Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.13
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio:
NDM5535
Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod aelwydydd a busnesau yng Nghymru yn cael
llawer o bost heb gyfeiriad nad yw byth yn cael ei agor ac sydd naill ai'n mynd
yn syth i'w dirlenwi neu'n cael ei ailgylchu;
2. Yn credu bod hwn yn straen ychwanegol ar:
a) busnesau, sy'n gorfod talu am waredu gwastraff; a
b) awdurdodau lleol, sydd â chyfrifoldeb am gasglu’r
gwastraff.
3. Yn pryderu am yr effaith amgylcheddol sy'n niweidiol i'n
hadnoddau naturiol, gyda phob tunnell o bost heb gyfeiriad arno yn defnyddio 17
o goed a 7000 galwyn o ddŵr i'w gynhyrchu;
4. Yn nodi ymhellach Ymgyrch Age Cymru ‘Sgamiau a Thwyll’.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cyhoeddusrwydd i
gynlluniau eithrio fel y Gwasanaeth Dewis Derbyn Post.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
33 |
0 |
13 |
46 |
Derbyniwyd
y cynnig heb ei ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 26/06/2014
Dyddiad y penderfyniad: 25/06/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 25/06/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad