Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem
am 15.30
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5205
William Graham (Dwyrain De Cymru)
Mae
Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi bod Llywodraeth y DU wedi sicrhau bod cymorth ar gael
i awdurdodau lleol yn Lloegr rewi'r
dreth gyngor am y drydedd flwyddyn yn olynol.
2.
Yn nodi ymhellach
bod Llywodraeth yr Alban wedi sicrhau bod cymorth ar gael i awdurdodau lleol yn yr
Alban rewi'r dreth gyngor ar gyfer
2013/2014; a bod y rhewi hwnnw
wedi bod ar waith ers 2008/2009.
3.
Yn credu bod rheidrwydd moesol ar awdurdodau lleol
i wario arian
cyhoeddus gyda gofal a doethineb; gan sicrhau bod cyfraddau'r dreth gyngor mor isel
â phosibl i breswylwyr.
4.
Yn gresynu at wrthodiad parhaus Llywodraeth Cymru i ddefnyddio cyllid canlyniadol i gynorthwyo awdurdodau lleol i rewi'r dreth gyngor
ledled Cymru; gan roi cymunedau
o dan anfantais o'u cymharu â'r
rhai yn Lloegr
a'r Alban.
5.
Yn gresynu ymhellach bod biliau'r dreth gyngor yng
Nghymru wedi cynyddu 148 y cant ers 1997/1998,
ac yn credu bod cynnydd andwyol o'r fath wedi
rhoi pwysau diangen ar aelwydydd
sydd o dan bwysau.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
12 |
0 |
42 |
54 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu pwynt
4 a rhoi yn ei le:
Yn credu mai awdurdodau
lleol ddylai benderfynu ar lefelau
gwariant awdurdodau lleol a'r dreth
gyngor, fel rhan o agenda lleoliaeth gynhwysfawr.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
42 |
0 |
12 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant
2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu
nad yw'r
dreth gyngor yn system drethiant gynyddol ac yn galw ar Lywodraeth
Cymru i archwilio a allai pwerau newydd
sydd wedi’u cynnig gan Gomisiwn
Silk ei galluogi i ddatblygu system drethiant decach i gyllido gwariant awdurdodau lleol.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
39 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5205
William Graham (Dwyrain De Cymru)
Mae
Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi bod Llywodraeth y DU wedi sicrhau bod cymorth ar gael
i awdurdodau lleol yn Lloegr rewi'r
dreth gyngor am y drydedd flwyddyn yn olynol.
2.
Yn nodi ymhellach
bod Llywodraeth yr Alban wedi sicrhau bod cymorth ar gael i awdurdodau lleol yn yr
Alban rewi'r dreth gyngor ar gyfer
2013/2014; a bod y rhewi hwnnw
wedi bod ar waith ers 2008/2009.
3.
Yn credu bod rheidrwydd moesol ar awdurdodau lleol
i wario arian
cyhoeddus gyda gofal a doethineb; gan sicrhau bod cyfraddau'r dreth gyngor mor isel
â phosibl i breswylwyr.
4.
Yn credu mai awdurdodau lleol ddylai benderfynu
ar lefelau gwariant awdurdodau lleol a'r dreth
gyngor, fel rhan o agenda lleoliaeth gynhwysfawr.
5.
Yn gresynu ymhellach bod biliau'r dreth gyngor yng
Nghymru wedi cynyddu 148 y cant ers 1997/1998,
ac yn credu bod cynnydd andwyol o'r fath wedi
rhoi pwysau diangen ar aelwydydd
sydd o dan bwysau.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
28 |
55 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog
6.20, defnyddiodd y Dirprwy
Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig
wedi’i ddiwygio. Felly,
gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 18/04/2013
Dyddiad y penderfyniad: 17/04/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 17/04/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad