Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr
eitem am 17.01
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y
cyfnod pleidleisio.
NNDM5555
Paul Davies (Preseli Penfro)
Elin Jones (Ceredigion)
Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r Cod Gweinidogol: Cod Moeseg a
Chanllawiau Gweithdrefnol i Weinidogion.
2. Yn nodi disgwyliad y Prif Weinidog bod yr
holl Weinidogion, Dirprwy Weinidogion a'r Cwnsler Cyffredinol yn cydymffurfio
â'r Cod
3. Yn nodi'r adroddiad i'r Prif Weinidog ar
gydymffurfiaeth y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd â'r Cod Gweinidogol mewn
perthynas â Cylchffordd Cymru, sy'n cadarnhau bod y Gweinidog Cyfoeth Naturiol
a Bwyd wedi torri'r Cod Gweinidogol
4. Yn galw am benodi Dyfarnwr Annibynnol y Cod
Gweinidogol er mwyn gwella tryloywder a, thrwy hynny, cynyddu hyder yn y rhai a
gaiff eu hethol i swyddi cyhoeddus.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
25 |
49 |
Gwrthodwyd y cynnig.
Dyddiad cyhoeddi: 10/07/2014
Dyddiad y penderfyniad: 09/07/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 09/07/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad