Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.01
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5684
Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi na fu unrhyw welliant sylweddol yn nifer y
teithwyr sy'n teithio drwy Faes Awyr Caerdydd ers i Lywodraeth Cymru gymryd
perchnogaeth o'r maes awyr.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed o
ran datblygu llwybrau newydd o'r maes awyr a chynyddu gweithrediadau cludo
nwyddau;
b) cyhoeddi prisiad marchnad cyfredol ar gyfer Maes Awyr
Caerdydd; ac
c) cyhoeddi strategaeth glir a chynhwysfawr er budd
teithwyr, busnesau a threthdalwyr sy'n cynnwys cynigion ar gyfer llwybrau hir
ac yn archwilio pob opsiwn ar gyfer dyfodol Maes Awyr Caerdydd, gan gynnwys
dychwelyd y maes awyr i berchnogaeth breifat.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
42 |
53 |
Gwrthodwyd
y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 – Elin Jones (Ceredigion)
Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi y bydd gwelliant yn nifer y teithwyr sy'n teithio
drwy Faes Awyr Caerdydd yn y dyfodol yn dibynnu ar gefnogaeth llywodraeth a
rheolaeth fasnachol gadarn.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
37 |
0 |
16 |
53 |
Derbyniwyd
gwelliant 1.
Gwelliant
2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi dod yn
berchennog ar Faes Awyr Caerdydd heb baratoi achos busnes llawn dros wneud
hynny yn gyntaf.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
16 |
0 |
37 |
53 |
Gwrthodwyd
gwelliant 2.
Gwelliant
3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i weithio
gyda'i gilydd i ddatganoli toll teithiau awyr pell i Gynulliad Cenedlaethol
Cymru.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
53 |
0 |
0 |
53 |
Derbyniwyd
gwelliant 3.
Gwelliant
4 - Elin Jones (Ceredigion)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cyhoeddi strategaeth twf clir a chynhwysfawr, gan
gynnwys cynigion ar gyfer llwybrau pell;
b) archwilio pob opsiwn ar gyfer dyfodol Maes Awyr
Caerdydd, gan gynnwys modelau buddsoddi cyhoeddus a phreifat; ac
c) sicrhau datganoli toll teithwyr awyr er mwyn cynhyrchu
llwybrau ychwanegol, cynyddu nifer y teithwyr a rhoi hwb i economi Cymru.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
38 |
53 |
Gwrthodwyd
gwelliant 4.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5684
Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi y bydd gwelliant yn nifer y teithwyr sy'n
teithio drwy Faes Awyr Caerdydd yn y dyfodol yn dibynnu ar gefnogaeth
llywodraeth a rheolaeth fasnachol gadarn.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i
weithio gyda'i gilydd i ddatganoli toll teithiau awyr pell i Gynulliad
Cenedlaethol Cymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed o
ran datblygu llwybrau newydd o'r maes awyr a chynyddu gweithrediadau cludo
nwyddau;
b) cyhoeddi prisiad marchnad cyfredol ar gyfer Maes Awyr
Caerdydd; ac
c) cyhoeddi strategaeth glir a chynhwysfawr er budd
teithwyr, busnesau a threthdalwyr sy'n cynnwys cynigion ar gyfer llwybrau hir
ac yn archwilio pob opsiwn ar gyfer dyfodol Maes Awyr Caerdydd, gan gynnwys
dychwelyd y maes awyr i berchnogaeth breifat.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
38 |
53 |
Gwrthodwyd
y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 05/02/2015
Dyddiad y penderfyniad: 04/02/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 04/02/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad