Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau
o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio:
NDM4743 Nick Ramsay (Mynwy)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu
adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Brosiectau Trafnidiaeth
Mawr (2011);
2. Yn nodi
â phryder fod llawer o brosiectau trafnidiaeth wedi ‘costio cryn dipyn
yn fwy ac wedi cymryd mwy
o amser i'w cwblhau na'r disgwyl’;
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cyllid ar gyfer prosiectau trafnidiaeth yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd effeithlon ac effeithiol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
16 |
0 |
38 |
54 |
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 -
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo’r
pwyntiau sy'n dilyn:
Yn croesawu’r rheolaeth ariannol well dros brosiectau trafnidiaeth a reolwyd gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
39 |
0 |
15 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Peter
Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu ei bod yn hanfodol i gadw prosiectau trafnidiaeth o fewn y gyllideb er mwyn sicrhau bod prosiectau eraill sydd mawr eu hangen yn gallu bwrw ymlaen.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
53 |
0 |
0 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu
adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Brosiectau Trafnidiaeth
Mawr (2011);
2. Yn nodi
â phryder fod llawer o brosiectau trafnidiaeth wedi ‘costio cryn dipyn
yn fwy ac wedi cymryd mwy
o amser i'w cwblhau na'r disgwyl’;
3. Yn croesawu’r rheolaeth ariannol well dros brosiectau trafnidiaeth a reolwyd gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cyllid ar gyfer prosiectau trafnidiaeth yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd effeithlon ac effeithiol.
5. Yn credu ei bod yn hanfodol i gadw prosiectau trafnidiaeth o fewn y gyllideb er mwyn sicrhau bod prosiectau eraill sydd mawr eu hangen yn gallu bwrw ymlaen.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
42 |
0 |
12 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 23/06/2011
Dyddiad y penderfyniad: 22/06/2011
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 22/06/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad