Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.06
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
NDM5398 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn credu bod Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr yn
gryfach gyda’i gilydd fel rhan o’r Deyrnas Unedig.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
13 |
0 |
44 |
57 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Elin Jones (Ceredigion)
Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:
1. Yn credu y bydd y berthynas rhwng gwledydd Prydain yn cael
ei chryfhau drwy barchu hawl pobloedd Prydain i benderfynu ar eu dyfodol
cenedlaethol eu hunain.
2. Yn credu hefyd mai setliad cymdeithasol ac economaidd
newydd o bartneriaid cyfartal fyddai’r ffordd orau o ddarparu cyd-destun teg a
pharhaol ar gyfer cydweithredu yn yr ynysoedd hyn.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
47 |
58 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant
2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys ar ddiwedd y cynnig:
‘gyda mwy o bwerau wedi’u datganoli i bob un o’r pedair
gwlad’
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
45 |
13 |
0 |
58 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant
3 - Lesley Griffiths (Wrecsam)
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
croesawu’r hyn y mae datganoli wedi’i wneud i wella democratiaeth yng Nghymru
a’r Alban, a’i gyfraniad at y broses heddwch yng Ngogledd Iwerddon.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
58 |
0 |
0 |
58 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar y
cynnig wedi’i ddiwygio:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu bod Cymru,
yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr yn gryfach gyda’i gilydd fel rhan o’r
Deyrnas Unedig gyda mwy o bwerau wedi’u datganoli i bob un o’r pedair gwlad.
2. Yn croesawu’r hyn y mae datganoli wedi’i wneud i wella
democratiaeth yng Nghymru a’r Alban, a’i gyfraniad at y broses heddwch yng
Ngogledd Iwerddon.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
47 |
0 |
11 |
58 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 16/01/2014
Dyddiad y penderfyniad: 15/01/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 15/01/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad