Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb
ei ddiwygio:
NDM4816 William Graham (Dwyrain
De Cymru):
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi
bod mwy o bobl yn cael diagnosis o ganser;
2. Yn mynegi
pryder bod amseroedd aros targed ar
gyfer cleifion canser yn cael
eu methu; a
3. Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i sefydlu Cronfa Cyffuriau Canser Cymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
16 |
0 |
38 |
54 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ym mhwynt 1, ar ôl
“ganser”, rhoi “, i raddau helaeth oherwydd bod y boblogaeth hŷn yn
tyfu a bod ein technegau diagnosis yn llawer gwell erbyn hyn.”
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
42 |
11 |
1 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 2, a rhoi
yn ei le: “Yn nodi bod angen sicrhau bod amseroedd aros i rai cleifion canser
yn fyrrach, ac yn cydnabod y gwaith sy’n parhau i fynd i’r afael â hyn.”
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
38 |
0 |
16 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei
le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i lunio a gweithredu Cynllun Canser Cenedlaethol.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
54 |
0 |
0 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Ni chafodd gwelliant 4 ei ddewis gan
fod gwelliant 3 wedi’i dderbyn.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i
ddiwygio:
NDM4816 William Graham (Dwyrain
De Cymru):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod mwy o bobl yn cael diagnosis o ganser, i raddau helaeth oherwydd bod y boblogaeth hŷn yn tyfu a bod ein technegau diagnosis yn llawer gwell erbyn hyn;
2. Yn nodi bod angen sicrhau bod amseroedd aros i rai cleifion canser yn fyrrach, ac yn cydnabod y gwaith sy’n parhau i fynd i’r afael â hyn; a
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio a gweithredu Cynllun Canser Cenedlaethol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
54 |
0 |
0 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 06/10/2011
Dyddiad y penderfyniad: 05/10/2011
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 05/10/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad