Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.16
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio:
NDM5477 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod Llywodraeth y DU wedi sicrhau bod
cymorth ar gael i awdurdodau lleol yn Lloegr i rewi'r dreth gyngor am y
bedwaredd flwyddyn yn olynol.
2. Yn nodi ymhellach bod Llywodraeth yr Alban
wedi sicrhau bod cymorth ar gael i awdurdodau lleol yn yr Alban i rewi'r dreth
gyngor ar gyfer 2014/15; a bod rhewi o'r fath wedi bod ar waith ers 2008/09.
3. Yn credu bod rheidrwydd moesol ar awdurdodau
lleol i wario arian cyhoeddus gyda gofal a doethineb; sicrhau bod cyfraddau'r
dreth gyngor mor isel â phosibl i drigolion.
4. Yn gresynu at benderfyniad Llywodraeth Cymru i
wrthod gweithredu cynllun tebyg i un Lloegr, sy'n creu trothwy refferendwm o 2%
o ran cynnydd y dreth gyngor.
5. Yn gresynu ymhellach at y cynnydd cyfartalog o
4.2% yn y dreth gyngor o ran awdurdodau lleol Cymru ar gyfer 2014/15, a bod
biliau'r dreth gyngor wedi cynyddu dros 150% yng Nghymru ers 1997/98, ac yn
credu bod cynnydd andwyol o'r fath wedi rhoi pwysau diangen ar aelwydydd sydd
dan bwysau.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
39 |
50 |
Gwrthodwyd
y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â
hynny:
Yn nodi’r sefyllfa ariannol anodd sy’n wynebu
llywodraeth leol a’r tebygolrwydd o bwysau parhaol ar gyllidebau awdurdodau
lleol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
50 |
0 |
0 |
50 |
Derbyniwyd
gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â
hynny:
Yn cydnabod swyddogaeth y dreth gyngor o ran
darparu ffrwd refeniw i gynnal swyddi a gwasanaethau lleol ac yn credu bod
lefelau’r dreth gyngor yn fater i awdurdodau lleol unigol fel rhan o’u proses
cyllideb.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
40 |
10 |
0 |
50 |
Derbyniwyd
gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn credu er bod awdurdodau lleol yn gyfrifol am
bennu eu lefelau treth gyngor eu hunain, a’u bod yn atebol i’w hetholwyr am
hynny, y dylent wrth wneud hynny ystyried amgylchiadau economaidd talwyr y
dreth gyngor yn eu hardal.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
38 |
11 |
0 |
49 |
Derbyniwyd
gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Elin Jones (Ceredigion)
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:
Yn croesawu’r camau sydd wedi cael eu cymryd i
ddiogelu’r cartrefi tlotaf yng Nghymru rhag toriadau Llywodraeth y DU i gymorth
y dreth gyngor.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
35 |
0 |
15 |
50 |
Derbyniwyd
gwelliant 4.
Gan fod gwelliant 4 wedi’i dderbyn,
cafodd gwelliant 5 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 6 - Elin Jones (Ceredigion)
Dileu pwynt 5.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
35 |
0 |
15 |
50 |
Derbyniwyd
gwelliant 6.
Gwelliant 7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r cynnig yn y Bil Tai (Cymru) i
gynyddu’r dreth gyngor ar dai gwag, a oedd yn argymhelliad allweddol yn nadl
Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ar dai gwag ym mis Chwefror 2013.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
39 |
0 |
11 |
50 |
Derbyniwyd
gwelliant 7.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i
ddiwygio:
NDM5477 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod Llywodraeth y DU wedi sicrhau bod
cymorth ar gael i awdurdodau lleol yn Lloegr i rewi'r dreth gyngor am y
bedwaredd flwyddyn yn olynol.
2. Yn nodi ymhellach bod Llywodraeth yr Alban
wedi sicrhau bod cymorth ar gael i awdurdodau lleol yn yr Alban i rewi'r dreth
gyngor ar gyfer 2014/15; a bod rhewi o'r fath wedi bod ar waith ers 2008/09.
3. Yn cydnabod swyddogaeth y dreth gyngor o ran
darparu ffrwd refeniw i gynnal swyddi a gwasanaethau lleol ac yn credu bod
lefelau’r dreth gyngor yn fater i awdurdodau lleol unigol fel rhan o’u proses
cyllideb.
4. Yn nodi’r sefyllfa ariannol anodd sy’n wynebu
llywodraeth leol a’r tebygolrwydd o bwysau parhaol ar gyllidebau awdurdodau
lleol.
5. Yn credu er bod awdurdodau lleol yn gyfrifol
am bennu eu lefelau treth gyngor eu hunain, a’u bod yn atebol i’w hetholwyr am
hynny, y dylent wrth wneud hynny ystyried amgylchiadau economaidd talwyr y
dreth gyngor yn eu hardal.
6. Yn croesawu’r camau sydd wedi cael eu cymryd i
ddiogelu’r cartrefi tlotaf yng Nghymru rhag toriadau Llywodraeth y DU i gymorth
y dreth gyngor.
7. Yn croesawu’r cynnig yn y Bil Tai (Cymru) i
gynyddu’r dreth gyngor ar dai gwag, a oedd yn argymhelliad allweddol yn nadl
Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ar dai gwag ym mis Chwefror 2013.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
39 |
0 |
11 |
50 |
Derbyniwyd
y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 27/03/2014
Dyddiad y penderfyniad: 26/03/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 26/03/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad