Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.46
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5604 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi, er gwaethaf y
cyllid ychwanegol ar gyfer prentisiaethau yn y ddau gytundeb diwethaf ar y
gyllideb, fod toriadau yn ystod y flwyddyn o £10.7 miliwn wedi gadael darparwyr
dysgu yn nhir neb.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i nodi nifer y prentisiaethau a grëwyd ers 2011.
3. Yn galw ymhellach ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau y bydd yr astudiaeth derfynol o gylch gorchwyl Twf
Swyddi Cymru yn cynnwys gwerthusiad o'r sgiliau a ddatblygodd cyfranogwyr.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
38 |
49 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn croesawu cyhoeddiad cyllidebol Democratiaid
Rhyddfrydol Cymru a Llywodraeth Cymru o £10 miliwn ychwanegol i ddarparu tua
5,000 o brentisiaethau newydd dros y ddwy flynedd nesaf.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
30 |
0 |
19 |
49 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant
2 - Elin Jones (Ceredigion)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn cydnabod yr effaith sylweddol a chadarnhaol a gafodd y
cytundeb ar gyllideb 2013/14 rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru ar bobl
ifanc ac yn gresynu at benderfyniad y Llywodraeth i gymryd cam yn ôl a thorri'r
Rhaglen Recriwtiaid Newydd.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
38 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5604 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn
croesawu cyhoeddiad cyllidebol Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a Llywodraeth
Cymru o £10 miliwn ychwanegol i ddarparu tua 5,000 o brentisiaethau newydd dros
y ddwy flynedd nesaf.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i nodi nifer y prentisiaethau a grëwyd ers 2011.
3. Yn galw ymhellach ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau y bydd yr astudiaeth derfynol o gylch gorchwyl Twf
Swyddi Cymru yn cynnwys gwerthusiad o'r sgiliau a ddatblygodd cyfranogwyr.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
30 |
0 |
19 |
49 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 23/10/2014
Dyddiad y penderfyniad: 22/10/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 22/10/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad