Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem
am 15.46
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5268
William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn cydnabod yr angen am strategaeth
hedfan gynhwysfawr a chydlynol yng Nghymru.
2.
Yn cydnabod ymhellach gynigion Ceidwadwyr Cymru ar gyfer Maes
Awyr Caerdydd, a amlinellir yn
y cyhoeddiad, ‘Glasbrint ar gyfer Maes
Awyr Caerdydd’.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
12 |
0 |
38 |
50 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Elin
Jones (Ceredigion)
Dileu
pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn
cefnogi'r datblygiadau i Faes Awyr Caerdydd sydd wedi'u hwyluso gan y sector
cyhoeddus.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
34 |
4 |
12 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei
ddad-ddethol.
Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw am
ddatganoli cyfraddau'r Doll Teithwyr Awyr ar gyfer teithiau pell i Gymru, fel yr
argymhellwyd yn rhan 1 Comisiwn Silk, a bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno
cynigion ar gyfer cyfraddau Toll Teithwyr Awyr i Gymru er mwyn ategu
strategaeth hedfan nesaf Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
50 |
0 |
0 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i esbonio rôl a threfn lywodraethu Tasglu Maes Awyr Caerdydd
yng ngoleuni’r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi prynu Maes Awyr Caerdydd yn
ddiweddar.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
50 |
0 |
0 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
croesawu’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y gwasanaeth bws cyflym,
hirddisgwyliedig, o Gaerdydd i Faes Awyr Caerdydd, a addawyd yn gyntaf gan
Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2009, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailddatgan
ei hymrwymiad i gyflwyno’r gwasanaeth hwn ym mis Awst 2013.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
50 |
0 |
0 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 5.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5268 William
Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn cydnabod yr angen am strategaeth
hedfan gynhwysfawr a chydlynol yng Nghymru.
2.
Yn cefnogi'r datblygiadau i Faes Awyr Caerdydd sydd
wedi'u hwyluso gan y sector cyhoeddus.
3.
Yn galw am ddatganoli cyfraddau'r Doll Teithwyr Awyr ar
gyfer teithiau pell i Gymru, fel
yr argymhellwyd yn rhan 1 Comisiwn
Silk, a bod Llywodraeth Cymru
yn cyflwyno cynigion ar gyfer
cyfraddau Toll Teithwyr Awyr i Gymru er
mwyn ategu strategaeth hedfan nesaf Cymru.
4.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i esbonio rôl a threfn
lywodraethu Tasglu Maes Awyr Caerdydd
yng ngoleuni’r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi prynu
Maes Awyr Caerdydd yn ddiweddar.
5.
Yn croesawu’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y gwasanaeth bws cyflym, hirddisgwyliedig,
o Gaerdydd i Faes Awyr Caerdydd, a
addawyd yn gyntaf gan Lywodraeth
Cymru ym mis Gorffennaf 2009, ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ailddatgan ei hymrwymiad
i gyflwyno’r gwasanaeth hwn ym mis
Awst 2013.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
38 |
0 |
12 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 20/06/2013
Dyddiad y penderfyniad: 19/06/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 19/06/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad