Manylion y penderfyniad

Dadl Plaid Cymru

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf ar agenda'r Cyfarfod Llawn. Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:

  • dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;

Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu cynnal.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.30

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5298 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi gyda phryder bod 48.9% o ddisgyblion Cymru yn gadael yr ysgol heb 5 TGAU A*-C gan gynnwys Cymraeg/Saesneg a mathemateg.

2. Yn nodi gyda phryder bod y bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion o gefndir difreintiedig a mwy breintiedig yn tyfu drwy'r cyfnodau allweddol, gan gyrraedd 33% yng Nghyfnod Allweddol 4.

3. Yn credu y dylid ailwerthuso polisïau i fynd i'r afael â lleoedd dros ben i gynorthwyo safonau uchel fel blaenoriaeth.

4. Yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod disgyblion yn gadael yr ysgol gyda chymwysterau perthnasol ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu sefydlu Cymwysterau Cymru yn sefydliad annibynnol i reoleiddio cymwysterau yn y lle cyntaf.

5. Yn cydnabod pwysigrwydd cau'r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion o gefndir difreintiedig a disgyblion o gefndir mwy breintiedig ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y grant amddifadedd disgyblion yn cael ei ddyrannu i bolisïau sy'n mynd i'r afael â hyn.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno ei chynigion cynhwysfawr i weithredu'r argymhellion yn adroddiad Hill.

7. Yn croesawu cytundeb Plaid Cymru gyda Llywodraeth Cymru i greu 5,650 o gyfleoedd prentisiaeth ychwanegol, gan roi cyfleoedd gwerthfawr i bobl ifanc ddatblygu eu sgiliau a chael gwaith. 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

34

0

17

51

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Dyddiad cyhoeddi: 18/07/2013

Dyddiad y penderfyniad: 17/07/2013

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 17/07/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad