Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.13
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio:
NDM5546 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd twristiaeth i economi Cymru;
2. Yn gresynu at:
a) diffyg cyllid Llywodraeth Cymru i Croeso Cymru;
b) penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddiddymu'r Partneriaethau
Twristiaeth Rhanbarthol;
c) uchelgais cul Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella nifer yr
ymwelwyr tramor â Chymru;
3. Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i ailedrych ar sut y mae'n ymgynghori â darparwyr
twristiaeth yng Nghymru ac yn cael ei harwain ganddynt.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
10 |
0 |
36 |
46 |
Gwrthodwyd
y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)
Dileu pwyntiau 2 a 3 a rhoi yn eu lle:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau y gall y diwydiant
twristiaeth wneud y mwyaf o botensial ein treftadaeth gyfoethog a'n hamgylchedd
amrywiol, yn ogystal â manteisio ar ddigwyddiadau diwylliannol a chwaraeon.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
32 |
0 |
15 |
47 |
Derbyniwyd
gwelliant 1.
Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd
gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella'r broses o gasglu a
monitro data sy'n gysylltiedig â thwristiaeth a gwybodaeth am y farchnad i
lywio blaenoriaethau strategol ar gyfer twristiaeth yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
47 |
0 |
0 |
47 |
Derbyniwyd
gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i
ddiwygio:
NDM5546 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd twristiaeth i economi Cymru;
2. Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau y gall y diwydiant twristiaeth wneud y mwyaf
o botensial ein treftadaeth gyfoethog a'n hamgylchedd amrywiol, yn ogystal â
manteisio ar ddigwyddiadau diwylliannol a chwaraeon.
3. Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i wella'r broses o gasglu a monitro data sy'n
gysylltiedig â thwristiaeth a gwybodaeth am y farchnad i lywio blaenoriaethau
strategol ar gyfer twristiaeth yng Nghymru.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
47 |
0 |
0 |
47 |
Derbyniwyd
y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 03/07/2014
Dyddiad y penderfyniad: 02/07/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 02/07/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad