Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.14
NDM5624 Paul Davies (Preseli
Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae pobl hŷn yn ei wneud i
les cymdeithasol ac economaidd Cymru a phwysigrwydd sicrhau bod hawliau pobl
hŷn yn cael eu hadlewyrchu mewn polisïau a deddfwriaeth Llywodraeth Cymru.
2. Yn nodi cyhoeddi'r ddogfen 'Lle i'w Alw'n Gartref', adolygiad gan y
Comisiynydd Pobl Hŷn o ofal pobl hŷn sy'n byw mewn cartrefi gofal yng
Nghymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r Comisiynydd Pobl
Hŷn i fwrw ymlaen â'r argymhellion yn yr adolygiad.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i asesu a nodi gofynion hyfforddiant
sylfaenol ar gyfer gweithwyr cartref gofal sy'n ymgorffori egwyddorion urddas a
pharch.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 20/11/2014
Dyddiad y penderfyniad: 19/11/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 19/11/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad