Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am
15.03
Gohiriwyd y
bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5750 Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth
Cymru wedi methu â diogelu ysbytai rhag cael eu cau a'u hisraddio.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
10 |
0 |
23 |
33 |
Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Elin
Jones (Ceredigion)
Cynnwys ar ddiwedd y Cynnig:
'ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu
proses gynllunio genedlaethol ar gyfer darparu ysbytai dosbarth ac arbenigol
yng Nghymru'
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
16 |
0 |
17 |
33 |
Gwrthodwyd Gwelliant 1.
Gwelliant 2 – Aled
Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu'r cyllid o £5.3 miliwn a
sicrhawyd ar gyfer Ysbyty Coffa Llandrindod yn y cytundeb cyllideb diweddar
rhwng Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a Llywodraeth Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
19 |
14 |
0 |
33 |
Derbyniwyd Gwelliant 2.
Gwelliant 3 – Aled
Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:
Yn galw am ailfywiogi ysbytai cymunedol a
gwasanaethau yn y gymuned.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
16 |
0 |
17 |
33 |
Gwrthodwyd Gwelliant 3.
Gwelliant 4 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i sicrhau dyfodol gwasanaethau mamolaeth o dan arweiniad meddyg
ymgynghorol, gynaecoleg, a llawfeddygaeth y fron yn y tri ysbyty yng ngogledd
Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
16 |
0 |
17 |
33 |
Gwrthodwyd Gwelliant 4.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5750 Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth
Cymru wedi methu â diogelu ysbytai rhag cael eu cau a'u hisraddio.
2. Yn croesawu'r cyllid o £5.3 miliwn a
sicrhawyd ar gyfer Ysbyty Coffa Llandrindod yn y cytundeb cyllideb diweddar
rhwng Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a Llywodraeth Cymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
8 |
8 |
17 |
33 |
Gwrthodwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 07/05/2015
Dyddiad y penderfyniad: 06/05/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 06/05/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad