Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.44
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr
eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5512 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi methiannau polisi Llafur Cymru yn ystod 15 mlynedd
mewn llywodraeth yng Nghymru;
2. Yn gresynu at y diffyg perfformiad yn:
a) Yr economi, gyda gwerth ychwanegol crynswth (GYC) bellach
ar 72.3% o gyfartaledd y DU;
b) Addysg, lle mae safle Cymru yn safleoedd PISA wedi dirywio
ym mhob cyfnod asesu;
c) Y GIG, gydag un o bob saith yng Nghymru ar restr aros
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
28 |
43 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddysgu o lwyddiant Llywodraeth
yr Alban o ran gwella twf economaidd a darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus mewn
cyd-destun datganoledig.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
6 |
15 |
22 |
43 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gan fod y Cynulliad wedi gwrthod y
cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliant i'r cynnig, gwrthodwyd y
cynnig.
Dyddiad cyhoeddi: 22/05/2014
Dyddiad y penderfyniad: 21/05/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 21/05/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad