganlyn:

Edrych yn benodol ar ganfyddiadau ymchwiliad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i aflonyddu ar sail anabledd yng Nghymru. Bydd y Pwyllgor hefyd yn ystyried:

  • sut y gall awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru wella eu dulliau o fynd i’r afael ag aflonyddu ar sail anabledd, yn enwedig awdurdodau tai, addysg, iechyd a thrafnidiaeth;
  • effeithlonrwydd dulliau gweithio aml-asiantaeth, gan gynnwys rhannu gwybodaeth a chanllawiau arferion da; a
  • y potensial i awdurdodau cyhoeddus gynnwys camau gweithredu i leihau aflonyddu ar sail anabledd yn eu strategaethau cydraddoldeb, fel sy’n ofynnol gan y dyletswyddau cydraddoldeb penodol newydd yng Nghymru.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14.59

 

NDM4918 Ann Jones (Dyffryn Clwyd)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol: Aflonyddu ar sail Anabledd yng Nghymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Rhagfyr 2011.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Dyddiad cyhoeddi: 23/02/2012

Dyddiad y penderfyniad: 22/02/2012

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 22/02/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad