Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem
am 16.33
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5276
William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn credu bod angen cymorth brys
ar fusnesau bach ledled Cymru
ac yn galw ar Lywodraeth Cymru
i amlinellu ei chynigion am ymgyrch stryd fawr cyn
toriad yr haf;
2.
Yn gresynu mai'r gyfradd siopau
gwag ar y stryd fawr yng
Nghymru yw'r uchaf ar dir
mawr Prydain;
3.
Yn cydnabod y cynnydd mewn benthyca
gan Gyllid Cymru. Fodd bynnag, yn
credu bod angen dull mwy lleol o ran cael gafael ar
gyllid, ac felly'n galw ar Weinidog
yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i weithio gyda Chyllid
Cymru i asesu a yw'r pecyn ariannol
a gynigir i fusnesau yn gystadleuol yn y tymor hir;
4.
Yn nodi'r cynigion a amlinellwyd yn nogfennau Ceidwadwyr
Cymru ‘A Vision for the Welsh High Street’ ac ‘Invest Wales’ a'u cefnogaeth i fusnesau bach ledled
Cymru; a
5.
Yn nodi ymhellach
bwysigrwydd seilwaith trafnidiaeth i gynorthwyo'r economi genedlaethol a lleol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
41 |
52 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys ar
ddiwedd pwynt 2:
“ac
yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau
lleol i leihau ardrethi busnes ar gyfer tenantiaid
sy’n cymryd les eiddo sydd wedi
bod yn wag am o leiaf 12 mis, er mwyn
annog adleoli ac adfywio canol trefi”
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
44 |
8 |
0 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant
2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt
3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn cydnabod
y potensial i brentisiaethau
gynyddu elw a chynhyrchiant busnesau bach, ac felly’n galw ar Lywodraeth
Cymru i archwilio ffyrdd o wella mynediad at brentisiaethau ar gyfer busnesau
bach.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant
3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt
3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn cydnabod
pwysigrwydd bancio lleol i dwf economaidd
llwyddiannus a chynaliadwy busnesau mewn ardaloedd
gwledig, ac yn galw ar Lywodraeth
Cymru i archwilio ffyrdd o ehangu’r ddarpariaeth bancio cymunedol ac undebau credyd mewn cymunedau
gwledig.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant
4 - Elin Jones (Ceredigion)
Cynnwys pwynt
4 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn nodi
bod Cyllid Cymru wedi’i gyfyngu yn ei allu
i gynnig cyllid am gyfraddau cystadleuol, ac felly yn galw ar
Lywodraeth Cymru i edrych ar ddulliau
amgen o gyllido busnesau.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant
5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu pwynt
4.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
41 |
0 |
11 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 5.
Gwelliant
6 - Elin Jones (Ceredigion)
Cynnwys pwynt
5 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn nodi’r
cynigion a amlinellir yn ‘Cynllun C: Cynllun i Symud yr Economi Cymreig
Ymlaen’ gan Blaid Cymru i gefnogi
busnesau bach a chanolig a chanol trefi.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
36 |
5 |
11 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 6.
Gwelliant
7 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i ymestyn y cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach i gynnwys mwy o fusnesau ar y stryd fawr.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
28 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 7.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5276
William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn credu bod angen cymorth brys
ar fusnesau bach ledled Cymru
ac yn galw ar Lywodraeth Cymru
i amlinellu ei chynigion am ymgyrch stryd fawr cyn
toriad yr haf;
2.
Yn gresynu mai'r gyfradd siopau
gwag ar y stryd fawr yng
Nghymru yw'r uchaf ar dir
mawr Prydain ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau
lleol i leihau ardrethi busnes ar gyfer tenantiaid
sy’n cymryd les eiddo sydd wedi
bod yn wag am o leiaf 12 mis, er mwyn
annog adleoli ac adfywio canol trefi
3.
Yn cydnabod pwysigrwydd bancio lleol i dwf economaidd
llwyddiannus a chynaliadwy busnesau mewn ardaloedd
gwledig, ac yn galw ar Lywodraeth
Cymru i archwilio ffyrdd o ehangu’r ddarpariaeth bancio cymunedol ac undebau credyd mewn cymunedau
gwledig.
4.
Yn nodi bod Cyllid Cymru wedi’i
gyfyngu yn ei allu i gynnig
cyllid am gyfraddau cystadleuol, ac felly yn galw ar Lywodraeth
Cymru i edrych ar ddulliau amgen
o gyllido busnesau.
5.
Yn nodi’r cynigion a amlinellir yn ‘Cynllun C: Cynllun i Symud yr Economi Cymreig
Ymlaen’ gan Blaid Cymru i gefnogi
busnesau bach a chanolig a chanol trefi.
6.
Yn cydnabod y potensial i brentisiaethau gynyddu elw a chynhyrchiant
busnesau bach, ac felly’n galw ar
Lywodraeth Cymru i archwilio ffyrdd o wella mynediad at brentisiaethau ar gyfer busnesau bach.
7.
Yn cydnabod y cynnydd mewn benthyca
gan Gyllid Cymru. Fodd bynnag, yn
credu bod angen dull mwy lleol o ran cael gafael ar
gyllid, ac felly'n galw ar Weinidog
yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i weithio gyda Chyllid
Cymru i asesu a yw'r pecyn ariannol
a gynigir i fusnesau yn gystadleuol yn y tymor hir;
8.
Yn nodi ymhellach
bwysigrwydd seilwaith trafnidiaeth i gynorthwyo'r economi genedlaethol a lleol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
14 |
0 |
38 |
52 |
Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 27/06/2013
Dyddiad y penderfyniad: 26/06/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 26/06/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad