Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau
o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
NDM4742 Nick Ramsay (Mynwy)
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) Cynnal adolygiad
cyhoeddus o Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 8: Ynni Adnewyddadwy (2005) a ddylai gynnwys y goblygiadau o ran cludo, yr amgylchedd, iechyd ac adeiladu wrth roi’r arweiniad
ar waith;
b) Cefnogi moratoriwm
ar adeiladau pob datblygiad fferm wynt, ac eithrio cynlluniau microgynhyrchu a phrosiectau sydd â chefnogaeth glir gan y gymuned,
yn yr Ardaloedd
Chwilio Strategol tan i’r adolygiad o TAN 8 ddod i ben; ac
c) Hyrwyddo ystod eang o ffynonellau adnewyddadwy er mwyn lleihau effaith cynlluniau trydan adnewyddadwy unigol gymaint ag sy’n bosibl.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
39 |
54 |
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1- Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys pwynt
1 newydd ac ailrifo’r pwyntiau sy'n dilyn:
Yn gwahodd y pwyllgor cyfrifol i gynnal ymchwiliad i faterion effeithiolrwydd ynni ac amgylcheddol polisi Cynllunio ac Ynni Adnewyddadwy Llywodraeth Cymru ac i adrodd cyn pen tri mis o ddechrau tymor yr Hydref.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
28 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Jane
Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 1a
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
39 |
0 |
15 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Jane Hutt
(Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 1b
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
39 |
0 |
15 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Peter
Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu nad oedd datganiad ysgrifenedig y Prif Weinidog ar 17 Mehefin yn cynnwys ymrwymiad i ddiwygio TAN 8.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
39 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Peter Black
(Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y byddai mwy o gymysgedd o ffynonellau ynni adnewyddadwy, yn cynnwys gwynt ar y môr, ynni’r llanw, a microgynhyrchu, yn lleihau’r angen yng Nghymru am y cynnydd sylweddol mewn capasiti gwynt ar y tir.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
43 |
0 |
11 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 5.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i hyrwyddo ystod eang o ffynonellau adnewyddadwy er mwyn lleihau effaith
cynlluniau trydan adnewyddadwy unigol gymaint ag sy’n
bosibl.
Yn credu y byddai mwy o gymysgedd o ffynonellau ynni adnewyddadwy, yn cynnwys gwynt ar y môr, ynni’r llanw, a microgynhyrchu, yn lleihau’r angen yng Nghymru am y cynnydd sylweddol mewn capasiti gwynt ar y tir.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
51 |
3 |
0 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 23/06/2011
Dyddiad y penderfyniad: 22/06/2011
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 22/06/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad