Manylion y penderfyniad
Dadl Plaid Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem
am 16.48
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5269
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi rôl
allweddol y system gynllunio
o ran cyfrannu tuag at gynaliadwyedd economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol; a
2.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ddiwygio'r system gynllunio fel ei bod yn
adlewyrchu'n well egwyddorion
datblygu cynaliadwy, yn arbennig:
a) bod Cynlluniau Datblygu Lleol yn adlewyrchu
anghenion tai lleol yn well;
b)
bod yr iaith
Gymraeg yn dod yn ystyriaeth
gynllunio fwy ystyrlon; ac
c)
bod y system gynllunio'n hwyluso twf gwyrdd
yn well.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
34 |
0 |
16 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 20/06/2013
Dyddiad y penderfyniad: 19/06/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 19/06/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad