Manylion y penderfyniad
The Constitutional and Legislative Affairs Committee Report on the Inquiry into Disqualification from Membership of the National Assembly for Wales
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Ymchwiliad ar droed
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Mae'r Pwyllgor
Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wedi cytuno i gynnal ymchwiliad i
anghymhwyso person rhag bod yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac mae'n
cynnal ymgynghoriad ar faterion penodol.
Mae'r Pwyllgor yn cynnal yr ymchwiliad yn dilyn cais
gan y Prif Weinidog. Bydd adroddiad y Pwyllgor yn llywio trafodaeth Llywodraeth
Cymru ynghylch cynnwys Gorchymyn Anghymhwyso nesaf Cynulliad Cenedlaethol
Cymru, y bydd angen penderfynu arno cyn etholiad nesaf y Cynulliad ym mis Mai
2016. Cylch gorchwyl yr ymchwiliad yw trafod y canlynol:
- yr egwyddorion
sy'n sail i ddynodi'r swyddi sy'n anghymwyso person rhag bod yn aelod o
Gynulliad Cenedlaethol Cymru a nodir yng Ngorchymyn Cynulliad Cenedlaethol
Cymru (Anghymhwyso) 2010 a, cyhyd ag y bo modd, argymell rhestr newydd o
swyddi a'r mathau o gyflogaeth sy'n anghymwyso;
- yr amser pryd y
daw anghymwysiadau i rym;
- a ddylai'r Cyfrin
Gyngor lunio Gorchmynion Anghymhwyso yn ddwyieithog; ac
- unrhyw faterion
eraill sy'n ymwneud ag anghymhwyso person rhag bod yn Aelod o'r Cynulliad.
Tystiolaeth
gan y cyhoedd
Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystoliaeth am y testun yma
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 14.50
NDM5610 David Melding (Canol
De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar
ei ymchwiliad i Anghymhwyso Person rhag bod yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol
Cymru, a gafodd ei osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Gorffennaf 2014.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 06/11/2014
Dyddiad y penderfyniad: 05/11/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 05/11/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad