Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.55
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio:
NDM5444 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi pryderon a fynegwyd gan Syr Bruce
Keogh ynglyn ag amseroedd aros a chyfraddau marwolaeth yn GIG Cymru.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu ar
unwaith adolygiad annibynnol o ysbytai Cymru sydd â chyfraddau marwolaeth sy'n
uwch na'r cyfartaledd.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
20 |
0 |
31 |
51 |
Gwrthodwyd
y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu cylch
gwaith a swyddogaethau Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, yn dilyn y pryderon a
godwyd ynghylch amseroedd aros a chyfraddau marwolaeth yn GIG Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
26 |
51 |
Gwrthodwyd
gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu pa gamau
y mae wedi’u cymryd i adolygu perfformiad ysbytai gyda data Mynegai
Marwolaethau wedi'i Addasu yn ôl Risg (RAMI) sy’n uwch na’r disgwyl.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
51 |
0 |
0 |
51 |
Derbyniwyd
gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i
ddiwygio:
NDM5444 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi pryderon a fynegwyd gan Syr Bruce
Keogh ynglyn ag amseroedd aros a chyfraddau marwolaeth yn GIG Cymru.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu ar
unwaith adolygiad annibynnol o ysbytai Cymru sydd â chyfraddau marwolaeth sy'n
uwch na'r cyfartaledd.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu pa
gamau y mae wedi’u cymryd i adolygu perfformiad ysbytai gyda data Mynegai
Marwolaethau wedi'i Addasu yn ôl Risg (RAMI) sy’n uwch na’r disgwyl.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
26 |
51 |
Gwrthodwyd
y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 05/03/2014
Dyddiad y penderfyniad: 05/03/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 05/03/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad