Manylion y penderfyniad
Dadl Plaid Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.50
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5695 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
baratoi cynllun gweithlu cenedlaethol 10 mlynedd newydd ar gyfer y GIG, sy'n
cynnwys camau i hyfforddi a recriwtio 1,000 o feddygon ychwanegol, er mwyn
sicrhau bod y GIG yn gallu darparu gwasanaethau iechyd ym mhob rhan o Gymru.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
10 |
0 |
38 |
48 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu popeth ar ôl 'cynllun gweithlu cenedlaethol 10
mlynedd newydd ar gyfer y GIG,' a rhoi yn ei le 'sy'n sicrhau bod camau'n cael
eu cymryd i hyfforddi a recriwtio digon o feddygon, nyrsys a gweithwyr gofal
iechyd proffesiynol eraill i sicrhau bod iechyd a gofal cymdeithasol ledled
Cymru yn barod ar gyfer y dyfodol '.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
20 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gan
fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Gwelliant
3 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y ffaith bod y naill Lywodraeth Cymru ar ôl
y llall wedi methu â chynllunio'n effeithiol ar gyfer anghenion gweithlu'r GIG
yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
23 |
0 |
25 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5695 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
baratoi cynllun gweithlu cenedlaethol 10 mlynedd newydd ar gyfer y GIG, sy'n
sicrhau bod camau'n cael eu cymryd i hyfforddi a recriwtio digon o feddygon,
nyrsys a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill i sicrhau bod iechyd a
gofal cymdeithasol ledled Cymru yn barod ar gyfer y dyfodol.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
48 |
0 |
0 |
48 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 12/02/2015
Dyddiad y penderfyniad: 11/02/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 11/02/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad