Manylion y penderfyniad
Dadl Plaid Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.24
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5611 Elin Jones
(Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu at y ffaith bod y bwlch anghydraddoldeb rhwng y bobl a'r
rhanbarthau tlotaf a'r rhai cyfoethocaf wedi tyfu o dan y naill Lywodraeth y DU
ar ôl y llall.
2. Yn nodi bod GYC y pen yng Ngorllewin Cymru a'r Cymoedd yn 62.7% o
gyfartaledd y DU tra bod GYC y pen yng nghanol Llundain yn 308.8%.
3. Yn cydnabod yr angen i newid cydbwysedd economi'r DU i ffwrdd o
grynodiad o gyfoeth yn ne-ddwyrain Lloegr.
4. Yn nodi ffocws strategaeth economaidd Llywodraeth y DU ar y sector
gwasanaethau ariannol ac yn nodi ymhellach, er y gall hwn fod yn sector twf yng
Nghymru, fod gweithgynhyrchu, cynhyrchu ac allforion wrth wraidd economi Cymru.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) canolbwyntio ar wireddu ac adeiladu ar botensial economaidd Cymru;
b) blaenoriaethu buddsoddiadau seilwaith mewn ardaloedd sydd ei angen
fwyaf;
c) sefydlu banc busnes sy'n eiddo i'r cyhoedd i gynnig cyllid i fusnesau
bach ar gyfraddau cystadleuol; a
d) ymestyn y cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach i fod yn gymwys i
bob busnes sydd â gwerth ardrethol o £15,000 neu lai.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
10 |
0 |
40 |
50 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ym mhwynt 1, ar ôl DU mewnosoder "a Llywodraeth
Cymru"
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
35 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant
2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnwys ar ddiwedd pwynt 3:
ac yn cydnabod hefyd yr angen i newid cydbwysedd economi
Cymru i ffwrdd o grynodiad o gyfoeth ar hyd coridor de Cymru (yr M4).
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
35 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant
3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod y sefydlogrwydd economaidd sy'n deillio o
bolisïau Llywodraeth y DU sydd yn ysgogi twf economaidd ledled y DU.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
35 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant
4 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu is-bwynt 5(d).
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
25 |
5 |
20 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant
5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 5:
Paratoi strategaeth allforio glir i Gymru i uno
dyfeisgarwch sector preifat â chefnogaeth sector cyhoeddus.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 5:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
26 |
51 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol
Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lwydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio
yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant
6 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fabwysiadu cynigion y
Ceidwadwyr Cymreig sy'n cynnwys cael gwared ar Cyllid Cymru a sefydlu Buddsoddi
Cymru yn ei le.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 6:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
10 |
0 |
40 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 6.
Gwelliant
7 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y dirywiad yn GYC Cymru o dan 15 mlynedd o
Lywodraeth Lafur yng Nghymru.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 7:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
35 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 7.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5611 Elin Jones
(Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu at y ffaith bod y bwlch anghydraddoldeb rhwng y bobl a'r
rhanbarthau tlotaf a'r rhai cyfoethocaf wedi tyfu o dan y naill Lywodraeth y DU
ar ôl y llall.
2. Yn nodi bod GYC y pen yng Ngorllewin Cymru a'r Cymoedd yn 62.7% o
gyfartaledd y DU tra bod GYC y pen yng nghanol Llundain yn 308.8%.
3. Yn cydnabod yr angen i newid cydbwysedd economi'r DU i ffwrdd o grynodiad
o gyfoeth yn ne-ddwyrain Lloegr.
4. Yn nodi ffocws strategaeth economaidd Llywodraeth y DU ar y sector
gwasanaethau ariannol ac yn nodi ymhellach, er y gall hwn fod yn sector twf yng
Nghymru, fod gweithgynhyrchu, cynhyrchu ac allforion wrth wraidd economi Cymru.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) canolbwyntio ar wireddu ac adeiladu ar botensial economaidd Cymru;
b) blaenoriaethu buddsoddiadau seilwaith mewn ardaloedd sydd ei angen
fwyaf;
c) sefydlu banc busnes sy'n eiddo i'r cyhoedd i gynnig cyllid i fusnesau
bach ar gyfraddau cystadleuol.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
35 |
0 |
15 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 06/11/2014
Dyddiad y penderfyniad: 05/11/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 05/11/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad