Manylion y penderfyniad

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf ar agenda'r Cyfarfod Llawn. Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:

  • dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;

Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu cynnal.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.00

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5257 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn croesawu'r cyfle a roddir gan Ddiwrnod y Lluoedd Arfog i ddiolch i bawb sydd wedi gwasanaethu yn ein lluoedd a'r cymorth a roddwyd iddynt gan bobl Cymru.

2. Yn cydnabod cyfraniad gweithwyr nad ydynt yn rhai milwrol i ymdrechion rhyfel olynol.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynorthwyo gwasanaethau sydd wedi'u cyfeirio at gyn-filwyr ac ystyried cyflwyno Cynllun Cerdyn y Lluoedd Arfog, i gyn-filwyr a'r rhai sy'n gwasanaethu yn y lluoedd arfog, i gyd-fynd â digwyddiadau sy'n coffáu canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Chomisiwn y Cynulliad i ddatblygu a chyhoeddi rhaglen genedlaethol o ddigwyddiadau coffaol.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried gweithio gyda’r lluoedd arfog a phartneriaid eraill i sefydlu Amgueddfa Filwrol Genedlaethol i Gymru i goffáu'r dreftadaeth gyfoethog o aberth, dewrder a gwasanaeth personél milwrol a sifiliaid o Gymru, a phawb sydd wedi gwasanaethu eu gwlad ar adegau o wrthdaro arfog.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

0

15

54

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Dyddiad cyhoeddi: 06/06/2013

Dyddiad y penderfyniad: 05/06/2013

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 05/06/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad