Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.30
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio:
NDM5504 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu bod stryd fawr defnydd cymysg ac
economi briodol gyda'r nos yn allweddol i sicrhau goroesiad y stryd fawr yng
Nghymru;
2. Yn nodi'r cysylltiad rhwng twristiaeth,
treftadaeth ac adfywio;
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gan awdurdodau lleol,
ardaloedd gwella busnes a phrosiectau datblygu ddull cydgysylltiedig o ran
adfywio.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
45 |
0 |
5 |
50 |
Derbyniwyd
y cynnig heb ei ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 15/05/2014
Dyddiad y penderfyniad: 14/05/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 14/05/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad