Manylion y penderfyniad
Dadl Plaid Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM4789
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd cyflogaeth yn y sector cyhoeddus i gymunedau
ledled y wlad; ac
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) Gyhoeddi ei chynllun ynghylch staffio swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn
y dyfodol;
b) Gwrthod unrhyw gynnig i gau swyddfeydd Llywodraeth Cymru;
c) Sicrhau dosbarthiad teg o swyddi Llywodraeth Cymru ledled Cymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
14 |
1 |
37 |
52 |
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 2 a rhoi
yn ei le:
2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i barhau â’r Strategaeth Leoli, sy’n ei gwneud yn bosibl i
Lywodraeth Cymru ddarparu swyddi a gwasanaethau o fewn adeiladau effeithlon a
hygyrch ar draws Cymru.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
40 |
0 |
14 |
54 |
Derbyniwyd
gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei hystâd yn cael ei defnyddio i’r eithaf i
gefnogi cymunedau ledled Cymru.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
54 |
0 |
0 |
54 |
Derbyniwyd
gwelliant 2.
Gwelliant 3 -
Nick Ramsay (Mynwy)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod pwysigrwydd swyddi Llywodraeth Cymru yn Llandrindod, y
Drenewydd, Caerfyrddin a Chaernarfon i’r economïau lleol.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
54 |
0 |
0 |
54 |
Derbyniwyd
gwelliant 3.
Gwelliant 4 -
Nick Ramsay (Mynwy)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd ati’n ddi-oed i egluro sefyllfa ei
swyddfeydd rhanbarthol mewn datganiad ysgrifenedig i Gynulliad Cenedlaethol
Cymru.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
53 |
0 |
0 |
53 |
Derbyniwyd
gwelliant 4.
Gwelliant 5 -
Nick Ramsay (Mynwy)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgynghori â’r undebau yn ei hadolygiad o
anghenion staffio mewn swyddfeydd rhanbarthol.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
53 |
0 |
0 |
53 |
Derbyniwyd
gwelliant 5.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4789
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd cyflogaeth yn y sector cyhoeddus i gymunedau
ledled y wlad; ac
2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i barhau â’r Strategaeth Leoli, sy’n ei gwneud yn bosibl i
Lywodraeth Cymru ddarparu swyddi a gwasanaethau o fewn adeiladau effeithlon a
hygyrch ar draws Cymru.
3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei hystâd yn cael ei defnyddio i’r eithaf i
gefnogi cymunedau ledled Cymru.
4. Yn cydnabod pwysigrwydd swyddi Llywodraeth Cymru yn Llandrindod, y
Drenewydd, Caerfyrddin a Chaernarfon i’r economïau lleol.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd ati’n ddi-oed i egluro sefyllfa ei
swyddfeydd rhanbarthol mewn datganiad ysgrifenedig i Gynulliad Cenedlaethol
Cymru.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgynghori â’r undebau yn ei hadolygiad
o anghenion staffio mewn swyddfeydd rhanbarthol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
39 |
0 |
15 |
54 |
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 14/07/2011
Dyddiad y penderfyniad: 13/07/2011
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 13/07/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad