Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 17.04
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio:
NDM5469 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y gwelliant diweddar yn economi'r
DU yn sgîl camau gweithredu Llywodraeth y DU.
2. Yn cydnabod mai 0.7% oedd twf cyffredinol
cynnyrch mewnwladol crynswth y DU ym mhedwerydd chwarter 2013.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydweithio â
Llywodraeth y DU i sicrhau twf economaidd hirdymor.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
12 |
0 |
40 |
52 |
Gwrthodwyd
y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu pwynt 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
35 |
0 |
17 |
52 |
Derbyniwyd
gwelliant 1.
Gan fod
gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn gresynu bod y data CMC diweddaraf yn dangos
dirywiad yn CMC Cymru o’i gymharu â’r cyfartaledd yn yr UE.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
35 |
0 |
17 |
52 |
Derbyniwyd
gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i sicrhau
bod dangosyddion economaidd allweddol, fel ystadegau CMC a GYC, yn cael eu
cyhoeddi’n rheolaidd er mwyn cyfrannu at bolisïau yn y dyfodol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
49 |
0 |
3 |
52 |
Derbyniwyd
gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn penderfynu bod angen cymryd camau ar frys i
wella ffyniant economaidd Cymru, yn cynnwys mabwysiadu strategaeth wedi’i
seilio ar sgiliau ac sy’n cael ei harwain gan allforio.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
27 |
53 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog
6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn
y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi’r effaith gadarnhaol y bydd creu mwy na
miliwn o brentisiaethau yn Lloegr ers 2010 wedi’i chael ar economi’r DU ac yn
gresynu at y ffaith bod nifer y bobl ar brentisiaethau yng Nghymru wedi gostwng
dros 26% rhwng 2006 a 2012.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
35 |
52 |
Gwrthodwyd
gwelliant 6.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i
ddiwygio:
NDM5469 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu bod y data CMC diweddaraf yn dangos
dirywiad yn CMC Cymru o’i gymharu â’r cyfartaledd yn yr UE.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydweithio â
Llywodraeth y DU i sicrhau twf economaidd hirdymor.
3. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i
sicrhau bod dangosyddion economaidd allweddol, fel ystadegau CMC a GYC, yn cael
eu cyhoeddi’n rheolaidd er mwyn cyfrannu at bolisïau yn y dyfodol.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd
y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 20/03/2014
Dyddiad y penderfyniad: 19/03/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 19/03/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad