Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM4798 William
Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi â phryder bod llai na hanner gorsafoedd rheilffordd Cymru yn hollol hygyrch i bobl anabl;
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) Wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy hygyrch, drwy ddarparu gwybodaeth glyweledol ac ymestyn y Cerdyn Bws Cydymaith;
b) Hybu ymwybyddiaeth a hyfforddiant staff mewn perthynas â gofynion teithwyr anabl.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
23 |
0 |
33 |
56 |
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau ei bod yn ymgynghori’n llawn â phobl anabl
a chynrychiolwyr grwpiau anabledd wrth ddatblygu
unrhyw gynlluniau ar gyfer gwella
hygyrchedd i drafnidiaeth gyhoeddus
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
56 |
0 |
0 |
56 |
Derbyniwyd
gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i
ddiwygio:
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi
â phryder bod llai na hanner
gorsafoedd rheilffordd
Cymru yn hollol hygyrch i bobl anabl;
2. Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i:
a) Wneud trafnidiaeth
gyhoeddus yn fwy hygyrch, drwy
ddarparu gwybodaeth glyweledol ac ymestyn y Cerdyn Bws Cydymaith;
b) Hybu ymwybyddiaeth a hyfforddiant staff mewn perthynas â gofynion teithwyr anabl.
3. Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i sicrhau ei bod yn ymgynghori’n llawn â phobl anabl
a chynrychiolwyr grwpiau anabledd wrth ddatblygu
unrhyw gynlluniau ar gyfer gwella
hygyrchedd i drafnidiaeth gyhoeddus
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
29 |
56 |
Gwrthodwyd y cynnig wedi’I ddiwygio
Gan fod y Cynulliad
wedi gwrthod y cynnig heb ei
ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliant I’r cynnig, nid
yw’r cynnig wedi gymeradwyo.
Dyddiad cyhoeddi: 22/09/2011
Dyddiad y penderfyniad: 21/09/2011
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 21/09/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad